Beth yw Miscanthus AI?

Mae Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Lincoln a Phrifysgol Southampton wedi dod ynghyd i weithio ar brosiect gyda'i gilydd o'r enw Miscanthus AI. Nodau'r prosiect yw:

  1. Defnyddio modelau dysgu peirianyddol i fapio genoteip Miscanthus hyd at y ffenoteip

  2. Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) addasol ac esboniadwy i integreiddio rhesymu a phenderfynu dynol i’r gwaith o fridio planhigion yn ddeallus

Beth mae hyn yn ei olygu i amaethyddiaeth y DU?

Trwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddewis planhigion a fydd yn perfformio yn y ffordd orau bosibl, gellir lleihau cylchoedd bridio planhigion, a chynhyrchu'r cynnyrch terfynol yn gyflymach. Yn draddodiadol, mae bridwyr planhigion medrus iawn yn dewis planhigion sydd â phriodoleddau neu nodweddion dymunol a'u bridio yn y genhedlaeth nesaf. Mae hyn nid yn unig yn cymryd llawer o amser, ond mae hefyd yn dibynnu ar yr hyn a elwir yn 'llygad y bridiwr'. Nod Miscanthus AI yw dynwared llygad y bridiwr.

Yn y dyfodol, gallai AI ragweld ffenoteip y planhigion cyn i un haden gael ei hau.

Felly, sut mae AI yn wahanol i ddetholiad genomig?

Mae geneteg wedi dod yn bell dros y blynyddoedd diwethaf. Er y gall greu organebau gyda'r nodweddion corfforol mwyaf dymunol, nid yw'n ystyried ffactorau eraill. Bydd AI, fel bridwyr planhigion dynol, yn gallu ystyried manteision economaidd (enillion ar fuddsoddiad, cynhyrchion cystadleuol ac ati) a rhyngweithiadau rheoli amgylcheddol. Mae'n debygol y bydd y rhain, ynghyd â gwybodaeth enetig, yn cynhyrchu'r cnydau mwyaf proffidiol a gwydn.

Mae Miscanthus AI yn defnyddio roboteg a delweddu 3D i gasglu data ffenoteipio gan gyfuno hyn â data genomig helaeth a gasglwyd ar Miscanthus yn flaenorol.

Pam mae'r prosiect yn defnyddio Miscanthus?

Mae'r prosiect yn defnyddio Miscanthus fel model i brofi ei ddatblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial ym maes bridio planhigion. Ond mae gan Miscanthus hefyd y potensial i ddod yn ased economaidd enfawr.

Mae biomas planhigion yn ffurfio 9% o ynni adnewyddadwy'r DU. Mae'r rhan fwyaf o fiomas yn cael ei fewnforio, sy'n effeithio ar y budd amgylcheddol cyfeillgar sy’n deillio o ddefnyddio ffynonellau adnewyddadwy.

Mae cyfle i ehangu faint o biomas y DU sy’n cael ei gynhyrchu trwy ddefnyddio Miscanthus. Mae'n laswellt sy'n tyfu'n gyflym, yn tyfu hyd at 4 metr bob blwyddyn, ac mae ganddo botensial cynhesu byd-eang isel. Gall Miscanthus gynhyrchu hyd at 25 tunnell yr hectar, yn fwy na chnydau bio-ynni eraill fel coedlannau cylchdro byr (SRC) a gwellt cnydau grawn.

Mae'n atafaelu mwy o garbon na chnydau blynyddol, mae angen mewnbwn cymharol isel arno, a gellir ei dyfu ar dir o ansawdd gwael. Mae'n bwysig nad yw cnydau biomas yn cystadlu am le gyda chnydau bwyd, felly mae'r gallu i dyfu Miscanthus ar dir sy’n anaddas ar gyfer cnydau yn fudd enfawr.

Mae'n cael ei gynaeafu ar ôl iddo orffen aeddfedu, felly bydd yn dal i ddarparu cynefin a lloches i anifeiliaid bach dros y cyfnodau cynaeafu nodweddiadol a misoedd y gaeaf. Mae cynaeafu hwyr hefyd yn fuddiol i ffermwyr sy'n tyfu Miscanthus gan fod cyfraddau contractwyr yn debygol o fod yn is y tu allan i'r tymor.

Yr anfantais wrth ddefnyddio Miscanthus yw ei fod yn cymryd 2 flynedd i aeddfedu. Mae hyn wedi bod yn rhwystr i wella bridio gan fod cylchoedd bridio mor hir. Gall defnyddio AI i ragweld ffenoteip leihau hyn yn sylweddol.

Beth mae hyn yn ei olygu i ffermwyr?

Os yw'r prosiect Miscanthus AI yn llwyddiannus, yna gallai defnyddio deallusrwydd artiffisial ym maes bridio planhigion newid y ffordd rydym yn ffermio yn y dyfodol. Bydd defnyddio rhagfynegiadau a wneir gan fodelau dysgu peirianyddol yn cynhyrchu'r cnydau mwyaf cynaliadwy a gwydn. Bydd yn ein galluogi i addasu i'r hinsawdd newidiol a heriol a chadw ar y blaen â hi.

Bydd dewis y cnydau gorau ar gyfer eich math o bridd, eich hinsawdd leol a’ch elw targed yn cymryd rhywfaint o'r ansicrwydd allan o ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dronau a deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio yn y sector bridio planhigion
Nod prosiect Miscanthus AI (partneriaeth ymchwil rhwng
Pam mae Miscanthus yn cael ei ddefnyddio ar gyfer biomas?
Mae defnyddio biomas fel ffynhonnell ynni yn cyfrannu tuag at
Cynllunio a Thwnelau Polythen ar gyfer Tyfwyr Masnachol yng Nghymru