Rhwydwaith blodau Cymru

Arogl melys llwyddiant? Ai dyma beth rydych chi'n gobeithio amdano o'ch menter flodeuog? Lafant, cennin pedr, tiwlipau, blodau’r haul – mae posibiliadau diddiwedd, i gyd yn gweddu i hinsawdd a thopograffeg Cymru! Neu a ydych chi'n ystyried darparu diwrnodau teithiau, sy'n rhoi cyfle i ymwelwyr ddewis a threfnu blodau wedi'u torri neu eu defnyddio at ddibenion coginio?

Mae rhwydwaith blodau Cymru yn dod â chynhyrchwyr blodau Cymru at ei gilydd i rannu syniadau a phrofiadau gyda diwrnodau hyfforddi ac ymweliadau astudio gydag arbenigwyr ‘tymhorol’ sydd wedi bod yn tyfu blodau ers blynyddoedd lawer.