15 Mai 2020

 

Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

  • Mae nifer o fanteision i system odro yn seiliedig ar borfa, gan gynnwys cynnyrch o ansawdd gwell, cynnydd yn elw’r fferm a llai o effeithiau amgylcheddol.
  • Y prif anhawster gyda systemau cynhyrchu llaeth yn seiliedig ar borfa yw eu bod yn arwain at ostyngiad yn lefelau cynhyrchu llaeth, yn enwedig yn achos buchod sy’n cynhyrchu llawer o laeth.
  • Gall rhoi porthiant ychwanegol wedi’i dargedu i anifeiliaid sy’n cynhyrchu llawer o laeth, ar ffurf dwysfwydydd egni uchel, fod o gymorth i gynnal lefelau cynhyrchu llaeth.
  • Gall gwyndonnydd amrywiol, cymysg gynyddu cynnwys protein y borfa, gwella proffiliau braster y llaeth, cynnal cynhyrchiant y cynhaeaf a chynnig pob math o fuddion amgylcheddol.

 

Wrth i ffermwyr ar draws y Deyrnas Unedig ddod o dan bwysau i wella cynaliadwyedd ac effaith amgylcheddol eu harferion ffermio, mae nifer o ffermwyr llaeth yn ystyried symud i systemau yn seiliedig ar borfa a phorthiant. Un o anawsterau allweddol system yn seiliedig ar borfa yw’r gostyngiad yn lefelau cynhyrchu llaeth, yn enwedig mewn buchod sy’n cynhyrchu llawer o laeth, ac weithiau gwelir dirywiad yng nghyflwr y corff (Tabl 1). Mae hyn yn deillio o anghysonderau yn ansawdd y glaswellt a phroblemau wrth gynnal lefel y cynnwys sych a fwyteir (DMI); hyd yn oed gydag amodau porfa delfrydol, mae dwysedd maethol glaswellt yn is yn naturiol na dwysfwydydd. Fodd bynnag, os byddant yn cael eu defnyddio’n gywir, mae manteision i systemau cynhyrchu yn seiliedig ar borfa a gall pori wella proffidoldeb, yn bennaf drwy leihau costau porthiant sy’n cael ei brynu i mewn (Tabl 1). Hefyd, yn achos system yn seiliedig ar borfa, gall y costau o ran amser a llafur fod yn llai na’r rhai fyddai’n gysylltiedig â phorthi anifeiliaid neu gynaeafu porthiant – gan wneud y busnes yn fwy proffidiol a chynaliadwy. Trwy’r fecanwaith hon, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n deillio o fewnforio a chludo porthiant a brynir i mewn yn sylweddol llai, ynghyd â phroblemau cysylltiedig o ran newid defnydd tir a datgoedwigo yn y wlad sy’n allforio. Hefyd, mae tystiolaeth bod proffil asidau brasterog llaeth a gynhyrchir gan fuchod sy’n pori yn fwy iach o’i gymharu â buchod sy’n derbyn dogn cymysg cyflawn (TMR) (Tabl 1).

Manteision

Anfanteision

Potensial i gael llaeth â phroffil asidau brasterog sy’n fuddiol o ran iechyd

Bydd cynhyrchiant llaeth yn is

Potensial i wella priodweddau synhwyraidd y llaeth

Amrywiad tymhorol yn y glaswellt

Llai o amser /costau llafur

Bydd y cynnwys sych a fwyteir yn llai

Llai o effeithiau amgylcheddol

Dirywiad posibl yng nghyflwr y corff

Gwell lles ac anifeiliaid yn dangos mwy o ymddygiad ‘naturiol’

 

Potensial i gynyddu elw

Tabl 1: Crynodeb o fanteision ac anfanteision systemau llaeth yn seiliedig ar borfa.

 

Newidiadau yng nghyfansoddiad llaeth

Mae’r cysylltiad rhwng deiet anifeiliaid cnoi cil a’u cynhyrchion wedi ei hen sefydlu a gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu llaeth a chig â nodweddion penodol. Un o brif gydrannau llaeth y gellir ei haddasu’n hawdd drwy ddeiet yw’r proffil braster sydd hefyd o ddiddordeb o ran iechyd dynol. Yn achos glaswellt, y buddion sydd o ddiddordeb mwyaf i iechyd dynol yw asid linoleig cyfieuol (CLA: conjugated linoleic acid) a brasterau amlannirlawn (PUFA: polyunsaturated fatty acids). Mae glaswellt yn ffynhonnell wych o PUFA, fodd bynnag, oherwydd ei docsisedd i ficrobau’r rwmen, maent yn cael eu dirlenwi â hydrogen pan fyddant yn mynd i mewn i’r rwmen. Y weithred hon sy’n pennu cynnwys braster dirlawn (SFA) cynnyrch anifeiliaid cnoi cil fel cig a llaeth. Eto i gyd, os yw’r fuwch yn cael porthiant â chyflenwad da o PUFA bydd rhywfaint yn dianc o’r rwmen ac yn pasio i’r coluddyn lle gall gael ei amsugno a’i gynnwys mewn cig a llaeth. Mae gwaith ymchwil sy’n cymharu llaeth o fuchod ar ddeiet cymysg â rhai sy’n cael eu bwydo ar borfa wedi canfod gwahaniaethau sylweddol yn y proffil braster – ar ôl eu symud i’r borfa, roedd y llaeth a gafodd ei gynhyrchu yn cynnwys dwywaith cyfanswm y CLA o’i gymharu â llaeth y buchod a gafodd eu bwydo ar ddeiet cymysg. Yn gyffredinol, mae proffil lipid llaeth buchod sy’n pori yn fwy buddiol i iechyd dynol na llaeth o fuchod sy’n bwyta silwair neu ddogn cymysg cyflawn (TMR), sy’n cynnwys lefelau is o SFA a lefelau uwch o PUFA. Er bod tuedd at laeth a chynnyrch llaeth braster isel wedi dod i’r amlwg, gwelwyd newid hefyd wrth i ddefnyddwyr ddangos diddordeb mewn bwydydd ‘iachach’. O’r herwydd, mae posibilrwydd y gallai llaeth â phroffil asid brasterog iachach gael ei farchnata ar gost uwch.

 

Mae tystiolaeth gwrthgyferbyniol ar gyfer gwahaniaethau yng nghynnwys protein llaeth o wartheg sy’n cael eu bwydo â dogn cymysg cyflawn (TMR) yn erbyn porfa. Mae rhai astudiaethau wedi canfod bod llaeth o fuchod sy’n bwyta porfa yn cynnwys lefelau uwch o brotein a casein, ond mae eraill yn nodi bod deiet yn seiliedig ar bori yn lleihau cynhyrchiant protein. Er bod glaswellt yn cynnwys lefel uchel o brotein crai ac asidau amino, mae’n isel mewn carbohydradau sy’n eplesu’n gyflym ac mae hyn yn cyfyngu ar y cyflenwad o egni, gan arwain o bosibl at gynhyrchiant llaeth a chynnwys protein is.


Ymchwiliwyd yn helaeth i briodweddau synhwyraidd cynnyrch yn seiliedig ar laeth fel caws a menyn mewn perthynas â deiet. Yn achos anifeiliaid sy’n pori, mae llaeth yn cynnwys cyfran fwy o PUFA a chyfran lai of SFA sy’n gwneud y menyn yn fwy meddal ac yn haws ei daenu. Mae lefelau uwch o β-caroten hefyd i’w cael mewn glaswellt ffres sy’n cynhyrchu menyn a chaws sy’n fwy melyn, yn fwy meddal o ran gwead ac yn fwy dymunol yn gyffredinol. Mae gwrthocsidyddion eraill, fel tocofferol a charotenau, hefyd yn fwy cyffredin mewn glaswellt nag mewn dogn cymysg cyflawn (TMR), ac maent yn cael eu cysylltu â gwell sefydlogrwydd ac oes silff hirach mewn cynhyrchion sy’n seiliedig ar laeth, fel menyn. Dywedir bod “pobl yn bwyta â’u llygaid” ac mae hyn yn osodiad eithaf cywir gan fod llawer o ddefnyddwyr yn gwneud penderfyniadau ar sail golwg y cynnyrch. Felly, bydd darparu cynnyrch sy’n fwy atyniadol yn weledol yn annog rhagor o bobl i’w fwyta.

 

Cynnal cynhyrchiant

Prif anfantais system yn seiliedig ar borfa yw ei bod yn arwain at ostyngiad yn lefelau cynhyrchu llaeth, yn aml o ganlyniad i ostyngiad yn lefel y cynnwys sych a fwyteir (DMI). Gwelwyd gostyngiadau o hyd at 33% yng nghynhyrchiant llaeth buchod sy’n pori o’u cymharu â buchod sy’n cael eu cadw dan do ac sy’n cael eu porthi â dogn cymysg cyflawn (TMR). Mae modelau  yn rhagweld y gallai pori gynnal gwartheg o faint canolig â chynhyrchiant canolig, ond y gallai anifeiliaid mawr neu rai sy’n cynhyrchu llawer o laeth gael anhawster i gyrraedd eu potensial llawn o ran cynhyrchiant llaeth. Yn wir, mae AHDB yn cynghori y gellir cynhyrchu hyd at 30 kg o laeth y diwrnod ar borfa yn unig, er bod lefelau cynhyrchiant uwch yn gofyn am borthiant ychwanegol ar ffurf dwysfwydydd. Mae tuedd hefyd i weld gostyngiad yng nghynnydd pwysau byw dyddiol gwartheg sy’n pori yn ystod y cyfnod llaetha o’u cymharu â’r rhai sy’n derbyn dogn cymysg cyflawn (TMR), mae’n debyg oherwydd na all y buchod fwyta digon o laswellt ychwanegol i ateb y galw cynyddol am egni wrth gynhyrchu llaeth.

 

Rheoli tir pori

Yn achos buchod sy’n cynhyrchu llawer o laeth, mae’n bwysig gwneud y mwyaf o ansawdd y gwndwn i gynnal lefel y cynnwys sych a fwyteir (DMI). Gall sicrhau gwyndonnydd cymysg sy’n gyson o ran taldra (6-8 cm), yn drwchus (≥3,000 DM/ha), yn hawdd eu treulio ac yn flasus, godi’r lefel DMI hyd at 18 kg/y diwrnod/y pen. I gynnal ansawdd da y gwndwn, mae’n hanfodol ei ddadansoddi – gan asesu twf y gwndwn yn rheolaidd a rhoi strategaeth reoli da ar waith, fel pori cylchdro. Mae dealltwriaeth dda am y gwyndonnydd unigol a sut i’w rheoli, ac addasu hyd y cyfnod pori cylchdro yn rheolaidd, yn hanfodol i gydbwyso’r cyflenwad a’r galw. Dangosodd astudiaeth ddiweddar Kingshay o fuchod cynhyrchiant uchel, a oedd yn lloea yn y gwanwyn, ei bod yn bosibl cynhyrchu dros 50% o’r llaeth o’r glaswellt. Yn ystod yr astudiaeth cafodd lefelau maethol uchel a chyson eu cynnal yn y borfa gydag amrediad egni metaboladwy (ME) rhwng 11.3 ac 11.5 kg/DM a chynnwys protein ar 20-26%. Dim ond tua diwedd y tymor, pan welwyd lefel cynnwys sych y gwndwn yn gostwng, y gwelwyd yr angen i gynnig porthiant ychwanegol. Gwelodd astudiaethau DairyCo a oedd yn defnyddio systemau lloea yn yr hydref  fod defnyddio silwair o ansawdd uchel yn dyblu cyfanswm y llaeth a gynhyrchwyd gan borfa hyd at 70% o’i gymharu â silwair o ansawdd canolig. Defnyddiodd yr astudiaeth hon system bori cylchdro a throi allan cynnar a oedd hefyd yn cynyddu faint o laeth a gynhyrchwyd o’r borfa ac yn cynyddu’r elw fesul buwch yn sylweddol.

 

Mae fferm arddangos Erw Fawr Cyswllt Ffermio yn defnyddio technolegau newydd i’w helpu i reoli glaswelltir. Trwy ddefnyddio mesurydd plât yn wythnosol a mewnbynnu data yn rheolaidd i lwyfan meddalwedd pwrpasol, nod y fferm yw cynyddu’r defnydd o laswellt a chynyddu cynhyrchiant o’r borfa gyda’r fuches o 250 o wartheg sy’n lloea drwy’r flwyddyn.

Yn ogystal â hyn mae fferm arddangos Nantglas  Cyswllt Ffermio, hefyd yn ceisio cynyddu lefel y llaeth a gynhyrchir o’r borfa drwy ganolbwyntio ar wella dulliau rheoli porfa i wneud y mwyaf o gyfleoedd pori a chynhyrchu silwair. Bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar y broses gynhyrchu silwair er mwyn gwella ei ansawdd a’r defnydd a wneir o’r silwair a gynhyrchir.

 

Ychwanegu at y deiet mewn ffordd strategol

Gall defnyddio atchwanegion porthiant egni uchel, ond cost uchel, mewn dull strategol (e.e. atchwanegion protein isel, sy’n seiliedig ar rawn) fod yn ddigonol i gynnal lefelau cynhyrchiant llaeth uchel pan fydd gwartheg yn pori. Byddai strategaeth o’r fath yn mynd i’r afael â maetholyn cyfyngol cyntaf glaswellt, egni metaboladwy, ond mae llwyddiant yn dibynnu ar y berthynas rhwng pris llaeth a phorthiant ychwanegol. Mae cynnig porthiant ychwanegol ffibr isel yn helpu i gynnal cymeriant glaswellt da, a bydd crynodiad ffibr uwch yn llenwi’r stumog ac yn lleihau’r awydd i bori. Mae tystiolaeth wrthgyferbyniol hefyd ar gyfer y dull o roi atchwanegion yn nhermau cyfradd unffurf yn erbyn dull porthiant i gynhyrchiant. Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod y lefelau cynhyrchiant yn well drwy ddefnyddio’r dull porthiant i gynhyrchiant, ond nid yw eraill wedi sylwi ar unrhyw wahaniaeth arwyddocaol yn unrhyw un o’r paramedrau perfformiad. Er hynny, mae astudiaethau yn awgrymu bod atchwanegiadau o 0.45 kg/y dydd yn ddigonol i roi hwb i gynhyrchiant llaeth a chynnal cymeriant glaswellt, yn ogystal â sicrhau elw da o’i gymharu â chyfraddau atchwanegu is ac uwch (0.25 a 0.65 kg/y dydd).

 

Gwyndonnydd amrywiol

Yr ail faetholyn mwyaf cyfyngol mewn glaswellt yw protein. I gynyddu cynnwys protein a gwerth egni metaboladwy (ME) porfa a hybu’r cynnwys sych a fwyteir (DMI), gellid ystyried tyfu codlys neu lyriad. Dangoswyd bod cymysgedd o feillion (coch a/neu wyn) neu lyriaid yn cynyddu cynhyrchiant llaeth a chymeriant porfa o’i gymharu ag ungnwd rhygwellt parhaol (PRG). Mae’r effeithiau hyn yn amrywio yn dibynnu ar y cyfnod llaetha – yn y cyfnod llaetha cynnar, roedd cymysgedd o ungnwd rhygwellt parhaol/meillion gwyn/llyriad yn arwain at gynnydd yn y llaeth a’r protein, ond yng nghanol y cyfnod llaetha gwelwyd cynnydd yn lefelau braster y llaeth. Pan gynigiwyd deiet o 25%, 50% a 75% o borfa meillion, gwelwyd cynnydd yn y cynnwys sych oedd yn cael ei fwyta (DMI) o 8, 23 a 30%, yn y drefn honno. Roedd cynhyrchiant llaeth dyddiol y gwartheg a oedd yn pori ar borfa 50 a 75% o feillion yn debyg, a 33% yn uwch na’r rhai oedd yn pori ungnwd rhygwellt parhaol (PRG). Mae’r ymchwil hwn yn awgrymu mai’r lefel optimwm ar gyfer meillion gwyn mewn porfa yw tua 50%, nid yw canran uwch yn dod ag unrhyw fuddion ychwanegol.

 

Dangosodd astudiaethau o fuchod a oedd yn pori ar wyndonnydd amrywiol, cymysg (yn cynnwys glaswellt, perlysiau a chodlysiau) nad oedd cynnwys hyd at naw math o rywogaeth gwahanol yn effeithio ar gynhyrchiant llaeth. Fodd bynnag, mae’r newidiadau ym mhroffil asid brasterog y llaeth a ddisgrifiwyd yn gynharach yn cael eu cynnal ar borfeydd amrywiol. Roedd llaeth o fuchod ar borfa sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau yn cynnwys lefelau uwch o asidau brasterog omega-3, sy’n fuddiol iawn o ran iechyd y galon a’r ymennydd. Ymhlith buddion eraill gwndwn amrywiol mae cynnydd mewn bioamrywiaeth, cyfoethogi cynefinoedd naturiol a lleihau lefelau nitrogen yn yr wrin (hyd at 20% mewn rhai achosion) ac mae hyn yn ei dro yn lleihau llygredd amgylcheddol. Ar ôl eu torri, roedd gwyndonnydd amrywiol a oedd yn cynnwys 12 rhywogaeth wahanol yn cynhyrchu mwy o gynnwys sych (tua. 25%) o’u cymharu â gwndwn â nifer bach o rywogaethau (tair rhywogaeth wahanol). Roedd goroesiad y gwndwn amrywiol (10 neu 12 rhywogaeth wahanol) hefyd yn well na’r gwndwn a oedd yn cynnwys llai o rywogaethau, ac roedd yn dal i gynnal lefelau cynhyrchiant yn ystod yr arbrawf pedair blynedd. Mae’n debyg mai’r rheswm dros y cynnydd hwn o ran cynhyrchiant oedd bod rhywogaethau gwahanol yn defnyddio adnoddau gwahanol, gan leihau cystadleuaeth a chynyddu dwysedd y llystyfiant. Oherwydd hyn, gall cynyddu nifer y rhywogaethau mewn glaswelltiroedd hefyd gynyddu dwysedd llystyfiant gwreiddiau o dan y ddaear. Mae’r mecanwaith hwn yn gwella dal a storio carbon, gan fod rhagor o garbon yn cael ei gyflwyno i’r pridd drwy wreiddiau’r planhigyn. Mae hon yn strategaeth allweddol i liniaru newid hinsawdd, gan fod storio carbon mewn priddoedd yn y tymor hir yn ei atal rhag cael ei gynnwys mewn nwyon tŷ gwydr niweidiol fel carbon deuocsid.

 

Crynodeb

Mae nifer o astudiaethau gwyddonol wedi dangos bod llawer o fanteision i systemau cynhyrchu llaeth yn seiliedig ar borfa o’u cymharu â systemau cymeriant uchel, o dan do: Maent yn fwy cynaliadwy, maent yn gwella ansawdd y cynnyrch, yn gwella lles anifeiliaid, yn lleihau’r effaith amgylcheddol ac yn fwy proffidiol yn gyffredinol. Fodd bynnag, nid yw’r system heb ei hanfanteision, a’r brif broblem yw’r gostyngiad yn y cynhyrchiant llaeth o’i gymharu â buchod a gedwir o dan do sy’n bwyta dogn cymysg cyflawn (TMR). Oherwydd amrywiadau tymhorol yn y glaswellt sy’n arwain at anghysonderau o ran egni metaboladwy a chynnwys protein, yn aml nid yw gwartheg sy’n cynhyrchu llawer o laeth yn gallu bwyta digon o laswellt i gynnal yr allbynnau. Gallai dulliau da o reoli’r glaswelltir, drwy ddefnyddio pori cylchdro a monitro lefelau maeth yn agos, fod yn ddigonol i gynnal buchod sy’n cynhyrchu lefelau canolig i uchel o laeth. Gall dulliau porthi wedi’u targedu, sef cynnig porthiant ychwanegol sy’n uchel mewn egni ond yn isel mewn protein a ffibr, helpu i gynnal cynhyrchiant llaeth heb effeithio ar gymeriant glaswellt. Mae cynnwys codlysiau fel meillion yn cynyddu’r protein a gall hyn helpu i gynnal lefelau’r llaeth a gynhyrchir a’r cynnwys sych a fwyteir (DMI), gan gynnig buddion amgylcheddol ar yr un pryd. Er mwyn lleihau’r effeithiau amgylcheddol ymhellach, gallai ffermwyr ystyried plannu gwndwn amrywiol, sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau, yn cynnwys perlysiau, codlysiau a gweiriau. Mae’r gymysgedd hon yn cynnig llawer o fuddion amgylcheddol amrywiol gan gynnal lefelau cynhyrchiant gwych wrth dorri ar gyfer silwair a gwella proffil asid brasterog llaeth.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth