AMCANION Y CWRS:
Cydnabod rôl yr arolygydd coed mewn rheoli risg.
Nodi’r fframwaith cyfreithiol yng nghyd-destun statud a chyfraith gwlad sy’n effeithio ar archwilio coed a dyletswyddau a rhwymedigaethau’r perchennog, y rheolwr a’r arolygydd.
Crynhoi sut mae system goed yn gweithio, beth yw coeden ddiogel, a gwybod bod angen egni i gadw'r goeden mewn cyflwr iach/diogel.
Mabwysiadu methodoleg systematig a chyson ar gyfer cynnal archwiliad coed gweledol ar lefel uwch gyda chymorth binocwlars, gordd a stiliwr.
Casglu data yn y maes yn unol â chyfarwyddiadau'r archwiliad (ar ôl pennu'r cwmpas a'r cyfyngiadau) gan ddefnyddio fformat addas. (Ar gyfer y cwrs hwn, bydd templed o arolwg ysgrifenedig gyda phenawdau priodol yn cael ei ddefnyddio).
Adnabod amrywiaeth o ddiffygion mecanyddol a biolegol y gellir eu gweld mewn coed a'u cadarnhau trwy ddefnyddio gwerslyfrau lle bo angen.
Nodi amrywiaeth o blâu, afiechydon ac anhwylderau a welir yn gyffredin sy'n effeithio ar ddiogelwch coed, cadarnhau eu hunaniaeth trwy ddefnyddio gwerslyfrau, lle bo angen, a nodi arwyddocâd dod o hyd iddyn nhw yn y maes.
Nodi’r mesurau rheoli/adfer priodol sydd eu hangen i ddileu neu leihau risgiau a nodwyd yn y broses archwilio i lefel dderbyniol.
Penderfynu pryd mae angen archwiliad o'r awyr, ac ystyried a ellir gwneud argymhellion rheoli rhagweithiol a allai ddileu diffygion rhag ffurfio yn y dyfodol.
Blaenoriaethu'r gwaith coed/rheoli angenrheidiol gyda graddfeydd amser yn seiliedig ar gategori eang o asesiad risg.
Nodi pryd mae'n briodol argymell defnyddio offer canfod neu fesur pydredd, yn seiliedig ar wybodaeth sylfaenol o egwyddorion gweithio offer sydd ar gael yn gyffredin.
Deall bod angen rhoi sylw arbennig i gydbwysedd rhwng y mesur adfer a ddewiswyd a’r ystod o fuddion/gwerthoedd a all fod gan goeden, er enghraifft amwynder, bywyd gwyllt, hanesyddol, hynafol, prinder a mynediad cyhoeddus.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?
Nod cwrs tridiau Lantra yw cynnig hyfforddiant penodol ar archwilio coed, a hynny ar lefel uwch ar gyfer arbenigwyr coedwigaeth cymwys. Bydd hyn yn eich galluogi i adnabod diffygion o lefel y ddaear, o archwiliad dringo neu archwiliad â chymorth Platfform Gwaith Symudol Uwch (MEWP).
Bydd y cwrs hyfforddi coed proffesiynol hwn yn eich hyfforddi ar sut i nodi'r gwaith adfer angenrheidiol a chofnodi'r broses arolygu; byddai hyn wedyn yn ffurfio rhan o system amddiffynadwy.
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn ymgymryd ag asesiad ar sail cymhwysedd sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag archwilio coed. Dyw’r cwrs ddim wedi'i anelu at ymdrin ag ysgrifennu adroddiadau, ond bydd sut mae’r canfyddiadau’n cael eu cyflwyno a chyngor yn cael ei roi.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y cwrs hwn, rhaid i chi fod yn arbenigwr coedwigaeth profiadol a chymwys gyda gwybodaeth fanwl am wyddor planhigion a choedyddiaeth. Bydd angen i hyn gynnwys gwybodaeth drylwyr am ffyngau sy'n pydru pren, adnabod a dehongli arwyddion a symptomau afiechyd a methiant strwythurol ar draws ystod eang o rywogaethau ac amgylchiadau coed.
Bydd angen i chi hefyd fod yn brofiadol iawn wrth gynnal archwiliadau ac arolygon coed. Byddwch yn ymwneud yn broffesiynol â choedyddiaeth – yn benodol archwilio coed, a byddwch yn gorfforol ffit ac yn gallu cyflawni'r tasgau sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.