14 Gorffennaf 2020

 

Mae ffermwr sy’n ceisio cynyddu cynhyrchiant gydol oes ei wartheg drwy ddethol geneteg effeithlon yn paratoi i ddarlledu’n fyw oddi ar ei fferm y mis hwn yn yr ail mewn cyfres o ddigwyddiadau yn Fyw o’r Fferm Arddangos a gynhelir gan Cyswllt Ffermio.

Mae William Hannah yn cynnal profion sgrinio genomeg ar ei loi benyw er mwyn dethol yr anifeiliaid cyfnewid gorau ar gyfer y fuches odro ar fferm Mountjoy, un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio ger Hwlffordd.

Gall ffermwyr sydd â diddordeb wylio ar Zoom o 19:30 ar 22 Gorffennaf i glywed Mr Hannah yn trafod y prosiect yn fyw oddi ar y fferm gyda Swyddog Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio, Dewi Hughes.

Fel un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, mae Mountjoy wedi dechrau gweithio ar brosiect i wella cynhyrchiant gydol oes ei wartheg drwy ddethol geneteg effeithlon ar gyfer y fuches.

Dywed Simon Pitt, Swyddog Technegol Llaeth Cyswllt Ffermio, sy’n goruchwylio’r prosiect, fod dethol ar sail genomeg yn cynnig nifer o fuddion o ran gwella cyfradd enillion genynnol mewn rhaglenni bridio buchod llaeth. 

“Un fantais sydd o ddiddordeb fel rhan o’r prosiect yw bod cynnal profion genynnol yn gallu rhagweld nodweddion genynnol tybiedig yn fwy cywir ar gyfer anifeiliaid ifanc,” meddai Simon Pitt.

Bydd Fern Pearston o AHDB yn ymuno â’r drafodaeth o bell, ac yn cynnig cyngor ynglŷn â datblygu rhaglen fridio effeithiol a chywirdeb dethol genomeg, a bydd yr arbenigwr glaswelltir annibynnol, Chris Duller, yn rhoi arweiniad ar leihau mewnbynnau nitrogen ar laswelltir a chynnwys meillion yn y borfa. 

“Yn ogystal â thrafod y prosiectau, bydd ein harbenigwyr yn ateb eich cwestiynau’n fyw ac yn cynnig cyngor ac argymhellion cyffredinol, gyda’r nod o’ch helpu i wella eich busnes,” meddai Dewi Hughes.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, cliciwch yma neu e-bostiwch simon.pitt@menterabusnes.co.uk

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a
Fferm Laeth Cwmcowddu yn Gwella Effeithlonrwydd Porthiant, gan Hybu Proffidioldeb a Chynaliadwyedd
25 Mawrth 2024 Mae Cwmcowddu, fferm gymysg yn Llangadog yng
Gall cyrsiau hyfforddiant Cyswllt Ffermio helpu i gyflawni datblygiad personol a chryfhau arferion fferm
21 Mawrth 2024 Enillodd Julie Davies, sy’n bartner gweithredol yn