6 Awst 2020

 

Gallai ffermwyr glaswelltir leihau’r nitrogen y maent yn ei roi ar y tir a chadw eu proffidioldeb trwy welliannau syml i’r modd y maent yn rheoli pridd a maetholion.

Mae’r arbenigwr glaswelltir a phridd annibynnol Chris Duller wedi bod yn gweithio gyda’r ffermwr arddangos Cyswllt Ffermio, William Hannah i archwilio dewisiadau ar gyfer lleihau faint o wrtaith N a ddefnyddir ar fferm Mountjoy ger Hwlffordd - mae’r N a chwelir yn ychwanegu dwy geiniog y litr at gost cynhyrchu ar y fferm odro 500 erw hon sy’n lloea yn y gwanwyn.

Gan fod y fferm yn agos at ran orllewinol y Cleddau, byddai torri i lawr ar y nitrogen a chwelir yn gostwng y gwariant blynyddol o £40,000 ond hefyd yn cynnig manteision amgylcheddol.

Yn ystod darllediad digidol byw o Mountjoy, dywedodd Mr Duller bod cost carbon gweithgynhyrchu gwrtaith nitrogen yn 3.5kg cyfatebol i CO2 i bob kgN; mae hyn yn cyfateb i 43 tunnell o CO2 y flwyddyn ar Mountjoy, mae hyn yn cymharu â’r allyriadau a grëir gan 18 hediad o’r Deyrnas Unedig i Florida ac yn ôl yn flynyddol.

Ar hyn o bryd chwelir 300kg/ha/y flwyddyn o N ar y llwyfan bori gyda chyfartaledd fferm gyfan o 270kg – y targed yw lleihau ffigwr y fferm gyfan i 150kg.

Esboniodd Mr Duller, mewn glaswelltir sy’n cael ei reoli yn dda mae pob kilogram o N a chwelir yn nodweddiadol yn cynhyrchu tua 30kg/DM/ha o laswellt – ymateb o 30:1.

Ond yn aml mae effeithlonrwydd nitrogen yn lleihau pan fydd mwy a mwy ohono yn cael ei chwalu – gall y gyfradd ymateb o ran tyfiant glaswellt o’r 100kg cyntaf fod mor uchel â 50:1 ond gall haneru gyda’r 100kg nesaf a chwelir. 

Dywedodd Mr Duller, mae’r budd o’r 100kg nesaf yn aml yn fychan iawn. “Bydd yn troi’r glaswellt yn wyrdd a dyna’r cwbl.”

Ar ddechrau’r prosiect ym Mountjoy, roedd N yn cael ei chwalu ar y gyfradd lawn (30kgN/ha), hanner y gyfradd (15kgN/ha) a dim nitrogen ar wahanol rannau o’r cae pori ar ôl i’r gwartheg ei bori ym Mehefin a Gorffennaf. 

Ar yr ardal oedd yn cael y gyfradd nitrogen lawn, cofnodwyd cyfraddau tyfu o 79kgDM/ha/y dydd. 

Ar yr ardal hanner y gyfradd, dim ond ychydig yn llai oedd tyfiant y glaswellt (70kgDM/ha/dydd) ond ar y tir lle nad oedd unrhyw N wedi ei chwalu roedd y tyfiant i lawr i 52kgDM/ha/y dydd.

“Dangosodd yr astudiaeth dreialu gynnar hon bod potensial i dorri yn ôl ar y nitrogen yn yr haf heb golli llawer o laswellt, er nad yw’r cyflenwad o nitrogen pridd naturiol yn y cae dan sylw yn ddigonol ar hyn o bryd i gynnal tyfiant y glaswellt ar ei ben ei hun,” meddai Mr Duller.

“Yn awr mae angen i ni ymestyn y treial ar draws caeau pori eraill.’’

Ond mae llawer o resymau tu hwnt i chwalu N sy’n dylanwadu ar y cynnyrch glaswellt a bydd y rhain yn cael eu hystyried ar Mountjoy.

Dywedodd Mr Duller y gall camau yn amrywio o ymdrin â chywasgu pridd a chynnal y lefelau potash a ffosffad i chwalu slyri ar yr amser cywir gyda’r dull chwalu cywir a chynyddu’r cynnwys meillion yn y gwndwn oll arwain at fod angen llai o N i gael yr un ymateb yn y glaswellt.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio