Dr Ruth Wonfor: IBERS, Prifysgol Aberystwyth

 

Negeseuon i’w cofio:

  • Ar gyfartaledd, mae 75% o’r nitrogen sy'n cael ei fwydo i wartheg yn cael ei golli yn eu tail.
  • Gellir defnyddio nitrogen yn fwy effeithiol (a dal i gynhyrchu cymaint) a lleihau faint o nitrogen sy’n dianc drwy gynnwys llai o brotein crai (PC) yn eu bwyd.
  • Mae ymchwilwyr yn IBERS yn ystyried pa effaith fyddai bwydo llai o brotein crai i heffrod rhwng eu diddyfnu a'u hail cyfnod llaetha yn ei gael ar eu cynnyrch.

Mae allyriadau nitrogen mewn amaethyddiaeth yn broblem amgylcheddol ddifrifol, dyma’n bennaf sy’n arwain at ormodedd o faetholion ac o asideiddio mewn cyrff dŵr.   Gan fod amaethyddiaeth yn dibynnu cymaint ar wrteithio'r tir, mae'r nitrogen sy'n dianc i'r amgylchedd drwy brosesau amaethyddol wedi derbyn llawer iawn o sylw gyda galw cynyddol am wrteithio llai a sicrhau bod llai o nitrogen yn dianc.  Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y problemau y mae nitrogen yn ei achosi ac ynghylch parthau perygl nitradau yn erthygl Cyswllt Ffermio:  ‘Parthau Perygl Nitradau’.  

Mae nitrogen yn dianc yn uniongyrchol o anifeiliaid cyfansoddion megis wrea mewn wrin.  Mae nitrogen yn rhan hanfodol o asidau amino, sef yr unedau sy’n adeiladu protein ac felly mae pob anifail yn cael nitrogen drwy’r protein y maen nhw’n ei fwyta.  Mae'n rhaid i anifail gael protein i’w gynnal ei hunan yn ogystal ag i gynhyrchu.  Mae gwartheg godro sy’n llaetha angen mwy o brotein na heffrod a gwartheg sych oherwydd eu bod angen rhagor o asidau amino i gynhyrchu’r protein yn eu llaeth.  Fodd bynnag, mae nitrogen hefyd yn dianc i’r amgylchedd.  Mae Blwch 1 yn dangos y gall gwartheg golli, ar gyfartaledd, 75% o'r protein y maen nhw’n ei fwyta drwy’r llwybrau gwastraff - carthion ac wrin yn bennaf.  

Mae argymhellion maetheg ar gyfer da byw yn dangos faint o brotein crai y dylid ei borthi i gynnal iechyd a lles cyffredinol anifail a hefyd ar gyfer cynhyrchu.  Mae’n wybyddus, os bydd mwy na hyn yn cael ei borthi, y bydd mwy o nitrogen yn dianc ond na fydd gwartheg godro'n cynhyrchu mwy o laeth - felly bydd y nitrogen yn cael ei ddefnyddio’n llai effeithiol.  Gellir lleihau faint o brotein sy’n dianc drwy borthi llai o brotein crai mewn deiet wedi'i ffurfio'n dda, heb amharu fawr ddim ar swm nac ansawdd y llaeth sy’n cael ei gynhyrchu, sy’n golygu y bydd nitrogen yn cael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol.    Dangosodd ymchwil diweddar os ychwanegir ychydig o brotein (14.1% o brotein crai) at borthiant gwartheg godro sy’n pori, bod mwy o nitrogen yn tueddu i ddianc drwy’r carthion yn hytrach na thrwy'r wrin.   Mae hyn yn ddarganfyddiad defnyddiol i’r amgylchedd.  Mae nitrogen mewn carthion yn llai tebygol o anweddu ac o gael ei droi’n gynnyrch niweidiol, megis amonia ac ocsid nitrus (nwy tŷ gwydr grymus), a hynny’n llawer arafach, nag mewn wrin.  Ond mae gofyn cynnal treialon llawer mwy i brofi'r gwaith hwn ymhellach yn ogystal ag i ymchwilio i'w effeithiau tymor hir ar gynnyrch ffermydd.

llaeth 0

 

Mae faint o'r gwahanol fathau o brotein sy'n cael ei borthi hefyd yn bwysig.  O ran sut mae'n cael ei dreulio yn y rwmen, gellir rhannu protein yn ddau fath; protein sy’n cael ei dreulio a phrotein nad yw’n cael ei dreulio yn y rwmen.  Mae’n rhaid i anifeiliaid sy’n cnoi cil gael cyfran o brotein yn eu bwyd sy’n cael ei dreulio yn y rwmen ac y gall microbau ei ddefnyddio.  Byddai peidio â gwneud hynny yn amharu ar eplesu ffibrau mewn bwyd yn y rwmen ac felly ychydig o'r porthiant fyddai’n cael ei ddefnyddio a byddai llai o brotein microbau'n cyrraedd y coluddyn bach.  Ond gallai porthi mwy o brotein nag sydd ei angen yn y rwmen, neu os nad oes digon o ynni hawdd ei eplesu yn y diet, arwain at fwy o nitrogen yn dianc yn yr wrin.   Felly, dylid ystyried o ble y daw protein ac ynni wrth borthi llai o brotein crai, gan gynnwys protein sy'n cael ei dreulio yn y rwmen a lleihau’r protein nad yw'n cael ei dreulio yno i lefelau derbyniol er mwyn sicrhau cyflenwad da o asidau amino i gynhyrchu digon o laeth.  

Mae’n amlwg fod yna achos dros leihau faint o brotein crai sydd mewn porthiant gwartheg godro fel bod llai o allyriadau nitrogen ac i wneud cynhyrchu llaeth yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.  Ond rhaid cofio hefyd y cafodd llawer o’r astudiaethau hyn eu cynnal ar wartheg yn llaetha a heffrod cyfnewid, sef cyfran helaeth o fuchesi godro.  Er bod peth ymchwil wedi’i gynnal sy'n dangos fod porthi llai o nitrogen i heffrod hefyd yn arwain at lai o allyriadau nitrogen (yn bennaf drwy leihau faint sy'n dianc mewn wrin) does dim gwybodaeth yn dangos sut y mae hynny'n effeithio ar berfformiad, megis ar dwf anifeiliaid a chynhyrchiad llaeth at y dyfodol.   

Gwaith yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth

Mae ymchwilwyr yn IBERS yn cymryd rhan mewn prosiect yn cael ei ariannu gan Defra i ystyried pa effaith gai porthi llai o brotein crai i heffrod yn tyfu ar eu perfformiad cynhyrchu yn y dyfodol.  Mae manylion yr arbrawf yn Blwch 2, sy’n dangos y cymharwyd diet gydag ychydig o brotein crai gyda diet safonol o adeg diddyfnu tan ddiwedd yr ail gyfnod llaetha.  Er mwyn mesur effeithiau porthi llai o brotein crai ar bedair blynedd cyntaf oes, cofnodwyd yr wybodaeth ganlynol:  twf, iechyd, ffrwythlondeb, perfformiad y cyfnod llaetha cyntaf a’r ail, a’r rhaniad nitrogen yn y corff cyfan.  Roedd 100 o heffrod yn cymryd rhan yn yr astudiaeth i gael 25 ym mhob un o'r 4 grŵp trin terfynol.  

llaeth 2

 

Yn ôl canlyniadau’r prosiect, nid yw gostwng y protein crai o 14% i tua 11.5% yn cael unrhyw effaith ar dwf heffrod.  Mesurwyd pwysau’r corff, sgoriau cyflwr, taldra at ben yr ysgwydd, cylchedd y corff, hyd y cefn a lled yr ystlys pan oedd yr heffrod yn tyfu ac nid oedd deiet i’w weld yn effeithio ar yr un o’r mesuriadau.  Felly, nid oedd cynnwys llai o brotein yn y deiet yn cael unrhyw effaith ar dwf yr heffrod.

Cafodd ffrwythlondeb a pherfformiad atgynhyrchu hefyd ei gofnodi.  Ychydig iawn o wahaniaeth oedd yna mewn oedran bwrw'r llo cyntaf, cyfartaledd y grŵp deiet arferol oedd 28.3 mis a chyfartaledd y grŵp llai o brotein oedd 27.7 mis.  Felly, nid oedd cynnwys llai o brotein yn eu bwyd yn cael unrhyw effaith ar ba bryd y byddai anifeiliaid yn cyrraedd oed aeddfedrwydd ac yn gallu beichiogi.  Ymddengys fod heffrod oedd yn cael llai o brotein yn eu bwyd yn beichiogi ychydig yn well wrth gael tarw am y tro cyntaf o gymharu â'r heffrod oedd yn cael bwyd cyffredin, ond bydd yn rhaid ymchwilio ymhellach i hyn gyda rhagor o anifeiliaid.   Hefyd, nid oedd bwydo llai o brotein i heffrod yn cael unrhyw effaith ar bwysau eu lloi nac ar broblemau lloia, megis dystocia.  Felly, nid yw porthi heffrod ar fwydydd gyda dim ond 11.5% o brotein crai o adeg eu diddyfnu yn cael unrhyw effaith ar eu twf yn gyffredinol nac ar eu perfformiad lloia, sy’n awgrymru y byddai’n system reoli hyfyw i sicrhau fod llai o nitrogen yn dianc o heffrod sy'n cael eu magu i ddod i'r fuches.  

Mae’r prosiect erbyn hyn yn casglu gwybodaeth ynghylch buchod sy’n llaetha; nid oes digon o wybodaeth ar gael ar hyn o bryd i ddod i gasgliad ar effeithiau hir dymor bwydo llai o brotein i heffrod sy’n tyfu.   Ond, mae’r wybodaeth sydd eisoes ar gael yn awgrymu na fyddai hynny’n cael unrhyw effaith arwyddocaol ar eu perfformiad llaetha.  Cadwch lygad am ragor o wybodaeth yn ystod y flwyddyn i ddod a'r canlyniadau terfynol o'r prosiect hwn yn IBERS.

llaeth 3

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth