Mae ffermwr bîff a defaid o Gymru yn gallu cario nifer tebyg o dda byw i’r pen yr oedd yn ei ffermio cyn torri 41 y cant ar dir oherwydd bod rheolaeth well ar laswelltir yn golygu y gall dyfu 13t/ha o ddeunydd sych o laswellt y flwyddyn.

James Williams yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i ffermio Fferm Cefn Draw, Y Crwys, Abertawe. Roedd y fferm yn 69 ha, ond pan ymddeolodd tad James, gwerthwyd 28 ha. Gydag ond 41 ha o dir yn parhau yn ei feddiant, bu’n rhaid i James ailfeddwl am ei system.

Roedd cychwyn ar gwrs Meistr ar Borfa Cyswllt Ffermio yn 2019 yn drobwynt, gan feithrin yr hyder a’r wybodaeth i werthfawrogi y gallai glaswellt fod â’r allwedd i gynnal niferoedd da byw ar gyfraddau hanesyddol.

“Mae’r fferm wedi cael ei thrawsnewid yn y pedair blynedd ers i mi gychwyn ar y daith hon. Pan ddechreuais i fesur, yng nghanol tyfiant y gwanwyn, fe fyddwn yn cofnodi 90kg/ha DM o dyfiant y dydd, yn 2023 roedd yn 155kg/ha.’’

Y gwahaniaeth allweddol yw rheoli glaswelltir. Mae’r caeau wedi cael eu rhannu’n badogau ac mae James wedi buddsoddi mewn ffensys ac isadeiledd dŵr a llwybr o’u cwmpas i wneud symud anifeiliaid rhwng padogau yn waith mor syml a di-straen â phosibl y gall un unigolyn ei wneud.

“Pan fyddwch chi’n symud yn ddyddiol, rydych chi’n gallu gweld faint mae’r glaswellt wedi tyfu mewn diwrnod. Mae’n gyffrous iawn i’w weld,” meddai James.

Mae'n mesur twf yn wythnosol, gan ddefnyddio'r rhaglen feddalwedd, Agrinet, i gyfrifo gorchudd y fferm a nifer y diwrnodau pori ym mhob padog.

Rhennir y ffigurau hyn â ffermwyr eraill trwy Brosiect Porfa Cymru Cyswllt Ffermio, gan ganiatáu i dyfwyr â thir, hinsawdd a systemau tebyg feincnodi eu cynhyrchiant eu hunain.

“Rwy'n hoff iawn o gofnodi ar Agrinet oherwydd gallaf gymharu'r ffigyrau bob blwyddyn ac mae mesur wythnosol yn rhoi'r cymhelliant i mi edrych ar y fferm,'' meddai James.

Mae’n targedu gorchuddion glaswellt uchel yn y gwanwyn – cymaint â 4,000kgDM/ha. “Pan fydd y ddeilen isaf ar y gwaelod wedi marw mae'n arwydd bod y planhigyn wedi tyfu'n llawn,'' meddai.

Mae system o bori nad yw’n ddewisol ar ddwysedd uwch yn caniatáu llawer o ddefnydd. “Mae'n golygu bod pob planhigyn yn cael ei ddefnyddio, nid yw anifeiliaid yn dewis y rhywogaethau gorau, maen nhw'n cymryd popeth, mae'n rhoi cyfle cyfartal i bopeth,” eglura James.

“Fy un peth i’w osgoi yw gorbori oherwydd mae cymryd yr ail damed hwnnw cyn i’r planhigyn adfer yn mynd ag egni o’r maeth sydd ar ôl yn y gwreiddyn.”

Mae gwndwn yn gymysgedd o rygwellt a meillion a chymysgeddau GS4.

Yr unig faetholyn y mae'n ei roi yw tail buarth, wedi'i gompostio trwy gynnwys sglodion pren. Nid yw wedi defnyddio gwrtaith synthetig ers blynyddoedd lawer.

“Rwy'n meddwl bod y system y tu hwnt i organig ond oherwydd fy mod yn rhentu 40 erw o dir pori yn yr haf nad yw'n dir organig, nid wyf wedi ardystio'n organig,” eglura James.

Fodd bynnag, mae'n aelod o Pasture-Fed Livestock Association (PFLA) ac mae'n ystyried ardystiad Pasture for Life fel ffordd o farchnata ei gig i ychwanegu gwerth at y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae gwartheg stôr o’r fuches bîff ac ŵyn tew o’r ddiadell defaid yn cael eu gwerthu trwy farchnadoedd da byw ond mae James yn credu y gallai gael pris uwch drwy werthiant uniongyrchol.

Mae ei system bîff yn y broses o newid, gan drosglwyddo o wartheg sugno Limousin croes i Aberdeen Angus-croes. Cafodd pob un o'r 20 o wartheg a heffrod cyfnewid darw Aberdeen Angus eleni.

“Rwyf eisiau anifail sy’n gallu perfformio ar laswellt, nid un sydd angen dwysfwyd ychwanegol. Os ydych am redeg system glaswellt-yn-unig ar gost isel mae'n un o'r pethau sy'n gorfod newid,'' meddai James.

“Rwy’n anelu at gael anifail sy’n gallu pesgi oddi ar laswellt a bwyta llawer o borthiant o ansawdd is a pharhau i gynnal cyflwr y corff. Rwy'n edrych am faint y gall ei fwyta, nid effeithlonrwydd trosi porthiant, gan fod effeithlonrwydd trosi yn tueddu i fod yn ddewis ar gyfer anifeiliaid sy'n aeddfedu'n ddiweddarach ac â chyflwr corff da. ''

Mae gwartheg ar laswellt o ddiwedd mis Mawrth tan ddiwedd mis Rhagfyr ac mae’r ddiadell yn ŵyna yn yr awyr agored dros dair wythnos ym mis Mawrth.

Er mwyn rheoli beichiau parasitiaid, mae gwartheg yn pori bob yn ail â defaid - mae gan James 70 o famogiaid Texel x Lleyn x Wyneb Glas Caerlŷr ond mae'n bwriadu newid i eneteg Easycare.

Ei brif nod yw dileu'r defnydd o anthelmintigau - nid yw bellach yn dosio gwartheg na mamogiaid, dim ond stoc ifanc pan fydd ei angen arnynt, gan anelu at gynhyrchu “anifeiliaid sydd ag ymwrthedd parasitiaid, nid parasitiaid sydd ag ymwrthedd anthelmintig.''

“Nid wyf yn cytuno â chynnal anifeiliaid, rydw i eisiau system lle mae'n rhaid i anifeiliaid wneud y gwaith,'' meddai James.

“Rwyf wedi symud fy ffocws o fod yn adweithiol cyn belled ag y mae llyngyr yn y cwestiwn trwy roi popeth i mewn i reoli porfa a geneteg.

“Nid wyf yn gweld hyn fel taith hawdd ond mae'n ymarferol, nid wyf eisiau dibynnu ar gemegau.''

Bu i’r cwrs Meistr ar Borfa yn 2019 hefyd wedi gwneud i James feddwl am iechyd y pridd - mae’n defnyddio Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio i sefydlu’r gwerthoedd maethol yn ei briddoedd.

Mae'n mabwysiadu dull amaethyddol organig sy'n manteisio ar ficro-organebau brodorol fel ffyngau a bacteria i gynhyrchu pridd cyfoethog. “Rwyf ond eisiau gwneud pethau positif ar gyfer y tir ac mae hynny'n cynnwys cael pridd sy'n llawn ffyngau.''

Gan fyfyrio ar y pedair blynedd diwethaf, mae'n ei ddisgrifio fel un “trawsnewidiol”.

“Doeddwn i ddim yn sylweddoli pwysigrwydd rheoli glaswellt, rwy'n gweld rheolaeth uwchlaw popeth arall fel y pwysicaf oll,'' mae'n cyfaddef.

Gan edrych ymlaen at 2024, bydd yn adeiladu ar yr hyn y mae eisoes wedi'i gyflawni. “Mae'n ymwneud â defnydd uchel, pori nad yw'n ddewisol a geneteg.''
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr yn annog ymgeiswyr Academi Amaeth i roi cynnig arall arni er gwaethaf ceisiadau aflwyddiannus yn y gorffennol
26 Mawrth 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Mesur yn helpu fferm ddefaid yng Nghymru i reoli prinder glaswellt yn yr haf
Mae mesur a chyfrifo’r glaswellt sydd ar gael yn helpu fferm
Mae mesur glaswellt a phennu cyllideb wedi rhoi’r hyder i ffermwr llaeth o Gymru newid ei bolisi gwrtaith, gan leihau costau mewnbwn £20,000 y flwyddyn.
Mae Huw Williams yn godro 250 o Holstein Friesians sy’n lloea yn