Llaeth
Fel busnes llaeth, mae’r opsiynau grŵp trafod isod ar gael i chi. Bydd bod yn aelod o un o’r grwpiau hyn nid yn unig yn caniatáu i chi weithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant, ond bydd hefyd yn annog dysgu rhwng cyfoedion a rhannu syniadau i’ch galluogi i feithrin cysylltiadau a dysgu mewn amgylchedd grŵp deinamig.
Bydd grwpiau glaswelltir yn canolbwyntio ar:
- Rheoli a sicrhau perfformiad fferm ar gyfer systemau gwydn a chynhyrchiol
- Gwneud y defnydd gorau o laswelltir i leihau mewnbynnau a gwneud y defnydd gorau o faetholion ar y fferm
- Lleihau mewnbynnau allanol a sicrhau dwysedd stocio ar gyfer lleihau allyriadau ar y fferm a gwneud y mwyaf o atafaeliad carbon
- Diogelu a gwella ecosystemau fferm trwy wella iechyd y pridd a chynyddu amrywiaeth ar ffermydd
- Symud ffermwyr tuag at Reoli Tir yn Gynaliadwy
Bydd grwpiau da byw yn canolbwyntio ar:
- Gwella iechyd a pherfformiad anifeiliaid
- Paratoi eich busnes ar gyfer newidiadau ac ansicrwydd yn y dyfodol
- Hyrwyddo a chyflawni mwy o gynaliadwyedd
- Rhoi arferion rheoli cadarnhaol ar waith ar y fferm.
Bydd grwpiau busnes yn canolbwyntio ar:
- Rheoli a sicrhau perfformiad fferm
- Meithrin gwytnwch
- Cefnogi newid
- Rheolaeth ariannol
- Symud tuag at gyfnod ar ôl y Taliad Sengl
Cliciwch ar y dolenni isod i weld rhagor o fanylion am gynnwys y rhaglen cyn llenwi'r ffurflen gais.
Bydd y rhain yn cael eu rhannu'n grwpiau lefel Mynediad ac Uwch. Gweler y pynciau amlinellol i benderfynu pa un fyddai'n gweddu orau i'ch busnes.