Gwasanaeth Cynghori

Cyngor arbenigol i wella perfformiad busnes a thechnegol

Mae'r Gwasanaeth Cynghori yn darparu cyngor arbenigol annibynnol, cyfrinachol ac wedi’i deilwra ar gyfer Ffermwyr Cymru.

Ein nod yw sicrhau eich bod yn:

  • elwa o gefnogaeth busnes a/neu gyngor technegol, wedi'i deilwra i anghenion eich busnes 
  • trawsnewid yn effeithiol i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd
  • lleihau costau trwy gynyddu effeithlonrwydd ar draws pob maes o'ch busnes 
  • meincnodi eich perfformiad ac yn gweithio tuag at gynnydd a thwf 
  • adnabod meysydd i wella a chanfod atebion i broblemau 

  • Wedi'i ariannu 90% hyd at uchafswm o £3000 am bob busnes cymwys i gael mynediad at gyngor busnes a thechnegol. Mae Swyddogion Datblygu wrth law i gefnogi ffermwyr gyda'r broses ymgeisio.
  • Cyngor un-i-un:

    wedi’i ariannu 80% hyd at uchafswm o £1400 am bob achos o gyngor
  • Grwpiau Gweithredu Busnes:                                                                                                                                                                                                                                                                            wedi’i ariannu 90% hyd at uchafswm o £450 i bob aelod o’r grŵp. Gall rhwng tri ac wyth o fusnesau ymgeisio ar gyfer cyngor fel grŵp.
  • Menter ar y cyd:                                                                                                                                                                                                                                                                                                wedi’i ariannu 100% hyd at uchafswm o £1750 i bob aelod o’r grŵp. 
  • Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n cael mynediad at y gwasanaeth cynghori fel unigolyn neu fel rhan o grŵp fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.
  • Dim ond dau achos o gyngor technegol y gellir eu cyrchu yn ystod y rhaglen.

Ydych chi’n barod i ymgeisio?

Cyn gwneud cais ar gyfer cyngor cynllunio busnes neu gyngor technegol sydd ar gael fel rhan o Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, bydd angen i chi:

• gofrestru gyda Cyswllt Ffermio - bydd angen i bob busnes sy’n gwneud cais ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori fod wedi derbyn e-bost neu lythyr gan Cyswllt Ffermio’n cadarnhau eu bod wedi cofrestru.

• wirio eich cymhwysedd ar gyfer y Gwasanaeth Cynghori.

Categorïau cynllunio busnes a thechnegol

…eich cynorthwyo i gyflawni eich nodau busnes a’ch amcanion technegol

Categori

Cyfyngiadau gwasanaeth

Busnes ffermio sefydledig

Hyd at 90% o gyllid ar gael i gael mynediad at gyngor busnes a thechnegol. Cyfyngedig i £3,000 fesul busnes cymwys (cyfyngiadau yn berthnasol)

Systemau ffermio / garddwriaeth arbenigol o dan 3ha

Bydd hyd at 90% o gyllid ar gael i gael mynediad at gyngor busnes a thechnegol, wedi’i gyfyngu i £3,000 fesul busnes cymwys (cyfyngiadau yn berthnasol)

Newydd-ddyfodiaid

Ffermwyr/garddwriaethwyr newydd, gyda'r hyfforddiant a'r profiad i sefydlu busnes fferm/garddwriaeth newydd.

Bydd hyd at 100% o gyllid ar gael fesul achos i gael mynediad at un enghraifft o gymorth ymgynghorol (Cynllunio Busnes) dros gyfnod y rhaglen.

Cliciwch yma i weld y Meini Prawf Cymhwyster.

 

Mae’r linciau isod (o dan 'Categorïau Cyngor') yn amlinellu’r categorïau cyngor busnes a chefnogaeth dechnegol sydd ar gael fel rhan o’r Gwasanaeth Cynghori. Gobeithio y bydd y disgrifiadau byr yn eich galluogi i wneud penderfyniadau deallus ynglŷn a pha gategori/categorïau fyddai o fwyaf o fudd i’ch busnes, ond os oes angen gwybodaeth neu arweiniad pellach, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol.

Sut i wneud cais

I ymgeisio a chymryd mantais o’r cyngor sydd ar gael trwy’r gwasanaeth cynghori, cysylltwch â’ch Swyddog Datlygu lleol  heddiw neu cysylltwch â ni ar:

 

03456 000 813  / cyswlltffermio@menterabusnes.co.uk / Facebook.com/FarmingConnect / @FarmingConnect

 

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar agor rhwng 9am a 5pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, ac eithrio wyliau cyhoeddus.