13 Mawrth 2025

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfres o Ddosbarthiadau Meistr; Meistr ar Borfa a MasterRegen, sydd wedi’u cynllunio i wella sgiliau technegol a pherfformiad y busnes i ffermwyr.  
Bydd y gweithdai hyn yn darparu cymysgedd o ddysgu ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol mewn grwpiau bach. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael y cyfle i ddysgu oddi wrth ffermwyr profiadol, arbenigwyr blaenllaw ac ymgynghorwyr. Bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer y Dosbarthiadau Meistr hyn yn agor 17 Mawrth ac yn cau 7 Ebrill, 2025.

Bydd y gweithdy Meistr ar Borfa a gynhelir dros ddau ddiwrnod yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ffermwyr i sicrhau’r rheolaeth gorau posibl ar y borfa, gwella gwytnwch y busnes a gwella proffidioldeb wrth leihau eu hôl-troed carbon.

Bydd y gweithdai’n rhoi sylw i leihau costau mewnbwn, rheoli porfa a defnyddio meddalwedd, cynllunio systemau padog, cyfrifo’r galw am fwyd, defnyddio ffens drydan ac edrych ar systemau dŵr hyblyg. 

Bydd Rhys Williams a Sarah Morgan o Precision Grazing Ltd yn arwain y gweithdai Meistr ar Borfa, gan rannu eu harbenigedd mewn systemau pori a rheoli’r borfa. 

"System rheoli pori da yw sylfaen busnes fferm proffidiol, gwydn. Bydd y gweithdai Meistr ar Borfa yn rhoi'r sgiliau ymarferol a'r hyder i ffermwyr wneud gwell defnydd o'u porfa, lleihau costau, a gwella effeithlonrwydd. Mae dysgu gan arbenigwyr blaenllaw a ffermwyr profiadol mewn lleoliad ymarferol yn gwneud hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd am fynd â'u pori i'r lefel nesaf," meddai Rhys Williams.

Bydd 3 gweithdy Meistr ar Borfa’n cael eu cynnal ledled Cymru (Gogledd, Canolbarth a’r De) ar 6-7 Mai, 8-9 Mai a 12-13 Mehefin, 2025. Bydd y lleoliadau’n cael eu cadarnhau ar ôl i’r ceisiadau gael eu hasesu.

Gweithdy rhagarweiniol yw’r MasterRegen i ffermwyr ddysgu egwyddorion ffermio da byw adfywiol. Mae’n canolbwyntio ar systemau proffidiol sy’n cyflawni manteision ariannol ac amgylcheddol.

Bydd y gweithdy hwn yn cynnwys gwella iechyd y pridd, datblygu mentrau da byw mewnbwn isel, dewis geneteg da byw addas, cyfrifo cyfraddau stocio a chreu modelau busnes cynaliadwy.

Bydd James Daniel, o Precision Grazing Ltd, yn dysgu’r gweithdy MasterRegen, gan rannu ei wybodaeth am bori adfywiol a rheoli busnes y fferm. 

"Mae'r Dosbarthiadau Meistr hyn yn ymwneud â dysgu ymarferol y gall ffermwyr ei roi ar waith ar unwaith. Maent yn cynnig cyfle gwerthfawr i gamu'n ôl o'r llwyth gwaith dyddiol a chanolbwyntio ar weithio ar y busnes, nid ynddo yn unig. Gyda grwpiau bach, digon o drafod, ac arweiniad arbenigol, bydd ffermwyr yn magu hyder mewn sgiliau newydd, yn cyfnewid syniadau â chymheiriaid o'r un anian, ac yn gadael gydag atebion ymarferol y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith," meddai James Daniel.

Bydd y gweithdy MasterRegen yn cael ei gynnal ar 12-13 Mehefin, 2025, gyda’r lleoliad i’w gadarnhau ar ôl i’r ffenestr ymgeisio gau.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am Ddosbarth Meistr Cyswllt Ffermio gwasgwch yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes
Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi