Fel arfer yn gwrs hyfforddiant undydd gydag asesiad ar ddiwrnod gwahanol. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
PA4 = Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi mynychu cwrs hyfforddiant Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel a/neu feddu ar Dystysgrif Cymhwysedd NPTC mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1), Uned Sylfaenol. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio’n benodol i’r rhai sydd naill ai eisiau defnyddio gwasgarwyr peledi neu ronynnau (ar gyfer gwlithod) sy’n gallu cael eu gosod ar gerbyd neu eu llusgo fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd. Bydd y cwrs yn trafod sut i baratoi eich offer a’i gynnal a’i gadw, a sut i’w ddefnyddio a’i raddnodi’n gywir. Mae’r hyfforddiant yn ddelfrydol ar gyfer ffermwyr a’r rhai sy’n defnyddio offer chwistrellu.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch Plaladdwyr
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: