03 Mawrth 2026
Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn cylchdro tir âr yng Nghymru wedi dangos gwerthoedd deunydd organig yn y pridd (SOM) uwch o'i gymharu â gwerthoedd labordy cyfartalog a welwyd ar gyfer tir âr, ac wedi taflu goleuni newydd ar rai arferion sy'n gysylltiedig â thyfu cnydau.
The research, which involved sampling eight fields on each of the 12 farms, produced a set of results that mostly counters general acceptance that arable crops deplete soil biology and nutrients.
The results in fact show that arable cropping mostly had more optimal pH and nutrient indices than grassland, and that intensive cropping practices didn’t automatically adversely impact soil biology.
Cymerodd deuddeg tyfwr sy'n ffermio'n bennaf yn Sir Benfro ac sy'n aelodau o Grŵp Trafod Tir Âr Cyswllt Ffermio ran mewn astudiaeth a archwiliodd statws iechyd eu priddoedd a sut roedd yn gysylltiedig â'r ffordd yr oeddent yn ffermio'r tir hwnnw.
Cynhyrchodd yr ymchwil, a oedd yn cynnwys samplu wyth cae ar bob un o'r 12 fferm, set o ganlyniadau sydd i raddau helaeth yn gwrth-ddweud y derbyniad cyffredinol bod cnydau âr yn darwagio bioleg a maetholion y pridd.
Mae'r canlyniadau mewn gwirionedd yn dangos bod gan gnydau âr fynegeion pH a maetholion gwell na glaswelltir, ac nad oedd arferion cnydio dwys yn effeithio'n andwyol ar fioleg y pridd yn awtomatig.
Roedd tystiolaeth glir hefyd yn y dadansoddiad gan Lancrop Laboratories fod y codiadau hyn yn debygol o fod wedi deillio o arferion rheoli gweithredol buddiol megis ymgorffori gwellt wedi'i dorri yn y pridd a thyfu cnydau gorchudd yn y cylchdro, nid o daenu tail organig.
Dywed Dr Delana Davies, Rheolwr Traws-Sector Cyswllt Ffermio, fod hanner canlyniadau SOM y grŵp yn yr ystod o 4.2% - 6.3% - ac mae samplau tir âr a dderbyniwyd gan y labordy ar gyfer priddoedd y DU a thramor yn bennaf yn yr ystod 2-4%.
Nid yw'r rhan fwyaf o'r ffermwyr yng Ngrŵp Trafod Tir âr Cyswllt Ffermio yn cadw da byw ac maent yn amharod i ymgorffori gwelliannau tail anifeiliaid ar eu caeau tir âr. Gall mewnforio tail gyflwyno hadau chwyn fel cynffonwellt du.
Mae canlyniadau'r astudiaeth yn gyffredinol wedi dangos bod y ffermwyr yn profi i fod yn geidwaid da o'u tir, gan gynhyrchu cnydau iach a chynhyrchiol gan ddefnyddio arferion rheoli sy'n cefnogi lefelau uchel o fiomas microbaidd y pridd, ychwanega Delana.
“Yr hyn oedd yn syndod oedd nad oedd arferion rheoli dwys megis defnyddio lefelau uchel o wrtaith nitrogen (N) neu dyfu tatws yn niweidiol i iechyd y pridd yn awtomatig. Mae'r ffermwyr hyn yn monitro ac yn rheoli iechyd eu pridd yn rheolaidd i ddarparu'r canlyniad gorau ar gyfer cynhyrchu cnydau yn effeithlon.”
Cymerwyd y samplau pridd ym mis Mai 2025 a chawsant ddadansoddiad o Iechyd y Pridd Sbectrwm Eang yn y labordy.
Yn ogystal ag amcangyfrif biomas microbaidd y pridd trwy ddefnyddio'r ffrwydrad carbon deuocsid Solfita, cynhyrchir Sgôr Asesu Iechyd y Pridd (SAS) gan algorithm sy'n defnyddio'r canlyniadau biolegol, cemegol a ffisegol, gyda phob sampl yn cael ei sgorio allan o 100. Mae hyn yn darparu dull o feincnodi samplau pridd rhwng caeau a, thros amser, rhoi llwyfan i fesur a monitro iechyd y pridd.
Er bod gan gaeau glaswellt o fewn y cylchdroadau tir âr hyn fiomas microbaidd sylweddol uwch - 4758 o’i gymharu â 3622 mg/kg, roedd gan y rhai a oedd yn cynhyrchu cnydau âr SAS sylweddol uwch - cyfartaledd o 82 o'i gymharu â glaswelltir o 74.
Mae hyn yn debygol o godi o'r sylw manwl a rheolaidd a roddir i gynllunio calch a rheoli maetholion mewn cylchdroadau tir âr.
Craffwyd hefyd ar sut roedd iechyd y pridd yn cael ei ddylanwadu gan yr amser o'r flwyddyn y cafodd cnydau eu sefydlu.
Dangosodd cnydau a heuwyd yn y gaeaf lefelau biomas microbaidd sylweddol uwch na chnydau'r gwanwyn - 3713 o’i gymharu â 3347 mg/kg - sy'n awgrymu bod hau yn y gaeaf yn debygol o fod yn gysylltiedig â gwell gallu i wrthsefyll newid hinsawdd, gan arwain at ganlyniadau cnydau gwell o dan batrymau tywydd mwy eithafol.
Dangoswyd bod sut mae caeau'n cael eu trin yn effeithio ar iechyd y pridd hefyd.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, bu symudiad tuag at arferion trin y tir cyn lleied â phosibl gan ddefnyddio peiriant trin yn hytrach nag aredig, gan leihau tarfu ar y pridd.
Roedd gan gaeau â chnydau’r gwanwyn a sefydlwyd gyda thechnegau trin y tir cyn lleied â phosibl fiomas microbaidd llawer uwch na chaeau a oedd wedi’u haredig; yn y caeau gyda chnwd y gaeaf roedd aredig yn gysylltiedig â biomas microbaidd ychydig yn uwch.
Cadarnhaodd y canlyniadau hefyd pam roedd rhai caeau wedi tanberfformio; roedd gan y rhai yr oedd ffermwyr yn eu hystyried fel caeau a oedd yn 'perfformio'n waeth' fiomas microbaidd sylweddol is a sgorau SAS is-optimaidd.
Mae tyfu tatws yn rhan o'r cylchdro ar sawl un o'r ffermydd, ac maent wedi’u tyfu yn yr un cae am un flwyddyn yn unig mewn chwech.
Ni ddangosodd yr astudiaeth unrhyw wahaniaethau arwyddocaol mewn caeau a oedd wedi tyfu tatws o ran biomas microbaidd ond lle'r oedd caeau wedi tyfu tatws dair i bum mlynedd ynghynt, roedd ganddynt sgôr SAS sylweddol is o 77 o'i gymharu ag 82 mewn priddoedd lle nad oedd tatws erioed wedi cael eu tyfu.
Dywed Delana y gallai hyn fod yn gysylltiedig â thatws yn dileu llawer iawn o faetholion fel ffosffad a photasiwm ac mae'n dangos pam mae angen cynllunio maetholion yn fanwl gywir wrth sefydlu cnydau ar ôl tyfu tatws yng nghylchdro'r cae.