Busnes Cig Coch

Bydd y Rhaglen Fusnes yn cael ei rhannu’n ddwy lefel a bydd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

Lefel y Rhaglen

Pynciau’r Cyfarfodydd Busnes Cig Coch

Lefel Mynediad

  • Ffermio fel Busnes
  • Adolygu Busnes a Phennu Nodau
  • Cost Cynhyrchu
  • Rheoli Amser a Phobl
  • Cydweithio ac Olyniaeth

Lefel Uwch

  • Datblygiad Personol
  • Cynllunio Busnes
  • Adolygu Busnes, Pennu Nodau a Chasglu Data
  • Meincnodi Ariannol
  • Cynllun System Ffermio
*Sylwer y gall y rhain gael eu haddasu i weddu i aelodau'r grŵp a systemau ffermio

 

Dull Cyflwyno

  • Rhennir yr aelodau yn grwpiau rhanbarthol (lle bo modd).
  • Bydd cyfarfodydd yn cael eu cyflwyno fel:
    • 3 x cyfarfod ar y fferm (3-4 awr)
    • 1x cyfarfod rhithwir (1-2 awr).
    • 1 x sesiwn un i un gyda phob ffermwr
  • Grwpiau WhatsApp sector-benodol i hwyluso trafodaeth a rhannu syniadau rhwng cyfarfodydd
  • Bydd Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu mesur i deilwra cyfarfodydd i anghenion y grŵp ac i helpu i annog newid a gwelliant.