15 Mai 2020

 

Mae fferm laeth yn Sir Benfro yn cynnal sgrinio genomig ar ei lloeau heffrod i ddewis y stoc cyfnewid gorau i’r fuches odro.

Magu stoc cyfnewid yw un o’r pethau sy’n costio mwyaf ar fferm laeth - amcangyfrifir bod magu llo o’i eni i loea yn costio tua £1,800.

Cred y teulu Hannah mai wrth brofi eu heffrod am nodweddion genomig y gallan nhw gael enillion mawr yn eu buches sy’n lloea yn y gwanwyn.

Maen nhw’n ffermio ym Mountjoy, ger Hwlffordd, lle maent yn godro buches o 370 o wartheg llaeth Friesian Seland Newydd yn bennaf ac yn magu 200 o heffrod cyfnewid.

Fel un o safleoedd arddangos newydd Cyswllt Ffermio, mae’r fferm wedi cychwyn ar brosiect i wella cynhyrchiant oes y buchod trwy ddewis geneteg effeithlon ar gyfer y fuches.

Trwy weithio gyda Cyswllt Ffermio mae’r busnes yn anelu at fagu’r heffrod mwyaf cynhyrchiol yn unig, i atal costau diangen.

Gall yr anifeiliaid llai cynhyrchiol gael eu gwerthu, gan gael gwared ar y gost ddiangen o’u magu, ac yn sgil hynny gwella geneteg a pherfformiad y fuches laeth.

“Gall profi genomig ein helpu i ddewis y stoc cyfnewid gorau i gyfateb i ofynion ein system,” dywed William Hannah, sy’n ffermio gyda’i wraig, Heather, a’i rieni, Tom a Mary.

“Rydym yn teimlo y gallwn weld enillion gwirioneddol trwy hyn, trwy ddiddymu genynnau gwael fel mai dim ond yr anifeiliaid gorau un sy’n cael eu cadw yn y fuches.”

Dengys ffigyrau’r diwydiant bod 14.5% o’r stoc ifanc benyw yn methu cyrraedd eu llo cyntaf, ac nid yw 33% yn cyrraedd eu hail laethiad. Nid yw gwartheg llaeth yn dechrau talu yn ôl trwy werthiant llaeth hyd ar ôl yr ail laethiad, ac erbyn hynny mae llawer iawn o ymdrech ac arian wedi cael eu buddsoddi. 

Dywed Simon Pitt, swyddog technegol llaeth Cyswllt Ffermio, sy’n goruchwylio’r prosiect ym Mountjoy, y gall gwerthoedd bridio genomig amcangyfrifedig gael eu cyfrifo wrth i’r lloeau gael eu geni, ac mae’n gywir i raddau helaeth iawn, gall strategaeth sy’n defnyddio’r manteision hyn gael ei defnyddio i bennu pa loeau benyw fydd fwyaf cost effeithiol a fwyaf cynhyrchiol. 

Mewn cymhariaeth â geneteg draddodiadol buchesi, sy’n 18-25% yn gywir, mae profi genomig 50-60% yn gywir (SCI-Mynegai Lloea Gwanwyn), dywedodd.

“Mae dethol ar sail genomig yn cynnig llawer o fanteision o ran gwella’r gyfradd o enillion genynnol mewn rhaglenni bridio gwartheg llaeth, un fantais sydd o ddiddordeb i’r prosiect hwn yw y gall profi genynnol ragweld y rhinweddau genynnol yn fwy cywir ar gyfer anifeiliaid ifanc,” dywedodd Mr Pitt.

Bydd manteision o ran iechyd hefyd yn dod i’r amlwg trwy brofi; gan fod Mountjoy mewn ardal lle mae’r risg o TB yn uchel, ymhlith y nodweddion o ddiddordeb mae Mantais TB a mynegai i’r lloeau sy’n goroesi.

Bydd y cynnydd ar y prosiect Cyswllt Ffermio yn cael ei rannu gyda ffermwyr ar wefan Cyswllt Ffermio a sianeli cyfryngau cymdeithasol tra bydd y cyfyngiadau COVID-19 yn dal yn weithredol.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol
17 o gyrsiau newydd wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio
03 Ebrill 2024 Mae 17 cynnig newydd bellach ar gael drwy raglen
Sut gwnaeth sicrhau mentor rymuso tyddynwyr gydag arweiniad a gwybodaeth
27 Mawrth 2024 Fel recriwtiaid newydd i amaeth-goedwigaeth a