Mae defnyddio biomas fel ffynhonnell ynni yn cyfrannu tuag at gyrraedd sero net. Mae tanwydd ffosil yn stryd unffordd o ran cynhyrchu carbon. Maent yn rhyddhau carbon i'r atmosffer heb amsugno dim. Maent hefyd yn cymryd miliynau o flynyddoedd i ffurfio. Ar y llaw arall, pan gaiff biomas ei losgi, mae’n rhyddhau gwres a charbon deuocsid ond mae'n
ail-ddal y carbon yn ystod ei gyfnod tyfu a dim ond misoedd neu flynyddoedd y mae'n eu cymryd nes y gellir ei ddefnyddio. Felly, mae gan fiomas y potensial i fod yn garbon niwtral.
Wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu ar faint o danwydd ffosil a ddefnyddir i dyfu, cynaeafu a phrosesu'r biomas.
Felly, beth yw biomas?
Mae biomas yn cynnwys llawer o wahanol ffynonellau megis brasterau anifeiliaid, tail, olewau llysiau, gweddillion amaethyddol, carthffosiaeth, sglodion pren a chnydau.
Nid yw cnydau yn cael eu defnyddio'n gyffredin ar gyfer biomas, ond maent yn cynnwys
india-corn, alfalfa a chansen siwgr. Er y gall y rhain fod yn ffurfiau defnyddiol o fiomas, mae'n bwysig peidio â rhoi’r gorau i dyfu cnydau at ddefnydd cynhyrchu bwyd.
Pethau eraill i'w hystyried yw:
Cyfradd twf - pa mor gyflym y gall gynhyrchu'r biomas, pa mor rheolaidd, a'i ansawdd fel ffynhonnell biomas
Y gallu i ddal carbon – atafaelu uwchben ac o dan y ddaear
Eu heffaith amgylcheddol – megis aflonyddu ar y pridd neu ddiffyg cynefin addas ar gyfer rhywogaethau brodorol
Ystod ddaearyddol – yr hinsawdd y gall y cnwd ffynnu ynddi
Effeithlonrwydd maetholion – faint o faeth mae'r cnwd yn ei gymryd o'r pridd a faint sydd ei angen arno i dyfu
Miscanthus yw’r cnwd a ffefrir gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer ei hymchwil helaeth i faes biomas. Mae'r rhesymau dros ddefnyddio miscanthus yn cynnwys y canlynol:
Mae'n tyfu hyd at 10 metr o uchder, gan ddefnyddio ychydig o arwynebedd i dyfu llawer o fiomas
Mae ganddo gynnwys lignin uchel, sy'n golygu y gall ddal llawer o garbon
Mae'n tyfu'n gyflym, felly gellir ei gynaeafu mewn blwyddyn, ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol tan flwyddyn 20
Mae ganddo bensaernïaeth ffotosynthesis C4, sy'n golygu ei fod yn dal mwy o garbon
Mae'n gysylltiedig â llai o aflonyddu ar y pridd
Mae'n cludo carbon o'r biomas uwchben y ddaear i'r gwreiddiau a'r rhisomau, gan ei dynnu'n ôl o'r awyr
Mae'r deiliach marw a grëir yn cyfrannu at garbon y pridd
Gellir defnyddio Miscanthus i greu gwres, trydan neu danwydd hylifol. Mae hefyd yn gallu tyfu'n dda ar dir ymylol. Nid ydych chi eisiau disodli tir sy'n tyfu cnydau bwyd i dyfu cnydau ynni. Felly, mae’n well defnyddio tir ymylol lle na all cnydau bwyd dyfu na chael eu cynaeafu’n effeithiol.
Un prosiect sy'n cael ei gynnal rhwng prifysgolion Aberystwyth, Lincoln a Southampton yw Miscanthus AI. Mae’r prosiect wedi'i rannu'n dri phecyn gwaith, a’i nodau yw:
- Defnyddio robotiaid a dronau i ddadansoddi nodweddion ffenoteip planhigion yn awtomatig
- Gwella detholiad genomig planhigion
- Pennu proses gwneud penderfyniadau bridwyr planhigion
Mae pecyn gwaith 1 yn ymwneud â mesur data gan ddefnyddio technegau delweddu nad ydynt yn ddinistriol. Mae pecyn gwaith 2 yn edrych ar gyfuno data amgylcheddol, priodweddau twf cynnar, data sbectrosgopeg is-goch agos (NIRS) a data genomig. Mae hyn yn golygu y gallwch ragweld canlyniad y planhigyn cyn iddo aeddfedu ac mae’n eich galluogi i benderfynu a ddylid defnyddio'r planhigyn penodol hwnnw fel planhigyn rhiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf ai peidio. Mae hyn yn cyflymu'r broses benderfynu honno o’i gymharu â'r dulliau traddodiadol a ddefnyddir wrth fridio planhigion. Nod pecyn gwaith 3 yw creu bridiwr digidol trwy gyfweld ac astudio bridwyr planhigion i ddeall sut y gellid defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn ychwanegol at eu harbenigedd.