10 Mawrth 2025

Mae datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn ofyniad gorfodol a ragwelir ar gyfer pob busnes fferm yng Nghymru sy'n ymuno â Chynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) arfaethedig Llywodraeth Cymru. Mae'r fersiwn o'r SFS sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd ac sydd i fod i gychwyn ar 1 Ionawr y flwyddyn nesaf yn cynnwys y gofyniad i gwblhau o leiaf chwe awr o ddysgu, ynghyd ag elfen o Iechyd a Diogelwch, bob blwyddyn, ar gyfer pob busnes.

Dywed Stephen James, FRAgS, ffermwr llaeth adnabyddus o Gelliolau, Clunderwen, Sir Benfro fod hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i fyd amaeth yng Nghymru. Croesawodd Mr James ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad diwethaf yr SFS, a arweiniodd at benderfyniad i wneud y gofyniad o ran hyfforddiant yn fwy hyblyg a chynhwysol drwy gynnwys cyrsiau byr, modiwlau hyfforddiant ar-lein, presenoldeb mewn diwrnodau arddangos, grwpiau trafod a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth eraill sy’n gymwys ar gyfer DPP.

“Bydd ymrwymo i ddysgu yn helpu i sicrhau bod gan ffermwyr a phawb sy’n gweithio yn niwydiannau’r tir y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y dirwedd wledig sy’n newid yn gyflym heddiw,” meddai Mr James, a enillodd Wobr Cyfraniad Oes Lantra Cymru yn ddiweddar.

“Mae’r rhan fwyaf o alwedigaethau’n mynnu rhyw lefel o DPP a bydd y dull hwn o weithredu o fudd sylweddol i amaethyddiaeth Cymru, gan helpu ffermwyr i aros yn hyfyw, yn wydn ac yn gystadleuol.

“Beth bynnag yw ein hoedran a pha mor brofiadol yr ydym ni, mae’r cyfrifoldeb arnom ni fel diwydiant i gael y meddylfryd sy’n croesawu datblygiad personol, sydd yn ei dro yn arwain at ddatblygiad busnes.”

Bydd cydweithio yn creu sector proffesiynol, effeithlon a chynaliadwy

“Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyfoeth o gymorth i fusnesau gwledig a diolch i sefydliadau gan gynnwys Cyswllt Ffermio, Lantra Cymru, ein byrddau lefi ac eraill, mae’r diwydiant yn cydweithio i greu sector amaeth sy’n fwy proffesiynol, effeithlon a chynaliadwy sy’n gallu addasu i bolisïau newidiol a gofynion y farchnad wrth gyflawni’r safonau uchaf o stiwardiaeth amgylcheddol.

“Os byddwn yn methu â manteisio ar yr holl gymorth hwn a pheidio â dysgu am arloesi, buddsoddi mewn technolegau newydd, mabwysiadu arfer gorau a dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon, cost-effeithiol o reoli tir, da byw a busnes yn gynaliadwy, rydym mewn perygl o golli allan yn y marchnadoedd sy’n datblygu heddiw.

“Er mwyn diogelu dyfodol ffermydd teuluol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae angen i ni ganolbwyntio ar ffermio’n gynaliadwy a chydymffurfio â rheoliadau, ochr yn ochr â gweithio tuag at berfformiad busnes cryfach a chyflawni’r lefelau cynhyrchiant gorau posibl,” meddai Mr James.

Dod o hyd i atebion i heriau

Mae Mr James, ffigwr blaenllaw ac uchel ei barch ym myd amaeth, yn cyfuno ffermio adfywiol ymarferol ar y fferm laeth deuluol 600-erw y mae'n ei rhedeg mewn partneriaeth â'i fab Daniel, ynghyd â nifer o rolau sydd â chyswllt â’r cyhoedd. Yn eiriolwr angerddol dros newydd-ddyfodiaid a phobl ifanc, mae Mr James wedi bod ar flaen y gad ym maes materion gwledig yng Nghymru ers dros 40 mlynedd. Mae’n Gadeirydd Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ers 2018, mae’n gyn-lywydd NFU Cymru, yn parhau i fod â chysylltiad agos â CFfI Cymru ac wedi gwasanaethu gyda nifer o sefydliadau amaethyddol, nid yn unig yng Nghymru ond yn rhyngwladol. Mae wedi cynghori Llywodraethau Cymru a’r DU, cyn gyrff y Comisiwn Ewropeaidd ac mae’n parhau i fod yn ffigwr dylanwadol sy’n codi llais mewn llawer o sefydliadau rhanddeiliaid allweddol amaethyddiaeth, gan gynnwys drwy ei aelodaeth hir sefydlog ar Fwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio.

“Rydym i gyd yn cydnabod bod ein diwydiant dan bwysau. Mae argyfyngau hinsawdd a natur, pwysau’r farchnad, gofynion newidiol defnyddwyr a’r gofyniad i reoli tir yn gynaliadwy ac mewn modd sy’n gwarchod yr amgylchedd, yn cyflwyno heriau dyddiol i ni i gyd.

“Os rydym ni'n cael y wybodaeth ddiweddaraf, rydym ni'n parhau i fod yn barod, rydym ni'n parhau i fod yn hyblyg ac yn wydn,” meddai Mr James a bwysleisiodd mai cyfrifoldeb pawb sy'n gweithio yn y sector diwydiannau'r tir yw manteisio'n llawn ar y cyfoeth o gymorth, arweiniad, digwyddiadau a hyfforddiant sydd ar gael.

“Mae lefel y cymorth sydd ar gael yng Nghymru yn destun eiddigedd i lawer o genhedloedd amaeth eraill ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud defnydd llawn o hyn.”

Byddwch yn wybodus, yn barod ac yn hyblyg

“Mae’r newid i Gynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) arfaethedig Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi newid ond yn dod â chyfleoedd newydd hefyd a bydd yn trawsnewid y ffordd rydym yn rheoli ein tir, ein da byw a’n busnesau er gwell ar draws pob sector, gan gyfuno rheoli tir yn gynaliadwy â phroffidioldeb.

“Fel ceidwaid amgylcheddol, ein cyfrifoldeb ni yw proffesiynoli a moderneiddio’r diwydiant, i ddiogelu’r hyn sydd gennym ar gyfer y genhedlaeth nesaf – rhaid i ddatblygu sgiliau fod yn elfen allweddol o hyn,” meddai Mr James.

Gall ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gael mynediad at amrywiaeth o opsiynau hyfforddiant wedi’u hariannu’n llawn neu â chymhorthdal gan gynnwys cyrsiau achrededig wyneb yn wyneb, modiwlau e-ddysgu ac opsiynau trosglwyddo gwybodaeth gan arbenigwyr allweddol yn y diwydiant gan gynnwys gweithdai hyfforddiant ar Iechyd a Lles Anifeiliaid, gyda phob un yn gymwys ar gyfer DPP.

I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau, hyfforddiant a darpariaeth trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio, gwasgwch yma neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes
Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi