Agrisgôp

Rhaglen ddysgu gweithredol Cyswllt Ffermio wedi'i hariannu'n llawn ar gyfer ffermwyr a thyfwyr
…magwch yr hyder i droi eich syniadau da yn realiti    

  • A oes gennych chi syniad busnes neu arallgyfeirio newydd yr ydych am ei ddatblygu neu brosiect sydd, er gwaethaf eich ymdrechion gorau, dal heb gyrraedd ei botensial?
  • Hoffech chi gwrdd ag unigolion eraill o'r un anian o gefndir ffermio neu arddwriaeth?    
  • A allai dod ynghyd mewn grŵp Agrisgôp bach, wedi’i hwyluso gan arweinydd grŵp profiadol, eich helpu i ddod o hyd i atebion i heriau trwy rannu syniadau, profiadau a gwybodaeth?
  • Wedi’i ddarparu dros gyfnod o 12 mis, bydd cymorth wedi’i hwyluso’n cynnwys cyfarfodydd anffurfiol, y gall rhai ohonynt fod yn rhai rhithiol neu hybrid, i’w cynnal ar amser ac mewn lleoliad y cytunir arno gan aelodau, gyda mynediad at hyfforddiant un-i-un rhwng cyfarfodydd os oes angen.
  • Gall eich hwylusydd wahodd siaradwyr arbenigol ar bynciau penodol a/neu drefnu ymweliadau astudio â mentrau llwyddiannus eraill.
  • Mae maint grwpiau fel arfer rhwng wyth a deuddeg aelod.

Os ydych chi ac unrhyw ffermwyr neu dyfwyr o'r un anian am awgrymu pwnc ar gyfer grŵp Agrisgôp newydd, ewch i'n cyfeiriadur arweinwyr Agrisgôp ar-lein a siaradwch yn uniongyrchol ag arweinydd yn eich ardal.

Ers ei sefydlu yn 2003, mae grwpiau Agrisgôp wedi cyflawni nifer o lwyddiannau. Gallwch ddarllen am rai ohonyn nhw yma.

Os hoffech unrhyw wybodaeth ychwanegol am Agrisgôp a holl wasanaethau eraill Cyswllt Ffermio, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol.


Tudalennau Cysylltiedig: