Y Safon ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach

Mae safon ar gyfer tyfwyr sy’n gweithredu ar raddfa fach wedi ei datblygu gan Malcolm Laidlaw i roi sicrwydd o’r cynnyrch i gyflenwyr a defnyddwyr.

Trwy ein gwaith gyda phrosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru, fe welon ni fod angen creu safon i gynhyrchwyr ei bodloni, a fyddai'n cynorthwyo prynwyr cyntaf y cynnyrch yn ogystal â'r rhai sydd ymhellach i fyny'r gadwyn gyflenwi (fel Castell Howell a gwahanol awdurdodau lleol). Mae'r safon yn sicrhau diwydrwydd dyladwy bod y bwyd sy'n cael ei gyflenwi yn ddiogel ac yn addas i'r diben ac nad yw'n peryglu safonau achrededig y prynwyr (megis rhai BRC).

Datblygwyd y Safon ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach yn 2023 a chafodd ei gyflwyno i dyfwyr yn 2024. Mae'r nifer sy'n manteisio ar y safon wedi cynyddu'n sylweddol wrth i dyfwyr a phrynwyr ddeall sut y gall helpu i amlinellu’r arferion gwaith gorau, cydymffurfiad â’r rheoliadau ac yn ei dro arwain at agor cyfleoedd pellach yn y farchnad.

Cynigir y Safon ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach trwy raglen Garddwriaeth Cyswllt Ffermio i gynorthwyo Tyfwyr Masnachol Cymru. Nid oes angen i chi fod yn rhan o'r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru i ddefnyddio'r safon ac mae'n adnodd sydd wedi'i ariannu'n llawn.

Am ragor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb mewn defnyddio'r Safon ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach, cysylltwch â: Horticulture@lantra.co.uk

Cynigir cefnogaeth bob cam o'r ffordd gyda'r Safon ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach:

  • Darperir cyflwyniad cychwynnol drwy sesiwn 1:1 gyda Malcolm Laidlaw.
  • Byddwch yn cael llyfrgell o dempledi y gallwch eu golygu i’w defnyddio i'ch helpu i goladu tystiolaeth ategol
  • Gellir trefnu cymorth pellach ar leoliad os oes angen.
  • Gellir dod o hyd i ddogfennau ategol ychwanegol trwy glicio ar Adnoddau’r Safon ar gyfer Tyfwyr ar Raddfa Fach