Da Byw Llaeth

Bydd y Rhaglen Da Byw yn cael ei rhannu’n ddwy lefel a bydd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

Lefel y Rhaglen

Pynciau’r Cyfarfodydd Da Byw Llaeth

Lefel Mynediad

  • Ffrwythlondeb
  • Cloffni a Chyfforddusrwydd y Fuwch
  • Maeth Gwartheg Llaeth
  • Rheoli Maetholion a Thail
  • Rheoli Heffrod

Lefel Uwch

  • Canolbwyntio ar iechyd a signalau’r fuwch
  • Hylendid ac Ansawdd Llaeth
  • Defnydd Gwrthficrobaidd
  • Cynllun bridio a chyfnewid
  • Defnyddio technoleg a data i fonitro a gwella perfformiad y fuches

*Sylwer y gallai'r rhain gael eu haddasu i weddu i aelodau'r grŵp a systemau ffermio

 

Dull Cyflwyno

  • Rhennir yr aelodau yn grwpiau rhanbarthol (lle bo modd).
  • Bydd cyfarfodydd yn cael eu cyflwyno fel:
    • 3 x cyfarfod ar y fferm (3-4 awr)
    • 1x cyfarfod rhithwir (1-2 awr).
    • 1 x sesiwn un i un gyda phob ffermwr
  • Grwpiau WhatsApp sector-benodol i hwyluso trafodaeth a rhannu syniadau rhwng cyfarfodydd
  • Bydd Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu mesur i deilwra cyfarfodydd i anghenion y grŵp ac i helpu i annog newid a gwelliant.