02 Medi 2025Mae ffermwyr a thyfwyr sy’n treialu gwahanol dechnegau ffermio ac agweddau arloesol fel rhan o rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio yn cynnal digwyddiadau ym mis Medi, lle gall ffermwyr eraill ddysgu am ganfyddiadau prosiectau’n amrywio o driniaethau dethol wedi’u targedu ar gyfer defaid i ryng-gnydio india corn.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Ymweld ag Ein Ffermydd’ ym mis Medi ar ei rwydwaith o ffermydd bîff, defaid a llaeth ac mewn busnesau sy’n cynhyrchu llysiau, ffrwythau a blodau ar gyfer y sector garddwriaeth.

Y llynedd, cynhaliwyd 15 o’r digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth hyn, ond roedden nhw mor boblogaidd ymysg y diwydiant, penderfynwyd cynyddu’r nifer i 22 ar gyfer 2025.

Mae pob digwyddiad yn cynnig cyfle i ffermwyr a thyfwyr eraill gael cipolwg gwerthfawr ar y treialon a’r prosiectau sydd wedi’u cwblhau neu sydd ar waith.

Yn Sir Drefaldwyn, bydd ffermwyr yn cael gweld drostynt eu hunain sut mae’r teulu Griffiths yn tyfu gwndwn amlrywogaeth sy’n gallu gwrthsefyll sychder ar fferm, bîff a defaid Cilthrew yn Llansantffraid ym Mechain.

Fel rhan o’u gwaith gydag Ein Ffermydd, mae Marc, Wynn a Bethan Griffiths yn treialu gwahanol dechnegau i roi eu busnes fferm 120ha mewn sefyllfa ffafriol i allu addasu i’r newidiadau arfaethedig mewn polisi amgylcheddol, er mwyn sicrhau bod y fferm yn gynaliadwy ac yn ffyniannus.

Dywed Marc, y drydedd genhedlaeth o’i deulu i ffermio ar fferm Cilthrew, fod y borfa sy’n gallu gwrthsefyll sychder wedi cael ei phrofi yn ystod haf lle cafwyd cyfnodau hir o dywydd sych iawn.

Mae’n edrych ymlaen at drafod y canlyniadau mewn mwy o fanylder gyda ffermwyr sy’n mynychu’r digwyddiad. “O’m  mhrofiad i fel ffermwr, rydych chi’n dysgu’r un faint gan bobl eraill sy’n ymweld â’r fferm. Gall hynny gynnwys derbyn cwestiynau ar wahanol agweddau ar y ffordd yr ydym ni’n gweithredu,” meddai.

Bydd pynciau trafod yn cynnwys defnyddio effeithlonrwydd nitrogen (N) i wella cynnyrch cnydau betys porthiant, ynghyd ag effaith cynhyrchion biolegol megis gwymon a thriog sydd wedi cael eu defnyddio ar y fferm a’u heffaith ar ansawdd a chynnyrch y glaswellt.

“Rydym yn ffermio mewn ardal lle mae lefelau magnesiwm yn uchel ac mae hynny’n gallu gwneud y pridd yn eithaf tynn, felly mae’n bosibl y gallai’r cynhyrchion hyn fod o fudd o ran agor y pridd heb ymyrraeth fecanyddol,’’ meddai Marc.

Ar fferm Cilthrew, mae’r polisi ffermio yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd a chynhyrchu cymaint o borthiant â phosibl ar y fferm, gan gynnwys protein.

Gellir gweld gwerth y digwyddiad hwn ac eraill yn y gyfres o deithiau fferm yn ôl faint o bobl a fynychodd y rhaglen y llynedd, gyda 99% o fynychwyr yn nodi eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd, a 93% yn nodi eu bod yn bwriadu gwneud newidiadau o fewn eu busnesau yn dilyn y digwyddiadau.

Dywed Owain Pugh, swyddog sector Cyswllt Ffermio sydd wedi bod yn goruchwylio gwaith y prosiect ar y fferm, bydd ffermwyr yn dysgu llawer o ganlyniad i fynychu’r digwyddiad. Bydd hefyd yn gyfle i weld sut mae rhai o’r technolegau diweddaraf yn cael eu defnyddio ar fferm Cilthrew, gan gynnwys synwyryddion lleithder a maetholion yn y cnwd betys porthiant.

Mae’r synwyryddion hyn wedi helpu i’n hysbysu am ofynion N y cnwd a phryd y dylid gwasgaru’r cynnyrch; trwy wneud hyn, mae’r teulu Griffiths wedi defnyddio llai o N nag y cynlluniwyd yn y cynllun gwasgaru, meddai Owain.

Bydd cyfle i weld sut mae’r betys porthiant wedi perfformio drwy fwydo N trwy’r dail o’i gymharu â defnyddio pelenni.

“Rydym ni hefyd yn gobeithio cael drôn yn bresennol ar y diwrnod i ddangos sut y gellir darparu bwyd i’r dail uwchben y cnwd i atal y planhigion rhag cael eu gwasgu,” meddai Owain.

Cynhelir y digwyddiad ar fferm Cilthrew ar 16 Medi rhwng 4pm – 7pm. Darperir lluniaeth felly cynghorir ymwelwyr i neilltuo lle ymlaen llaw.

Am restr lawn o’r teithiau fferm yn Sir Drefaldwyn a ledled y wlad, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer