Glaswelltir Cig Coch
Bydd y Rhaglen yn cael ei rhannu’n dair lefel a bydd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
Lefel y Rhaglen |
Pynciau’r Cyfarfodydd |
Mae Lefel Mynediad ar gyfer busnesau sydd eisiau deall egwyddorion iechyd y pridd, rheoli porfa a systemau pori er mwyn gwella gwytnwch a phroffidioldeb eu busnes ffermio. |
|
Lefel Uwch - bydd yn darparu cymorth i fusnesau sydd wedi rhoi systemau pori ar waith ar eu fferm i sicrhau eu rheolaeth a’u cynnydd. |
|
Lefel Uwch Estynedig - bydd yn darparu cymorth i fusnesau sydd wedi rhoi systemau pori ar waith ar eu fferm i sicrhau eu rheolaeth a’u cynnydd. |
|
*Sylwer y gallai'r rhain gael eu haddasu i weddu i aelodau'r grŵp a systemau ffermio
Dull Cyflwyno
- Bydd grwpiau’n cael eu rhoi at ei gilydd fesul sector lle bo’n bosibl: Ffermwyr Bîff a Defaid / Ffermwyr Llaeth
- Bydd yr aelodau'n cael eu rhannu'n grwpiau rhanbarthol.
- Cyfarfodydd fesul grŵp rhanbarthol fel a ganlyn:
- 3 x cyfarfod ar y fferm (3-4 awr)
- 1x cyfarfod rhithwir (1-2 awr).
- 1 x sesiwn un i un gyda phob ffermwr
- Grwpiau WhatsApp sector-benodol i hwyluso trafodaeth a rhannu syniadau rhwng cyfarfodydd
- Bydd disgwyl i fusnesau gasglu data ar set o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol.