24 Tachwedd 2025

Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn cael ei lunio gan Academi Amaeth Cyswllt Ffermio wedi dod ynghyd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru heddiw (24 Tachwedd) ar gyfer diweddglo rhaglen 2025, pan ddatgelwyd enillwyr cystadlaethau a gynlluniwyd i brofi eu craffter busnes.

Yn gynharach yr hydref hwn, cafodd aelodau’r Academi Amaeth y dasg o lunio syniadau ar gyfer gwelliannau a allai wneud busnes go iawn yn fwy gwydn tra bod carfan Academi yr Ifanc yn mynd i’r afael â’r heriau a gyflwynwyd gan yr argyfyngau natur a hinsawdd.

Cystadlodd grwpiau am bedair gwobr - Her Academi Amaeth, Gwobr Dewis yr Aelodau yr Academi Amaeth, Her Academi yr Ifanc a Gwobr Dewis yr Aelodau, Academi yr Ifanc.

Yr enillwyr yn y seremoni wobrwyo yn Llanelwedd oedd Sophie Hughes (Her Academi Amaeth 2025), Huw Thomas (Gwobr Dewis yr Aelodau, Academi Amaeth 2025), ac Ellis Morgan (Her Academi yr Ifanc 2025 a Gwobr Dewis yr Aelodau, Academi yr Ifanc 2025).

Lluniodd 11 aelod o’r Academi Amaeth gynlluniau gweithredu ar gyfer fferm laeth arfordirol yng Ngheredigion ar gyfer Her yr Academi Amaeth. Cafodd eu ceisiadau eu barnu gan Euryn Jones, Cadeirydd Bwrdd Cyswllt Ffermio, a Chyfarwyddwr yr Academi Amaeth, Anna Bowen.

Dywed Euryn fod syniadau a chyflwyniad Sophie yn sefyll allan am sawl rheswm.

“Dangosodd Sophie ddealltwriaeth dda iawn o system bresennol y fferm a meincnododd ei pherfformiad yn broffesiynol iawn yn erbyn safonau’r diwydiant a gwybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi.’’

Roedd Sophie, sy'n ymwneud â fferm laeth a defaid ei theulu ger Wrecsam, wedi deall uchelgeisiau'r ffermwr yn llawn, ychwanega, a gosododd nodau realistig iawn a wnaeth y defnydd gorau o adnoddau dynol a ffisegol y fferm.

“Ystyriodd y goblygiadau ariannol yn llawn a lluniodd gyllidebau gyda dealltwriaeth o’r diwydiant ehangach wrth fanteisio ar leoliad arfordirol y fferm,’’ meddai Euryn.

Ar gyfer Academi yr Ifanc, paratôdd y 12 aelod gyflwyniadau yn egluro sut y byddent yn mynd i'r afael â heriau yn ymwneud ag argyfyngau natur a hinsawdd yn y 10-15 mlynedd nesaf wrth gynnal y broses o gynhyrchu bwyd ar eu fferm eu hunain neu ar y fferm lle maent yn cael eu cyflogi.

Y beirniaid ar gyfer Her Academi yr Ifanc oedd Rhys Evans, Rheolwr Cymru gyda Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur (NFFN), a Dr Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon gyda Cyswllt Ffermio.

Er bod y mater o blannu coed wedi bod yn bwnc trafod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan achosi rhaniad rhwng ffermwyr a llunwyr polisi, dangosodd cynnig Ellis sut y gall integreiddio coed i system ffermio wella cynhyrchiant a chreu ffrydiau incwm newydd.

Mae ei deulu’n cynhyrchu sudd o goed afalau ar eu fferm bîff a defaid yn Nhal-y-bont ar Wysg, ym Mhowys, a dangosodd y syniadau a gyflwynodd i’r beirniaid werth y fenter arallgyfeirio honno.

Dywed Rhys fod Ellis wedi dangos nad oes rhaid dewis rhwng plannu coed neu gynhyrchu bwyd.

“Pe bai mwy o bobl yn deall y naws honno ac yn gwrando ar yr hyn sydd gan Ellis i’w ddweud, byddai’r drafodaeth am goed yn llawer iachach.

“Dangosodd ei bod hi’n bosibl gwneud elw o goed wrth gloi carbon a darparu’r manteision hynny o ran lles anifeiliaid megis cysgod a lloches hefyd.”

Er mai cyflwyniad Ellis oedd ar y blaen, dywed Rhys fod pob un yn rhagorol. “ Roedden nhw i gyd yn wych, ac yn sicr yn dangos mwy o wybodaeth am y materion nag yr oeddwn i o bosibl yn eu hoedran nhw.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer
Rheoli clefydau mewn gwartheg - Pam mai brechu yw’r sicrwydd gorau ar gyfer eich buches
04 Tachwedd 2025 Bydd y gweithdy hyfforddiant Iechyd a Lles