Da Byw Cig Coch

Bydd y Rhaglen Da Byw yn cael ei rhannu’n ddwy lefel a bydd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

Lefel y Rhaglen

Pynciau’r Cyfarfodydd Da Byw - Defaid

Pynciau’r Cyfarfodydd Da Byw – Y Fuches Sugno

Lefel Mynediad

  • Rheoli tyfiant ŵyn
  • Paratoi ar gyfer Hyrdda
  • Perfformiad y ddiadell
  • Maeth
  • Rheoli mamogiaid cyn/ar ôl wyna
  • Monitro a rheoli ffrwythlondeb
  • Perfformiad y fuches – mynegai, cyfnodau lloia, a lloi a fagwyd fesul buwch
  • Maeth
  • Cynllunio Iechyd y Fuches
  • Rheoli pori

Lefel Uwch

  • Sicrhau tyfiant a chynhyrchiant ŵyn
  • Clefydau ac anhwylderau
  • Perfformiad y ddiadell
  • Cynllun bwydo ar gyfer y gaeaf - cnydau porthiant
  • Archwilio Carbon a bioamrywiaeth
  • Siediau gwartheg a systemau’r gaeaf
  • Geneteg
  • Archwilio carbon
  • Adolygiad Ffrwythlondeb ac Iechyd

*Sylwer y gallai'r rhain gael eu haddasu i weddu i aelodau'r grŵp a systemau ffermio

 

Dull Cyflwyno

  • Rhennir yr aelodau yn grwpiau rhanbarthol (lle bo modd).
  • Bydd cyfarfodydd yn cael eu cyflwyno fel:
    • 3 x cyfarfod ar y fferm (3-4 awr)
    • 1x cyfarfod rhithwir (1-2 awr).
    • 1 x sesiwn un i un gyda phob ffermwr
  • Grwpiau WhatsApp sector-benodol i hwyluso trafodaeth a rhannu syniadau rhwng cyfarfodydd
  • Bydd Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu mesur i deilwra cyfarfodydd i anghenion y grŵp ac i helpu i annog newid a gwelliant.