Cig Coch

Fel busnes cig coch, mae’r opsiynau grŵp trafod isod ar gael i chi. Bydd bod yn aelod o un o’r grwpiau hyn nid yn unig yn caniatáu i chi weithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant, ond bydd hefyd yn annog dysgu rhwng cyfoedion a rhannu syniadau i’ch galluogi i feithrin cysylltiadau a dysgu mewn amgylchedd grŵp deinamig.

Bydd grwpiau glaswelltir yn canolbwyntio ar:

  • Rheoli a sicrhau perfformiad y fferm ar gyfer systemau gwydn a chynhyrchiol
  • Gwneud y defnydd gorau o laswelltir i leihau mewnbynnau a gwneud y defnydd gorau o faetholion ar y fferm
  • Lleihau mewnbynnau allanol a sicrhau dwysedd stocio ar gyfer lleihau allyriadau ar y fferm a gwneud y mwyaf o atafaeliad carbon
  • Diogelu a gwella ecosystemau fferm drwy wella iechyd y pridd a chynyddu amrywiaeth ar ffermydd
  • Symud ffermwyr tuag at Reoli Tir yn Gynaliadwy

Bydd grwpiau da byw yn canolbwyntio ar:

  • Gwella iechyd a pherfformiad anifeiliaid
  • Paratoi eich busnes ar gyfer newidiadau ac ansicrwydd yn y dyfodol
  • Hyrwyddo a chyflawni mwy o gynaliadwyedd
  • Rhoi arferion rheoli cadarnhaol ar waith ar y fferm

Bydd grwpiau busnes yn canolbwyntio ar:

  • Rheoli a sicrhau perfformiad y fferm
  • Meithrin gwytnwch
  • Cefnogi newid
  • Rheolaeth ariannol
  • Symud tuag at gyfnod ar ôl y Taliad Sengl

Cliciwch ar y dolenni isod i weld rhagor o fanylion am gynnwys y rhaglen unigol cyn llenwi'r ffurflen gais.

Bydd y rhain yn cael eu rhannu'n grwpiau lefel Mynediad ac Uwch. Gweler y pynciau amlinellol i benderfynu pa un fyddai'n gweddu orau i'ch busnes