14 Tachwedd 2025
Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml-rywogaeth ar ôl pori yn sylweddol fwy effeithiol na hau ar wasgar ar orchudd uwch, yn ôl astudiaeth sy'n dangos ei fod bron yn dyblu'r gyfradd sefydlu.
Defnyddiodd y ffermwr da byw Wil Evans daenwr trydanol wedi'i osod ar feic cwad i daenu hadau glaswellt, codlysiau a pherlysiau ar borfeydd parhaol ar fferm bîff a defaid ei deulu ym Mhowys.
Roedd wedi cael cyllid gan Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio i dreialu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer hau ar wasgar ar borfeydd presennol, i ganfod pa rai fyddai'n cynhyrchu'r canlyniadau gorau.
Nod Wil yw lleihau faint mae’r tir yn cael ei dir yn Hendreseifion, sef fferm 130 hectar ger Machynlleth.
Cafodd cymysgeddau hadau llawn rhywogaethau eu hau ar wasgar ar orchuddion glaswellt ar ddwysedd o naill ai 1900-2500 kg DM/ha cyn pori neu 1200-1400 kg DM/ha ar ôl pori ddiwedd mis Mehefin 2025.
Ar ôl hau ar wasgar, cafodd gwartheg eu troi allan i'r borfa i gynorthwyo cyswllt rhwng yr hadau a’r pridd.
Ar 3 Medi 2025, sef 14 wythnos ar ôl i'r hadau gael ei hau, dangosodd arolwg o'r cae ar ôl iddo gael ei bori gyfradd sefydlu o 46% o’i gymharu â dim ond 28% yn y gwndwn a borwyd yn flaenorol.
Mae'r ymgynghorydd amaethyddol annibynnol James Holloway, a gynghorodd Wil ar statws ffrwythlondeb y pridd cyn hadu, yn dweud bod y canlyniad hwn yn adlewyrchu'r gwell cyswllt rhwng yr hadau a’r pridd a llai o gystadlu o ran y brigdwf mewn gorchuddion llai dwys.
Mae pori yn tynnu swmp ac yn agor y borfa, gan greu amodau ffafriol ar gyfer hadau a gânt eu hau ar wyneb y pridd.
Mae newid y drefn hon yn cynyddu'r risg y bydd hadau yn cael eu dal mewn deiliach neu y cânt eu claddu'n anwastad, ac mae hynny'n lleihau egino a sefydlu, ychwanega James.
Mae'r system ôl-bori yn cyd-fynd â'r arferion gorau – sef pori’n dynn neu dorri, ac yna llyfnu’n ysgafn i ddatgelu pridd moel a chael gwared â gwellt trwchus.
Datgelodd yr arbrawf hefyd fod rhai rhywogaethau yn sefydlu'n sylweddol well nag eraill - rhygwellt lluosflwydd, meillion gwyn a choch, llyriad ac ysgellog oedd y mwyaf toreithiog.
Mae'r rhywogaethau hyn yn fwy addas ar gyfer systemau aflonyddiad isel, gan gynnig egino cyflym, datblygiad gwreiddiau cystadleuol, a gwytnwch dan bori, meddai James.
"Mae eu llwyddiant yn cefnogi dewis rhywogaethau wedi'u targedu’n fwy ar gyfer hau ar wyneb y pridd yn y dyfodol."
Mewn cyferbyniad, gwnaeth milddail, bwrned, pysen-y-ceirw a pherlysiau eraill sefydlu’n llai cyson.
Mae gan y rhain fwy o sensitifrwydd i gystadleuaeth, sy’n eu gwneud yn llai dibynadwy os ydynt yn cael eu hau ar wasgar yn hytrach na chael eu hymgorffori yn y pridd, cynghora James.
Roedd rhai o'r hadau a ddefnyddiwyd wedi'u gorchuddio â thriniaeth fiolegol sydd eto i'w lansio yn fasnachol. Fodd bynnag, mae’r cwmni sy'n ei ddatblygu, Fielder Nutrition, wedi dangos ei fod yn darparu egni a gwytnwch cynnar o dan amodau cyfnewidiol, gan ganiatáu ymddangosiad mwy unffurf.
Er bod prosiect Cyswllt Ffermio yn dangos na chynigiodd y driniaeth fawr o fudd, dywed Wil y gallai amseriad rhoi’r driniaeth ar yr hadau fod wedi dylanwadu ar hynny.
Yr argymhelliad yw i'r hadau gael eu hau ar wasgar o fewn 72 awr ar ôl y driniaeth, ond oherwydd amodau pridd sych iawn ac amharodrwydd Wil i’w hau ar wasgar nes i'r sefyllfa wella, collwyd y slot amser ac eithrio mewn un cae. Yn y cae hwnnw, roedd yr eginblanhigion yn ymddangos tridiau yn gynharach o’i gymharu â phorfeydd lle cafodd hadau heb eu trin eu hau ar wasgar, a gwnaeth hau ar orchuddion a oedd wedi’u pori arwain at gynnydd o 76% mewn rhywogaethau a sefydlwyd yn llwyddiannus o gymharu â hadau a oedd heb eu trin.
Dywed James y gellir cyflawni mwy o effeithiolrwydd hefyd o'r driniaeth heb gemegau wrth ddrilio neu drin y tir ymlaen llaw, sef opsiynau lle mae dulliau gosod yr hadau a’r cysylltiad â'r pridd yn fwy cyson.
Ar ôl hau ar wasgar, roedd gwartheg yn troedio'r hadau i'r pridd, gan ddynwared effaith rholio dwbl a chefnogi sefydlu.
Er bod hyn yn gost-effeithiol, mae angen rheolaeth fwriadol, rhybuddia James, gan gynnwys amseru.
Dylai troedio gael ei wneud cyn pen 24 awr ar ôl hau ac ar ddwysedd stocio cymedrol – sef yn ddigon isel i atal cywasgu, ond yn ddigon uchel i roi digon o gyswllt rhwng yr hadau a’r pridd.
Mae cynnwys lleithder y pridd yn bwysig hefyd – dylai fod yn llaith, ond nid yn orlawn o ddŵr.
Er mwyn gwneud y gorau o amseru, defnyddiodd yr arbrawf synwyryddion LoRaWAN a ddarparodd ddata amser real ar leithder a thymheredd y pridd ar wahanol ddyfnderau, yn ogystal â thymheredd yr aer, a hynny cyn, yn ystod ac ar ôl hau.
Dywed swyddog sector cig coch Cyswllt Ffermio ar gyfer canolbarth Cymru, Owain Pugh, a fu’n goruchwylio’r arbrawf, fod y data hwn yn amhrisiadwy.
"Helpodd i greu cydberthynas rhwng ffactorau amgylcheddol ag egino’r hadau a sefydlu llwyddiannus," meddai.
Cyngor ymarferol i ffermwyr eraill
Dylid rheoli chwyn llydanddail fel tafol, ysgall, a danadl cyn tros-hau gan nad oes llawer o opsiynau ar gael o ran chwynladdwyr ar ôl hau oherwydd amrywiaeth y planhigion mewn cymysgeddau aml-rywogaeth.
Dylid sicrhau bod priddoedd yn y cyflwr gorau posibl, trwy samplu i wirio eu statws pH, P a K.
Mae James yn cynghori targedu pH o 6.5, mynegai P o 2 a mynegai K o 2-. "Aseswch strwythur y pridd a chymryd camau adfer lle bo angen cyn tros-hau."
Paratowch y gwely hadau trwy ei bori’n dynn neu ei dorri ac yna ei lyfnu’n ysgafn, a rhowch wrtaith gwelyau hadau a chalch, os oes angen, yn unol ag argymhellion RB209.
Defnyddiwch gymysgedd llysieuol arbenigol sy'n cynnwys rhywogaethau y profwyd eu bod yn perfformio wrth hau ar wyneb y pridd.
Dylid hau ar wasgar yn gyfartal ar draws wyneb y pridd, ac yna dylid cydgrynhoi hynny, naill ai trwy rolio dwbl neu droedio dan reolaeth.
"Os ydych chi’n defnyddio troedio, dylech drin hynny fel ymyrraeth fwriadol, nid pori damweiniol," mae James yn argymell.
Dylid gadael i’r gwndwn orffwys am bedair i chwe wythnos ac yna ei bori'n ysgafn gan ddefnyddio pori cylchdro i annog gwreiddiau a chadeirio.
PANEL
Gall tros-hau gostio rhwng £200 a £400/ha, gan ddibynnu ar y cymysgedd hadau a ddefnyddir a'r gofynion o ran gwrtaith, calch a llafur.
Yn Hendreseifion, rhagwelir y bydd y caeau wedi'u tros-hau’n cynhyrchu 8.6t/ha o borthiant ar gyfartaledd, gyda'r porthiant hwnnw'n werth £1,179/ha, yn ôl Cyfrifiannell Gwerth Porthiant AHDB.
Pan fydd y gost sefydlu yn cael ei hystyried yn erbyn yr enillion hynny, mae'n dangos enillion ar fuddsoddiad o 653.67% ar ôl pedair blynedd, o gymharu â 416.81% ar gyfer ail-hadu llawn.
I Wil, er bod y gost yn ystyriaeth bwysig, mae effaith dulliau sefydlu eraill yn rheswm pam mae’n bwriadu dewis tros-hau yn fwy cyffredinol yn y dyfodol.
Cafodd y ffermwr pedwaredd genhedlaeth, sy'n ffermio gyda'i wraig, Nia, ei ysbrydoli i ailystyried ei ymagwedd ar ôl cychwyn ar raglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio, gan fuddsoddi mewn isadeiledd pori a newid o gynhyrchu gwartheg sugno bîff i fagu heffrod llaeth ar gontract.
Mae'n credu'n gryf fod yn rhaid i'r dull y mae fferm yn ei ddewis i wella glaswelltir gyd-fynd â'i sefyllfa unigol ei hun – sef y system ffermio, y tir a ffactorau eraill.
"Pe bawn i'n godro gwartheg, efallai y byddwn i'n ystyried ail-hadu’n llawn, ond i mi, mae'n ymwneud â chodi ansawdd, felly mae tros-hau’n cynnig ateb da," meddai.
Rhoddodd y Cyllid Arbrofi gyfle iddo brofi ei syniadau cyn iddo gyflwyno'r rhain ymhellach - mae'r fenter hon yn ariannu unigolion a grwpiau o ffermwyr a thyfwyr i arbrofi gyda syniadau a'u dod yn fyw.
Dangosodd yr arbrawf yn glir fod tros-hau gyda meillion yn "ateb hollol amlwg", meddai. "Wrth fynd ymlaen, gallwn fod yn hyderus bod modd i ni ychwanegu gwerth fel hyn, yn enwedig i'n tir serth lle rydym am osgoi llacio'r pridd.
"Mae ymyriadau fel defnyddio oged â phŵer yn golled fawr bob ffordd ar lethr, oherwydd gall y pridd rhydd hwnnw gael ei olchi i ffwrdd yn gyflym yn ystod y cyfnodau o dywydd eithafol rydym yn eu profi’n amlach, i bob golwg."
Dealltwriaeth werthfawr a gafodd o'r arbrawf oedd pa mor bwysig yw lleithder y pridd ar gyfer sefydlu porfeydd. "Mae'n rhaid i'r amodau fod yn iawn, yn enwedig os ydych chi'n defnyddio da byw i droedio’r had i mewn; heb lefel benodol o leithder, does dim modd cymysgu’r hadau a’r pridd yn iawn."
FFEITHIAU’R FFERM
- 787ha sy’n eiddo ac ar rent
- 320 o heffrod R1 ac R2 y flwyddyn yn cael eu magu ar gontract ar gyfer ffermwr llaeth
- 125 o wartheg bîff o wartheg llaeth yn cael eu magu bob blwyddyn ar gyfer Buitelaar
- 1,350 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella yn cael eu bridio i hyrddod Easycare
- Ŵyn yn cael eu gwerthu ar y bach i Dunbia
- Glawiad cyfartalog o 1,200mm