Mae Huw Williams yn godro 250 o Holstein Friesians sy’n lloea yn yr hydref yn Ffordd Las, ger Rhuthun, lle mae porthiant o laswellt wedi’i bori a silwair o ansawdd uchel yn ysgogi cynhyrchiant.

Mae’n rhannu ei ddata ar dwf glaswellt drwy Brosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio, gan fesur glaswellt yn wythnosol i lywio’r penderfyniadau o ran dyraniadau pori.

Mae wedi trawsnewid y ffordd y mae'n ffermio. “Mae wedi dangos i mi beth sy’n bosibl. Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf ychydig flynyddoedd yn ôl faint o laeth y gallwn ei gynhyrchu ar y fferm hon o laswellt, mi fyddwn wedi chwerthin yn eu hwynebau ond mae cael y data wedi dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni.''

Mae Huw yn ffermio 177 hectar (ha) mewn partneriaeth â’i frawd, Clwyd, a’u rhieni, Elwyn a Gwenan. Mae Clwyd yn rhedeg buches laeth ar system debyg ar fferm arall, Plas Mawr.

Maent yn ffermwyr llaeth pedwaredd genhedlaeth, ac, fel y teuluoedd oedd yn ffermio o’u blaen, mae glaswellt yn sail i gynhyrchu llaeth a gyda chyflwyniad diweddar gwndwn llysieuol, maen nhw wedi creu llwyfan pori parhaus hyd yn oed mewn amodau sych.

Yn Ffordd Las, mae’r llwyfan pori yn cael ei stocio ar 4.2 ha/uned da byw, gyda’r fuches yn y borfa o ganol mis Chwefror tan ddechrau mis Tachwedd ond gyda buchod yn cael eu cadw dan do tair wythnos cyn lloia o 20 Awst a’r buchod sy’n bell o loia yn cael eu defnyddio i reoli’r gorchudd.

Ar 0.8ha – 1.6ha, mae mwyafrif y caeau’n fach, sy’n caniatáu egwyl pori o 12 awr heb isrannu mewn llawer ohonynt.

Y nod yw cau'r fferm ym mis Tachwedd ar orchudd o 2100kg SS/ha. Pan fydd glaswellt yn cychwyn tyfu yn y gwanwyn, mae Huw yn targedu gorchuddion o 2700kg i droi’r fuches iddo, gan bori 1600kg (gweddilliol).

Mae'n defnyddio mesurydd plât i gasglu data glaswellt, gan fewnbynnu’r data ar raglen gyfrifiadurol i gyfrifo'r gorchudd cyfartalog a chyfraddau twf yr wythnos honno. Mae'r wybodaeth yn cael ei lwytho i gynllunydd glaswellt er mwyn galluogi iddo bennu cyllideb hirdymor.

“Gallwn weld pa faint o orchudd y byddwn yn ei gael a chynllunio ein gofynion o ran gwrtaith a phorthiant o amgylch hynny,” meddai.

Rhoddodd yr hyder iddo ddefnyddio cynnyrch biolegol sy’n cynnwys casgliad o facteria sefydlogi nitrogen (N) yn lle gwrtaith mewn gronynnau. Mae'n cael ei chwistrellu ar laswellt, gan drawsnewid N atmosfferig ac N o ddeunydd organig yn amoniwm sydd ar gael yn barod ar gyfer y cnwd. 

“Mae wedi lleihau ein bil gwrtaith £20,000 y flwyddyn,” meddai Huw.

Mae'n cael ei wasgaru ddiwedd mis Mawrth a diwedd mis Mehefin ac nid yw wedi arwain at unrhyw wrtaith mewn gronynnau’n cael ei ddefnyddio ar y bloc pori am y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae hefyd wedi lleihau’r defnydd o wrtaith synthetig ar y tir silwair i 50kg/erw o wrea wedi’i ddiogelu a sylffwr bob blwyddyn.

“Y llynedd, fe wnaethom ei ddefnyddio ar y tir silwair ac, er na chawsom y twf yr ydym wedi'i gael o'r blaen, pan gaiff hun ei gydbwyso yn erbyn yr arbedion cost mae'n rhywbeth yr ydym yn bwriadu cadw ato,'' meddai Huw.

“Ond mae angen ei roi gyda slyri, N cychwynnol, a naill ai ychydig cyn iddi fwrw glaw neu pan fydd hi'n bwrw glaw.''

Mae canran uchel o feillion yn y gwndwn hefyd yn allweddol i leihau dibyniaeth ar amoniwm nitrad.

“Trwy beidio â rhoi N, mae'r meillion yn gryfach, mae'r gwreiddiau'n gryfach,'' meddai Huw.

Mae “slurry bugs” wedi cael eu hychwanegu at y lagŵn am y 13 mlynedd diwethaf er mwyn galluogi i fwy o’r maetholion fod ar gael i’r planhigion glaswellt. Mae Huw wedi sylwi hefyd “bod llai o arogl, llai o amser yn cael ei dreulio yn cymysgu, llai o grwst a gwell bioleg y pridd.” 

Mae data a rannwyd gyda Phrosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio yn dangos bod y fferm wedi tyfu 8.34tDM/ha hyd at 23 Hydref 2023. Bu i’r sychder gael effaith ar argaeledd glaswellt yn 2022, gyda chynhyrchiant i lawr i 7.5tDM/ha o’i gymharu â 9.8tDM/ha yn 2021.

Mae gan y fferm gymysgedd o briddoedd bas ysgafn a chlai trymach sy’n caniatáu twf mewn cyfnodau gwlypach a sychach.

Y misoedd sychach hynny y mae’r busnes yn amddiffyn ei hun rhagddynt drwy dyfu 7ha o wndwn llysieuol, wedi’i ysbrydoli gan daith gerdded o amgylch fferm sy’n tyfu gwndwn llysieuol, a drefnwyd gan Cyswllt Ffermio.

Mae Huw yn cofio, “roedd y daith yn ystod cyfnod sych a'r unig gaeau oedd yn wyrdd oedd y caeau gyda’r gwndwn llysieuol.''

Mae gwndwn llysieuol Huw hefyd wedi perfformio'n dda, ond yn 2024 mae'n bwriadu caniatáu i'r gwndwn dyfu'n hirach cyn ei bori. “Credaf ein bod yn colli rhai o'r buddion drwy bori gorchuddion ysgafnach.''

Cynhyrchir silwair ar system pum toriad, gyda chontractwyr yn cynaeafu'r toriad cyntaf yn ystod wythnos gyntaf mis Mai. Y nod yw cynhyrchu silwair o ansawdd uchel, gydag ME ar gyfartaledd yn 11.5 yn 2023 a phrotein crai yn 16.5%.

Mae dau ar bymtheg hectar o wenith hefyd yn cael ei dyfu ar gyfer cnwd cyfan, wedi'i fwydo mewn Dogn Cytbwys Cymysg (TMR) yn y gaeaf gyda silwair glaswellt a chymysgedd dwysfwyd. Nid oes unrhyw ddwysfwydydd yn cael eu bwydo yn y parlwr.

Cafodd y caeau a ddefnyddir i dyfu gwenith y gaeaf eu hailhadu gyda meillion coch a rhygwellt eleni gan drin y tir gin lleied â phosibl. “Mae hyn yn rhywbeth rydym ni'n gobeithio parhau i'w wneud oherwydd gallu'r meillion coch i sefydlogi ei N ei hun,” meddai Huw.

Defnyddir y broses hau’n uniongyrchol i adnewyddu caeau eraill sydd ei angen, gyda HSG3 yn cael ei ddefnyddio ar y llwyfan pori. “Gallaf weld o'r data twf glaswellt pa gaeau sydd ddim yn perfformio cystal, neu a yw chwyn yn ymledu,'' meddai Huw.

Mae'r busnes yn gwerthu ei laeth i Arla, gyda'r cynnyrch blynyddol ar gyfartaledd yn 7,500 litr ar 4.1% o fraster menyn a 3.4% o brotein. Mae’n godro mewn parlwr Westfalia 20/40.

Mae'r fuches yn lloia mewn bloc o 13 wythnos. Defnyddir semen y mae ei ryw wedi’i bennu i gynhyrchu anifeiliaid cyfnewid ac mae gweddill y fuches yn cael ei ffrwythloni i Aberdeen Angus.

Oherwydd cyfyngiadau ar le, mae rhai heffrod cyfnewid yn cael eu magu ar gontract oddi ar y fferm o pan fyddant yn dair wythnos oed, gan ddychwelyd i Ffordd Las tua mis cyn iddynt loia yn 24 mis oed.

Wrth symud ymlaen, mae Huw yn dweud y bydd hyd yn oed mwy o bwysau ar ffermwyr i gynhyrchu mwy o lai.

Mae bod yn rhan o Brosiect Porfa Cymru wedi bod yn fuddiol iawn wrth gyrraedd y nod hwnnw, mae’n credu. “Trwy rannu data, gallaf weld yr hyn y mae eraill yn ei dyfu a gallaf rannu a defnyddio syniadau ffermwyr eraill o'r un anian.''


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Rheoli glaswellt yn galluogi fferm dda byw i gynyddu cynhyrchiant glaswellt i 13t/ha DM
Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o