Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i atal diffyg porthiant drwy dynnu sylw at ddiffygion 10 diwrnod ynghynt na thrwy asesiad gweledol yn unig.

Ar Hill Farm, ger y Gelli Gandryll, mae Sam a Will Sawday a’u mam, Penny Chantler, yn cadw diadell o 1,500 o ddefaid Romney Seland Newydd pedigri.

Maent wedi bod yn mesur glaswellt ers pum mlynedd, ac yn 2023, fe wnaethant rannu eu data tyfiant trwy Brosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio.

“Mae mesur a llwytho’r data ar Agrinet wedi ein helpu i ddeall beth all ein fferm ei gyflawni,” meddai Sam.

“Mae wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod cyfnodau sych yr haf – mae’r ffigurau’n dangos yn graff pan fydd twf yn gostwng.

“Petaem yn gwneud hynny a dibynnu ar y llygad yn unig, byddem 10 diwrnod yn arafach yn gweithredu, ond rydym yn gallu rhagweld y prinder bwyd a gwneud penderfyniadau ar sail y data.”

Ar 1,200 troedfedd uwchben lefel y môr, nid yw tyfiant glaswellt yn dechrau tan ddiwedd mis Ebrill yn Hill Farm ond trwy adeiladu deunydd organig a bioleg y pridd trwy bori symudol a lleihau’r defnydd o chwynladdwyr, pryfleiddiad a thriniaeth rheoli llyngyr, nid yw’r busnes bellach yn dibynnu ar wrtaith synthetig i gynhyrchu porthiant.

Roedd ffermio adfywiol yn ddilyniant naturiol o’u system porthiant yn unig cost isel.

Mae’r teulu’n cynhyrchu stoc bridio, ŵyn tew ac ŵyn stôr o ddiadell bedigri o 1,500 o High Country Romneys – 650 o famogiaid Romney a Romney x texel ac 850 o Romneys masnachol.

Maent yn awyddus iawn i fonitro ond mae'r buddion y maent yn eu gweld yn llai eglur nag ond cynhyrchu mwy o gig oen o erw o dir neu ar bwysau uwch.
 
Mae cael mwy o fywyd gwyllt ar y fferm yn arwydd o system iach ac mae hynny’n golygu planhigion iach a da byw iach a llai o fewnbynnau a thriniaethau i gael yr un lefel o berfformiad.

Mesurir glaswellt yn wythnosol yn ystod y tymor tyfu ar y bloc cartref 61 hectar (ha).

“Rydym ni'n cymryd ychydig o fesuriadau cyn i ni wyna ym mis Ebrill ac nid ydym yn mesur yn ystod wyna oherwydd bydd y rhan fwyaf o'r fferm yn cael ei stocio'n sefydlog bryd hynny,” eglura Sam.

Ar ôl ŵyna, mae'r ddiadell yn rhedeg mewn tair porfa symudol gyfartal gyda chyfnodau byr o bori ar effaith uchel i annog aildyfiant.

Mae maint padogau yn amrywio ond, i atal ail-bori, y nod yw peidio â phori defaid yn yr un un padog am fwy na phedwar diwrnod.
 
Yn hanesyddol, bu cyfnodau gorffwys byr o tua 25 diwrnod pan oedd y system yn dynwared model Seland Newydd ond yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae’r teulu wedi bod yn treialu’r model pori glaswellt uchel – yn pori traean, yn sathru traean ac yn gadael traean – ac maent yn awr wedi cyrraedd man lle mae ganddynt fodel o’r hybrid o’r ddau fodel.

Bydd mamogiaid sy’n llaetha ac ŵyn hyd at flwydd oed yn pori gorchuddion byrrach, gan bori 10cm i lawr i 4cm, i sicrhau ansawdd gorau.

Mae mamogiaid wedi'u diddyfnu yn pori gorchuddion uchel lle bo'n berthnasol; mae'r dull hwn yn cynyddu dyfnder gwreiddio gan gynyddu gwydnwch amgylcheddol a hefyd yn caniatáu i blanhigion gael mynediad at fwy o faetholion o rannau dyfnach yn y pridd.

Mae'r cyfnodau gorffwys hirach hefyd yn helpu i dorri'r cylch llyngyr, gan leihau faint o ddos sydd ei angen.

Pan fydd y glaswellt yn cael ei fesur mae'n cael ei wneud mewn ffordd unffurf iawn.

“Rydym yn dilyn yr un llwybr bob tro, yr un patrwm, yn mesur yr un rhannau fwy neu lai, mae'n cael gwared ar yr holl newidynnau,” meddai Sam.

Yr hyn y mae wedi'i ddangos yw pa mor amrywiol y gall perfformiad fod o gae i gae.

“Yr agwedd fwyaf defnyddiol yw deall beth sydd yna, beth yw'r potensial a beth yw'r manteision a'r anfanteision wrth symud ymlaen,'' meddai Sam.

“Po fwyaf y byddwch chi'n ei fesur, y mwyaf y byddwch chi'n deall eich fferm a pha gaeau i'w rhannu.''

Mae hefyd yn helpu i osgoi sefyllfaoedd lle mae padogau'n cael eu gor-bori.

“Mae angen cyfnodau gorffwys hir ar laswellt ond oni bai eich bod chi'n mesur nid ydych chi’n gwybod yn iawn pryd oedd y stoc yn y padog hwnnw ddiwethaf. Gall fod yn dipyn o syndod pa mor fyr oedd yr amser ers y pori diwethaf,'' meddai Sam.

Mae mamogiaid cyfeb yn pori 20ha o gymysgeddau bresych wedi’u drilio’n uniongyrchol o swêj, maip a chêl o ganol fis Rhagfyr i ddiwedd mis Chwefror. 
 
Unwaith y byddant wedi gorffen y cnwd hwnnw mae’r caeau ar gyfer hyrdda’n cael eu pori cyn wyna cyn stocio sefydlog ar gyfer wyna yn yr awyr agored ym mis Ebrill.

Mae caeau wedi'u hailhau wedi'u cnydio â gwndwn llysieuol, a fesurir hefyd.

“Mae'r gwndwn bob amser yn perfformio'n well na phopeth ond yn aml maen nhw'n fesuriadau anghysbell - maen nhw'n tyfu'n gyflym ond mae cynnwys sych yn is - felly mae'n rhaid gwneud rhai penderfyniadau. Mae'r un peth yn wir os oes gennych chi fwy o feillion yn y borfa hefyd,'' meddai Sam.

Rhoddodd mesur yr hyder i’r busnes bori cyfran o’r tir gyda 90 o fustych croes o wartheg llaeth yr haf hwn am y tro cyntaf, mewn cytundeb pori gyda fferm arall, i gynyddu ffrwythlondeb y pridd a thorri’r cylch llyngyr.

Cwrs Meistr ar Borfa Cyswllt Ffermio a hwyluswyd gan Precision Porzing a wnaeth ennyn diddordeb Sam gyntaf mewn mesur ac ers hynny mae wedi bod yn aelod o grŵp trafod rhanbarthol Cyswllt Ffermio.

Cyn iddo fod yn rhan o Brosiect Porfa Cymru, defnyddiodd y data a rannwyd gan ffermwyr eraill ar y safle i lywio ei benderfyniadau ei hun.
 
“Byddwn yn cael diweddariad bob pythefnos a gallwn weld beth oedd yn digwydd o ranbarth i ranbarth a sut roeddem yn cymharu.''

Nid yw Hill Farm yn fusnes sy’n sefyll yn llonydd ac mae’r cynlluniau ar gyfer 2024 yn datblygu’n barod. “Rydym yn ceisio gwella ein cylchdro a gwella’r cydbwysedd rhwng ansawdd a chyfnodau gorffwys a gweld beth allwn ni ei gyflawni,’’ meddai Sam.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o
Mae mesur glaswellt a phennu cyllideb wedi rhoi’r hyder i ffermwr llaeth o Gymru newid ei bolisi gwrtaith, gan leihau costau mewnbwn £20,000 y flwyddyn.
Mae Huw Williams yn godro 250 o Holstein Friesians sy’n lloea yn