Rhwydwaith asbaragws

Mae asbaragws yn un o gnydau tymhorol mwyaf adnabyddus y DU. Mae gan asbaragws o Loegr enw da hirsefydlog, poblogaidd a haeddiannol, ond mae asbaragws Cymru yn dal i fyny o'r diwedd. A ydych chi'n un o'r tyfwyr craff sy'n awyddus i ddal cyfran o'r farchnad 'gwerth uchaf’ broffidiol hon?

Bydd y rhwydwaith yn dangos yr hyn sydd ei angen i greu’r amodau pridd gorau posibl er mwyn tyfu a meithrin cnwd iach a niferus o asbaragws. Bydd hefyd yn addysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am nodi a rheoli clefydau nodweddiadol a rheoli plâu.