Prosiect Porfa Cymru
Mae gan Gymru fantais aruthrol yn ei gallu i dyfu llawer iawn o laswellt o ansawdd da. O’i reoli’n gywir, mae glaswellt sy’n cael ei bori yn rhoi porthiant o ansawdd da i anifeiliaid, yn lleihau’r angen i ddefnyddio gwrtaith nitrogen, yn gallu cadw carbon yn y pridd ac mae’n cael ei gysylltu ag elw uwch cyson ar ffermydd.
Nod Prosiect Porfa Cymru yw darparu gwybodaeth a chyngor rheoli ar sail tueddiadau tyfu glaswellt gwahanol ardaloedd, a gofnodwyd yn ofalus gan y ffermwyr ymroddedig sy’n rhan o’r prosiect. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella eich dulliau rheoli pori OND ddim yn mesur glaswellt ar hyn o bryd, dyma’r prosiect i chi!
Bydd y wybodaeth yn eich helpu i wneud penderfyniadau amserol am reoli glaswelltir ar y fferm megis:
- A ddylwn droi’r da byw allan?
- A ddylwn gau’r caeau ar gyfer silwair?
- A ddylwn ychwanegu porthiant clustogi?
- A ddylwn chwalu gwrtaith yr wythnos hon?
- A ddylwn ddiddyfnu fy wŷn?
Dengys gwaith ymchwil bod ffermwyr sy’n rheoli glaswellt yn dda yn fwy proffidiol ac yn gallu gwrthsefyll sgil-effeithiau’r tywydd yn well.
MWY O GYFRADDAU TWF AR GYFER 2022!
Ceir amrywiol systemau, mathau o dir a lefelau profiad ymysg y ffermydd a’r ffermwyr a bydd pob un ohonynt yn mesur twf eu glaswellt bob 7 i 14 diwrnod rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd.
Eleni mae gennym:
Nifer y ffermwyr biff a defaid: 26
Nifer y ffermwyr llaeth: 23
Os gwelwch fferm yn yr un ardal â chi, cadwch olwg ar dwf eu glaswellt, mae’n debygol y bydd tueddiad tyfu tebyg yn digwydd ar eich fferm chi! Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau rheoli rhagweithiol ar eich fferm eich hun.
Ffermwyr glaswellt profiadol
Ar gyfer 2022 dewiswyd y tri ffermwr hyn oherwydd eu gwybodaeth a’u sgiliau rheoli glaswelltir ardderchog i roi inni olwg ar eu systemau ac i roi gwybodaeth am wneud penderfyniadau amserol dros y flwyddyn.
Dewis lleoliad
- Goldsland Farm
- Moor Farm
- Gwarffynnon
- Frigan Farm
- Erw Fawr
- Kilford Farm
- Carreg-y-llech
- Ciliauwen
- Dremddu Fawr
- Felindre Uchaf
- Gwernhefin
- Danyrallt
- Lower Barn
- Lan Farm
- Ffordd Las
- Blaenglowon Fach
- Penrhiw
- Blaenwaun
- Glascoed
- Carwed Fynydd
- Blaenglowon Fawr
- Caerllwyn
- Weobley Castle Farm
- Tal y Fedw Newydd Farm
- Llanllibio Groes
- Cil y Winllan
- Bryn Farm
- Hendre Bryn Cyffo
- Fferm Carreg
- Cefn Draw Farm
- Cefn Llan
- Llyn Rhys
- Portfield Gate
- Penmaen Bach
- Hill Farm
- Pendre
- Fron Farm
- Pen y Bryn
- Flemingston Court
- Llanvetherine Court
- Coed Mawr
- Cwmdu
- Trygarn
- Llwyn
- Solva
- Coleg Meirion-Dwyfor Glynllifon
- Carregcynffyrdd
- Hardwick Farm
- Varchoel Hall
- Upper House Farm