Cymorth busnes Garddwriaeth

Mae gwasanaeth 'cymorth busnes Garddwriaeth' newydd Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth ac arweiniad busnes. Mae’n wasanaeth a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i atebion i’ch cwestiynau, datrysiadau i heriau…

  • Hyd at 12 awr o gymorth busnes wedi’i deilwra a’i ariannu’n llawn ar gyfer tyfwyr ‘garddwriaeth’ masnachol cymwys sydd am wella perfformiad busnes a thechnegol ar draws pob maes
  • Arweiniad arbenigol annibynnol, cyfrinachol, pwrpasol wedi'i deilwra i'ch gofynion

Dysgu sut i redeg eich busnes garddwriaeth yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn broffidiol…

  • Iechyd y pridd ar gyfer cnydau garddwriaeth
  • Deall cyfryngau tyfu, cyrchu ac ansawdd
  • Technolegau garddwriaeth newydd gan gynnwys agronomeg roboteg, o bell a digidol
  • Iechyd planhigion a rheoli plâu integredig
  • Dysgu sut i baratoi ar gyfer patrymau tywydd cyfnewidiol gan gynnwys sychder a llifogydd
  • Deall sut i weithio'n effeithiol gyda'ch cadwyni cyflenwi
  • Archwiliadau cynaliadwyedd - dysgu sut i leihau eich ôl troed carbon 
  • Y gymysgedd marchnata – nodi a chyrraedd eich cynulleidfaoedd targed, ymgysylltu â’ch cymuned leol a chynyddu gwerthiant
  • Dysgu am becynnu a chyflwyniad - y ffordd gynaliadwy
  • Sicrwydd Fferm - dysgwch am y safonau neu gynllun amaethyddol sy'n berthnasol i'r sector Garddwriaeth, gan alluogi eich busnes i fodloni ei ofynion diwydrwydd dyladwy ac yn y pen draw ennill hyder y defnyddwyr.

Ffurflen Gais Cymorth Busnes Garddwriaeth