Rheoli plâu a chlefydau mewn modd integredig
Gyda dirywiad cynhyrchion amddiffyn planhigion confensiynol a'r awydd gan y diwydiant i annog bioamrywiaeth a phryfed buddiol, mae gweithredu rhaglen Rheoli Plâu a Chlefydau yn Integredig (IPDM) yn allweddol.
Mae rhai tyfwyr wedi croesawu’r defnydd o reolaethau biolegol ond mae rhai yn dal i ymchwilio.
Bydd ymuno â'r rhwydwaith hwn yn cynnig hyfforddiant ar adnabod plâu, clefydau a phryfed buddiol a bydd yn helpu tyfwyr i bennu’r pwysau gan blâu a chlefydau ar hyn o bryd a'r angen i’w hatal a'u rheoli. Defnyddio arbenigedd gan arbenigwyr a chyfoedion, er enghraifft, dysgu sut i liniaru camgymeriadau costus trwy ddysgu'r amseriadau cywir a'r technegau defnyddio cywir ar gyfer bio-reolaethau.