Ffeithiau Fferm Mountjoy

Mae Mountjoy yn fferm tir glas 186-hectar (ha) sydd â buches o 360 o wartheg godro Friesian Seland Newydd a 200 o loeau.

Mae’r daliad yn cael ei ffermio gan ffermwr ail genhedlaeth, William Hannah, ei wraig, Heather, a'i rieni, Tom a Mary. Mae brawd Heather, Mike Stott, yn gweithio yn y busnes mewn swydd amser llawn ac mae godrowyr achlysurol yn cael eu cyflogi hefyd.

Prynodd y teulu Mountjoy ym 1985 ac ymunodd William â’i rieni ar y fferm yn 2008.

Mae’r fuches yn cael ei chadw dan do am 8-10 wythnos ac mae’n lloia mewn bloc 12 wythnos o 20 Mawrth ymlaen. Yn 2019 llwyddodd 80% i fwrw llo yn ystod y pum wythnos gyntaf.

Mae’r buchod i gyd yn lloia ar laswellt ar seibiau pori 24 awr.

Mae’r buchod yn cael eu godro mewn parlwr dwbl 30/30.

Y cynnyrch llaeth blynyddol ar gyfartaledd yw 6,000 litr y fuwch gyda 4.4% o fraster menyn a 3.7% o brotein, ac mae 3,700 litr yn cael ei gynhyrchu o borthiant.

Defnyddir 1.2 tunnell o ddwysfwyd y fuwch y flwyddyn.

Mae’r lloi ar y glaswellt o dair wythnos oed, ac mae llaeth yn cael ei ddarparu drwy ddefnyddio cyfarpar ar olwynion.

Gwneir tri thoriad o silwair – mae’r trydydd toriad yn gnwd llai i ddarparu porthiant ar gyfer y stoc ifanc.

Mae 7-8% o’r fferm yn cael ei ail-hadu bob blwyddyn â dril, gan hau amrywogaethau hirdymor Aber a meillion.

Aelod o Grŵp Trafod ‘Grazing Dragons’

 

Amcanion

Rhedeg busnes proffidiol a phleserus sy'n gynaliadwy yn y tymor hir

Ffermio mewn ffordd sy’n cadw'r deunydd organig yn y pridd