Dr Ruth Wonfor: IBERS, Prifysgol Aberystwyth


Prif negeseuon:

  • Sicrhewch eich bod yn paratoi cyllideb fwydo’n gynnar ar gyfer misoedd y gaeaf er mwyn sicrhau’r elw gorau posib dros y cyfnod. 
  • Peidiwch â diystyrru gofynion maeth eich buches, sichrewch bod gan eich da byw ddigon o fwyd ar gyfer cynhaliaeth a chynhyrchiant. 
  • Cyfrifwch faint o fwyd sydd gennych ar gyfer y gaeaf a’i gynnwys o ran maeth.
  • Defnyddiwch yr wybodaeth i gyfrifo a oes gwarged neu ddiffyg o ran egni a rheolwch eich cenfaint neu eich dwysfwyd yn unol â hynny. 

Er mwyn rheoli eich dwysfwyd yn effeithiol dros gyfnod y gaef, mae paratoi cyllideb fwydo yn hanfodol. Trwy gyfrifo ymlaen llaw faint o fwyd fydd angen i chi’i ddefnyddio dros y cyfnod, byddwch yn gallu cyllidebu’r dwysfwyd sydd eisoes gennych ac i baratoi ynghynt. Mae’r erthygl dechnegol hon yn anelu at eich cynorthwyo i ddeall gofynion sylfaenol eich da byw o ran bwyd, a’r egni posib sydd yn y porthiant a dyfir gartref gennych chi. Dylech wedyn allu cyfrifo a oes egni dros ben neu ddiffyg egni a deall sut i reoli’r naill a’r llall. 

 

Beth yw gofynion egni’r fuches?

Er mwyn deall gofynion protein ac egni eich buches dros y gaeaf, y cam cyntaf yw rhannu’r fuches yn wahanol ddosbarthiadau da byw. Er enghraifft, mewn system bîff, bydd gan dda byw sy’n tyfu ofynion gwahanol i heffrod cyflo. Dylid cyfrifo gofynion egni metabolig (ME) dyddiol pob dosbarth o anifeiliaid. Mae gan bob anifail ofynion maeth cynhaliol er mwyn goroesi ac i gadw pwysau’r corff yn gyson. Nid yw cynhaliaeth yn cynnwys yr egni gofynnol ar gyfer cefnogi cynhyrchiant, megis beichiogrwydd, twf neu laethiad. Nid yw mwyafrif y da byw sy’n cael eu ffermio mewn cyflwr lle mai cynhaliaeth yn unig sydd arnynt ei angen, ac mae angen bwyd ychwanegol arnynt ar gyfer cynhyrchiant. Er enghraifft, o’r cyfanswm ME  gofynnol ar gyfer buwch laeth 600kg sy’n cynhyrchu 30kg o laeth, dim ond 31% sydd ei angen ar gyfer cynhaliaeth. Ar y llaw arall, bydd bustach bîff o frîd sy’n pesgi ar gyfradd ganolog, sy’n anelu at gynnydd o 1kg mewn pwysau byw dyddiol, angen 56% o’r cyfanswm gofynion ME ar gyfer cynhaliaeth. Yn y ddwy achos, er yn fwy o ran y fuwch laeth, mae cyfran sylweddol o’r egni gofynnol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchiant. Bydd methu â darparu maeth digonol yn arwain at dda byw anghynhyrchiol, gwael, a fydd yn costio mwy yn y pen draw. Ni ddylid anghofio gofynion protein, a dylent fod yn gytbwys â gofynion egni. 

Mae hefyd yn bwysig i gofio bod angen paru gofynion egni a phrotein yr anifail gyda chymeriant  deunydd sych (DM) disgwyliedig (neu wir ffigyrau os ydynt ar gael) yr anifail hwnnw, sy’n cynyddu gydag oedran a phwysau byw metaboleg yr anifail. 

Mae gofynion dogn manwl ar gael ar gyfer gwartheg bîff a gwartheg llaeth. Mae ychydig o wybodaeth ar gyfer gofynion mamogiaid ar gael, ond mae gwyboaeth o fewn y sector defaid yn cael ei ddiweddaru. Gweler y ddogfen ‘Feed planning for cattle and sheep’ am drosolwg o ofynion ME blynyddol. Mae Bocs 1 yn dangos enghraifft o sut i gyfrifo dogn ar gyfer bustach 450kg sy’n tyfu, gan ddefnyddio data o gyfrifianell dogn bîff AHDB. 

Ni ddylid anghofio rôl mwynau, elfennau hybrin a fitaminau wrth gyfrifo fformwlâu. Maent i gyd yn hanfodol ar gyfer cynhaliaeth, cynnydd mewn cynhyrchiant ac iechyd. 

Bocs 1: Enghraifft o ddogn yn seiliedig ar silwair ar gyfer bustach 450kg gyda chynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) o 1kg y dydd. Defnyddiwyd yr adnodd cyfrifo dogn bîff i gyfrifo’r ddogn. Am fwy o fanlyion, gweler y ddolen ganlynol a gofynnwch am gyngor gan faethegydd cymwys.

tech article winter feed budget cym

 

Faint o egni sydd yn y bwyd sydd eisoes gennyf?

Bydd y bwyd sydd ar gael i’ch da byw ar gyfer y gaeaf yn ddibynnol ar eich system. Bydd anifeiliaid sy’n cael eu cadw dan do angen porthiant wedi’i silweirio yn ogystal â dwysfwyd a brynir i mewn; er y byddai anifeiliaid sy’n pori angen y rhain hefyd, byddant yn ychwanegol i’r porfeydd sydd ar gael. Mae’n rhaid cyfrifo gwerth ME y porthiant sydd ar gael gan ddefnyddio gwerth deunydd sych (DM) y porthiant.

 

Porfa

Cyn y gaeaf, mae’n well cynllunio pa gaeau fydd yn cael eu pori yn ystod y gaeaf. Bydd hyn yn eich galluogi i gyfrifo faint o orchudd sy’n bresennol, a gan ddefnyddio ffon fesurydd, i amcangyfrif y gwerth DM ym mhob cae. Os na fyddwch yn pori eich buches drwy gydol y gaeaf, mae’n dal i fod yn syniad da i gadw llygad ar dyfiant y borfa’n rheolaidd. Gallai dealltwriaeth o ba mor dda mae’r porthiant yn tyfu olygu y gallwch gychwyn pori ynghynt ac arbed arian. 

Bydd arferion rheoli tir a chywasgiad y gwndwn yn arwain at gynnwys maeth amrywiol o gae i gae. Am fwy o fanylion ynglŷn â’r cyflenwad egni y dylech ei ddisgwyl o’ch cae, cymerwch olwg ar ‘Feed planning for cattle and sheep’.

 

Porthiant wedi’i silweirio

Y ffordd orau i ddeall faint o egni fydd eich silwair yn ei gynnig yw i gymryd samplau a phrofi’r ansawdd. Bydd ansawdd cynhyrchiant yn amrwyio o dymor i dymor, felly dylid cynnal dadansoddiad bob blwyddyn. Bydd allbynnau o ran DM, ME, protein crai a pH yn eich cynorthwyo i gynllunio’r ffordd orau o ddefnyddio eich silwair. Bydd hefyd angen i chi ystyried faint o borthiant fydd yn cael ei watraffu trwy storio neu fwydo, sydd fel arfer yn cael ei amcangyfrif i fod oddeutu 5%. Unwaith y bydd hyn wedi’i gynnwys, gellir ychwanegu’r gwerth terfynol i’ch cyllideb fwydo. 

 

Dwysfwyd a brynir i mewn

Gellir canfod cynnwys egni a phrotein mewn dwysfwyd a chydrannau crai yn uniongyrchol gan y cyflenwr. Gweler y Mini Feeds Directory am arweiniad ynglŷn â chyfansoddion crai a dyfir gartref.

 

Darpariaeth mwynau a maetholion – peidiwch â gobeithio’n unig y bydd popeth yn iawn

Bydd cyfansoddion a brynir i mewn yn cynnwys lefelau addas o fwynau, elfennau hybrin a fitaminau ar gyfer y math o dda byw y maent wedi eu creu ar eu cyfer. Os ydych yn bwydo eich porthiant eich hun, mae’n ddefnyddiol i gynnal profion er mwyn sicrhau nad yw da byw yn brin o unrhyw fwynau nac elfennau hyrbin. Sicrhewch fod unrhyw fagiau mwynau a ychwanegir i gymysgedd cartref yn cynnwys yr amrediad lawn o fwynau, elfennau hybrin a fitaminau gofynnol ar gyfer y math o dda byw sy’n cael eu bwydo. Fodd bynnag, rhaid cymryd gofal nad ydych yn gor-fwydo, gan fod rhai mwynau a maetholion yn gallu bod yn niweidiol neu’n gallu amharu ar amsugniad elfennau posib os oes gormod ohonynt yn y gymysgedd. 

 

Cyfrifwch eich cydbwysedd egni

Yn seiliedig ar yr wybodaeth a gasglwyd ar eich fferm ac amcangyfrif o nifer y dyddiau pan na fydd eich stoc yn pori, bydd y fformwla isod yn cyfrifo eich cydbwysedd egni yn fras:

1.            Cyfrifwch yr egni gofynnol

Egni gofynnol (MJ ME) = Nifer yr anifeiliaid x gofynion egni/y pen (MJ ME) x  amcangyfrif o nifer y dyddiau heb fod yn pori

2.            Cyfrifwch y cydbwysedd egni

Cydbwysedd egni (MJ ME) = Cyflenwad egni sydd ar gael trwy borthiant ar y fferm (MJ ME) – Egni gofynnol (MJ ME)

 Bydd yr allbwn cydbwysedd egni un ai’n rif positif neu’n rif negyddol. Os bydd gennych gydbwysedd egni positif, darllenwch isod am egni dros ben. Os bydd gennych gydbwysedd egni negyddol, darllenwch isod am ddiffyg egni. 

 

Egni dros ben

Os oes gennych ormod o fwyd, mae’n bosib y byddech yn dymuno lleihau eich defnydd o borthiant a brynir i mewn a dibynnu ar eich porfeydd neu borthiant sydd wedi’i gadw a’i dyfu gartref. Mae’n bwysig i ystyried a fyddai anifeiliaid iau yn gallu bwyta mwy o borthiant lle bo hynny’n lleihau dwysedd egni’r ddogn. Os oes gennych ddigon o le, gallech hefyd ystyried cynyddu niferoedd stoc. Fodd bynnag, yn y ddwy achos, cofiwch bod angen paru’r protein i’r mewnbynnau egni’n ddigonol. Gallech hefyd ystyried gwerthu silwair dros ben a dyfwyd gartref i wneud elw ychwanegol. 

 

Diffyg egni

Os nad oes gennych ddigon o fwyd, gallwch edrych ar opsiynau i brynu porthiant. Fodd bynnag, mae hyn yn gostus, ac ni ellir dibynnu ar yr ansawdd bob amser. Felly, ystyriwch opsiynau eraill fel cam cyntaf. A allwch chi werthu da byw dros ben neu ladd anifeiliaid anghynhyrchiol cyn gynted â phosib cyn y gaeaf? Os bydd y tywydd yn caniatau, gallai systemau cadw dan do dros y gaeaf wneud defnydd o bori estynedig, cadw da byw allan cyn hired â phosib yn yr hydref a’u troi allan i bori’n gynnar yn y gwanwyn canlynol. Sicrhewch bod eich da byw’n aros yn iach, gan arwain at wneud y gorau o drosiant porthiant ar ddognau wedi’u cydbwyso’n ofalus fel nad ydych yn gwastraffu unrhyw fwyd.

Bydd cyfrifo’r cydbwysedd egni cyffredinol ar gyfer eich fferm gyfan yn fwy cymhleth nag un hafaliad yn unig. Mae sawl taenlen defnyddiol ar gael ar lein i’ch cynorthwyo i rannu gofynion eich fferm. Gweler dwy enghraifft yma, un ai Tried and Tested booklet neu AHDB Beef and Lamb. Fel arall, cwblhewch ein modiwl E-ddygu ar baratoi cyllideb fwyd ar gyfer y gaeaf. 

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth