13 Tachwedd 2025
Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith i unigolion ifanc sy'n chwilio am brofiad gwaith â thâl ar ffermydd masnachol Cymru am gyfnodau hyd at 12 wythnos. Mae hwn yn gyfle cyffrous sydd ar agor i unrhyw un, gan nad yw cefndir mewn ffermio yn hanfodol i wneud cais. Bydd yn darparu cymorth a phrofiad ar lefel mynediad ymarferol yn y diwydiant ffermio trwy leoliadau gwaith ar draws ystod o systemau ffermio sy’n perfformio’n dda gan gynnwys bîff, defaid, llaeth a dofednod.
Mae'r cyfnod ymgeisio yn agor ddydd Llun 17 Tachwedd 2025 ac yn cau ddydd Llun 8 Rhagfyr 2025, peidiwch â cholli allan!
Mae Fferm Glwydcaenewydd yn cynnig cyfle ar fferm bîff a defaid organig 300 erw yn ardal Aberhonddu gyda llety ar gael ar sail trafodaeth. Mae'n gyfle cyffrous i newydd-ddyfodiad ennill sgiliau a gwybodaeth a meithrin profiad trwy weithio ar fferm sy'n amrywiol iawn o dwristiaeth, da byw, newid drosodd mewn tai gwyliau, gwrychoedd a ffensio.
Byddai hyn yn addas i unigolyn uchelgeisiol sydd eisiau cael rhywfaint o brofiad gwerthfawr o dda byw ac arallgyfeirio a dysgu tra’n gwneud y gwaith ar Fferm Glwydcaenewydd.
Mae lleoliad hefyd ar gael ar Fferm Derwydd yn Llanfihangel Glyn Myfyr, Corwen. Mae'r fferm yn gweithredu uned ddofednod organig maes cynaliadwy gyda 9,000 o ieir (mewn 3 uned symudol) gyda systemau ynni adnewyddadwy awtomatig. Maent hefyd yn canolbwyntio ar safonau lles uchel. Mae'r fferm ehangach hefyd yn rheoli 800 o ddefaid, 150 o loeau bîff, a 41,000 o ieir maes eraill.
Mae Fferm Derwydd yn chwilio am unigolyn dibynadwy ar gyfer rôl sy'n canolbwyntio ar ofalu am yr ieir dodwy, eu hiechyd a’u lles yn ddyddiol, gan gynnwys casglu wyau, eu graddio a’u pacio. Bydd y lleoliad yn cychwyn ym mis Chwefror 2026.
Mae Mathafarn, Llanwrin, Machynlleth hefyd yn cynnig cyfle i gael lleoliad ar fferm laeth, sy'n seiliedig ar laswellt ac adfywiol o fis Mawrth 2026 ymlaen. Mae hwn yn gyfle cyffrous i newydd-ddyfodiad ennill sgiliau a gwybodaeth a meithrin profiad trwy weithio ar fferm laeth yn ystod y tymor lloia prysur. Byddai hyn yn addas i unigolyn uchelgeisiol sydd eisiau cael rhywfaint o brofiad gwerthfawr o’r sector llaeth a dysgu tra’n gwneud y gwaith. Mae llety hefyd ar gael.
Mae Sam Carey, Rheolwr Fferm ar fferm Mathafarn yn frwd dros systemau ffermio sy'n seiliedig ar laswellt ac mae ganddo frwdfrydedd dros 'wneud pethau'n wahanol'. Mae Sam yn tyfu busnes ffermio llaeth sy'n canolbwyntio ar drosi glaswellt i laeth yn gynaliadwy.
Hefyd, mae Fferm Pentrefelin, Llanbedr Pont Steffan yn cynnig lleoliad i'r unigolyn cywir ar eu fferm laeth sy'n cynnwys llety gan ddechrau ym mis Chwefror 2026. Mae Eurig Jenkins a'i deulu yn chwilio am ymgeisydd sydd â diddordeb brwd yn y sector llaeth sy'n barod i ddysgu, yn cymryd y cam cyntaf, ac yn gallu integreiddio'n barchus i'w tîm presennol. Mae ymrwymiad i safonau gwaith uchel a chadw at brotocolau iechyd a diogelwch yn orfodol bob amser.
Mae lleoliad gwaith ar Fferm Pentrefelin yn cynnig cyfle dysgu ymarferol o fewn busnes llaeth o safon uchel sy’n lloia yn y gwanwyn. Bydd hyfforddiant cynhwysfawr yn cael ei gynnig gan weithio ochr yn ochr â staff profiadol yn ystod y cyfnod lloia hollbwysig yn darparu amgylchedd dysgu cefnogol.
Mae Fferm Woodcroft yn Wrecsam hefyd yn chwilio am unigolyn i'w leoli ar eu fferm bîff. Bydd y lleoliad hwn yn rhoi cyfle i rywun ennill profiad ymarferol mewn gofal anifeiliaid a gwaith awyr agored ac ymuno â'r tîm i helpu i ofalu am anifeiliaid amrywiol a chefnogi gweithrediadau fferm llyfn. Mae'r lleoliad gwaith yn gyfle gwych i feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd, a chael cipolwg go iawn ar fywyd gwaith mewn lleoliad amaethyddol. Nid oes angen unrhyw brofiad ffermio blaenorol, dim ond brwdfrydedd, parodrwydd i ddysgu, a chariad at yr awyr agored. Ni fydd unrhyw lety yn cael ei ddarparu ar gyfer y lleoliad gwaith hwn.
Mae Cheryl yn Fferm Woodcroft yn angerddol am y diwydiant amaethyddol ac addysg. Gyda phrofiad mewn rhagoriaeth weithredol, cynllunio busnes, ac iechyd a diogelwch, mae hi’n awyddus i rannu ei gwybodaeth gynhwysfawr i helpu gweithwyr newydd i yrru eu gyrfaoedd ymlaen yn llwyddiannus.
Peidiwch â cholli'r cyfle i fwynhau'r lleoliadau gwaith gwych hyn sydd ar gael ledled Cymru! Nid yw cefndir mewn amaethyddiaeth yn angenrheidiol; mae'r rhaglen ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn. Mae Mentoriaid Amaeth Cyswllt Ffermio wedi agor giât y fferm i rannu eu gwybodaeth, eu profiad a'u barn ddiduedd i'ch helpu i nodi eich nodau a chyflawni eich potensial.
Am ragor o wybodaeth ac i gael y disgrifiad swydd llawn, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â mali.iolo@mentera.cymru. Mae'r holl wybodaeth ar gael yma.