William Hannah
Mountjoy, Trefgarn, Sir Benfro,
Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?
Defnyddio technoleg loeren i fesur y borfa: "Gallai'r dechnoleg yma helpu i’w gwneud yn haws rheoli tir glas yn fanwl gywir, a byddai'n sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud!''
Profion genomig ar heffrod cyfnewid: "Gallai profion genomig ein helpu i ddewis y creaduriaid gorau i’r fuches i ateb gofynion ein system. Rydym ni’n teimlo bod enillion pendant i’w cael yn hyn o beth, drwy ddileu geneteg wael fel mai dim ond yr anifeiliaid gorau sy’n cael eu cadw yn y fuches.''
Ymchwilio i fanteision porfeydd llysieuol mewn system laeth. "Rydym ni’n awyddus i leihau ein dibyniaeth ar nitrogen artiffisial tra'n dal i dyfu yr un faint o laswellt.''
Ffeithiau Fferm Mountjoy
"Rydym yn ceisio ffermio mewn ffordd sy'n cyd-fynd â’n hamgylchedd ni, drwy fanteisio ar y cryfderau sydd gan Sir Benfro i'w gynnig - lloia tu allan a gwneud y gorau o'r borfa - ond mae yna le i wella bob amser. Bydd yn dda cael ymateb pobl eraill yn rhinwedd ein swydd fel Safle Arddangos Cyswllt Ffermio a rhannu syniadau a gwybodaeth. Mae yna rywbeth y gall pawb ei ddysgu bob amser.’’
- William Hannah