Cynllunio Rheoli Maetholion

Mae eich adnoddau tail yn werthfawr. Rhaid iddynt gael eu rheoli yn dda i leihau costau gwrtaith a chyfrannu deunydd organig gwerthfawr sy’n gwella eich priddoedd. Bydd hyn yn dod yn bwysicach os byddwch yn ffermio mewn Parth Perygl Nitradau (NVZ) lle mae cyfyngu ar lygredd nitradau a chadw ansawdd y dwˆ r yn dda yn flaenoriaeth.


FAINT SYDD GENNYCH?

 

 

Ffigyrau o lyfr yw’r rhain ar gyfer cyfanswm y maetholion (nid yw’r NPK i gyd ar gael ar unwaith) a ddaeth
o’r Llawlyfr Gwrtaith (RB209): mae’n syniad da dadansoddi eich tail a slyri i gadarnhau’r cynnwys o ran
maetholion ac i chi fedru cynllunio i chwalu yn fwy manwl gywir.

 

PA WAHANIAETH Y MAE’N EI WNEUD?

Gall yr arbediadau fod yn eithaf sylweddol - mae’r siart yn dangos faint a gyfrannodd Nitrogen, Ffosffad a Photash 3000gal/ac o slyri (y bariau glas) at dyfu silwair toriad cyntaf (26% o’r Nitrogen, 50% o’r Ffosffad a’r cyfan o’r Potash).

FAINT SYDD AR EICH CNWD EI ANGEN?

Bydd angen i chi gyfrifo hyn trwy ystyried:

  • eich mynegai pridd a’r argymhellion ar gyfer y cnwd yr ydych yn ei dyfu
  • yr adnoddau maeth sydd gennych ar gael ac amseriad y chwalu

Trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio gall ffermwyr gael mynediad at gyllid ar gyfer 80% tuag at Gynllunio Rheoli Maetholion. 

 

Gwasanaeth Cynghori