8 Ionawr 2025

 

Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried goblygiadau cynllun Llywodraeth y DU i gyfyngu rhyddhad amaethyddol a rhyddhad busnes o 100% ar gyfer treth etifeddiant (IHT) ar y £1miliwn gyntaf, mae Cyswllt Ffermio yn lansio cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru i helpu busnesau i ystyried gwahanol opsiynau i ddiogelu eu hasedau gan gynnwys cynllunio olyniaeth.

Roedd Cyllideb yr Hydref ar 30 Hydref yn cynnwys newidiadau arfaethedig sylweddol i reolau IHT a bydd y rhain yn effeithio ar lawer o fusnesau fferm.

Rhagwelir y bydd galw uchel am y cyngor sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, felly mae’n cynnal 10 digwyddiad lle bydd arbenigwyr sydd â phrofiad o faterion treth etifeddiant fferm a chynllunio olyniaeth yn darparu canllawiau pwysig ar y mesurau arfaethedig ac yn rhoi cyngor ar sut y gall ffermwyr liniaru effeithiau’r newid.

Bydd Dr Nerys Llewelyn Jones, o Agri Advisor ymhlith yr arbenigwyr, sy’n dweud bod y newidiadau yn pwysleisio ymhellach bwysigrwydd cynllunio olyniaeth effeithiol ac mewn da bryd.

Er enghraifft, mae'r rheol saith mlynedd yn dal i fod yn berthnasol, sy'n golygu y gallai rhywun drosglwyddo ased o leiaf saith mlynedd cyn marw, heb orfod talu treth etifeddiant (IHT) ar yr ased hwnnw. Mae’r rhain yn cael eu galw’n ‘Drosglwyddiadau a Allai gael eu Heithrio’ (PET).

“Gallai’r newidiadau arwain at fwy o drosglwyddo asedau rhwng cenedlaethau cyn marwolaeth, ond mae’r rheolau ynghylch rhoddion â budd amodol yn berthnasol ac felly mae’n rhaid ystyried hyn yn ofalus,” meddai Dr Llewelyn Jones.  

“Os bydd y rheolau hyn yn cael eu torri, er enghraifft, os yw’r rhoddwr yn dal i elwa mewn rhyw ffordd o’r ystâd, er enghraifft os yw’n dal i fyw yn y ffermdy, gallai hyn gael ei gyfeirio ato fel “PET a fethwyd” a bydd yn dod yn destun treth.”

Mae'n rhagweld y bydd mwy o graffu ar brisiadau a mwy o angen i gael asedau wedi’u prisio.

Hyd yma, roedd ffermwyr yn cael eu cynghori i ‘barhau i ffermio’ am gyn hired â phosibl i fod yn gymwys am Ryddhad Eiddo Amaethyddol (APR).

“Bydd hyn o bosibl yn berthnasol i asedau sy’n destun APR a Rhyddhad Eiddo Busnes (BPR), gan gynnwys yr asedau sydd o fewn y cap o £1miliwn”, meddai Dr Llewelyn Jones.

Fodd bynnag, bydd newidiadau i’r cyngor cyfreithiol a roddwyd gynt yn sgil y Gyllideb, ac mae’n cynghori’r ffermwyr yn gryf i geisio cyngor proffesiynol a rhoi cynllun ar waith.  

“I rai, bydd newidiadau bach yn eu galluogi i wneud y mwyaf o’r drefn IHT newydd a’r rhyddhad sydd ar gael ond i eraill bydd angen iddynt ystyried a chynllunio’n fanwl a bydd rhaid iddynt wneud rhai penderfyniadau anodd,” meddai Dr Llewelyn Jones.

Bydd cyfreithwyr, cyfrifwyr ac asiantau tir wrth law i ateb cwestiynau.

Mae pecyn cynhwysfawr o gymorth ar gael drwy Cyswllt Ffermio i hwyluso olyniaeth fferm gan gynnwys cyfarfod teuluol ar olyniaeth wedi’i hwyluso; adolygiad olyniaeth i asesu’r sefyllfa dreth a chyngor busnes a chyfreithiol cymorthdaledig. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol, neu ffoniwch y Ganolfan Wasanaeth.

Mae amserlen y digwyddiadau fel a ganlyn:

20/01/25 –Ivy Bush Royal Hotel, Caerfyrddin, SA31 1LG
21/01/25 – Canolfan Da Byw Sir Fynwy, Raglan, NP15 2B
22/01/25 - Maes y Sioe, Llwynhelyg, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 4BW
27/01/25 - The Barn, Moody Cow, Fferm Bargoed, Llwyncelyn, Aberaeron, SA46 0HL
28/01/25 – Clwb Golff Maesteg, Maesteg, CF34 9PR
03/02/25 - Coleg Cambria - Llysfasi, Llysfasi, Rhuthun, LL15 2LB
03/02/25 – Gwesty’r Celtic Royal, Caernarfon, LL55 1AY
05/02/25 – Gwesty’r Elephant & Castle, Drenewydd, SY16 2BQ
10/02/25 - Hafod a Hendre, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, LD2 3SY
11/02/25 - Neuadd Rhyd-y-main, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2AS


I gael rhagor o fanylion cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd