Mae mesur glaswellt a chynllunio ar gyfer pori cylchdro yn y gwanwyn yn rhai o’r prif bethau y gall ffermwyr eu gwneud nawr i wneud y defnydd gorau posib o laswellt a lleihau biliau dwysfwyd costus.
Yn ystod digwyddiad a gynhaliwyd ddoe ar fferm Trawscoed, ger Aberystwyth - un o Safleoedd Arloesedd
Cyswllt Ffermio - bu Noel Gowan, o gwmni Grasstec, yn trafod rheolaeth pori gyda grŵp mawr o ffermwyr. Yn ogystal ag amlinellu sut y dylid creu cyllidebau glaswellt ar gyfer eich buches a strategaethau i wella cyfraddau twf trwy gydol y flwyddyn, megis dilyn yr ‘egwyddor tair deilen’, bu Mr Gowan hefyd yn trafod cynllunio a rheoli cylchdro effeithiol ar gyfer eich fferm.Amlygodd hefyd y newidiadau isadeiledd a argymhellwyd ar fferm Trawscoed er mwyn ymestyn y tymor pori a chynhyrchu mwy o laeth o borthiant. Bydd adroddiad llawn o’r digwyddiad ar gael yn fuan.