20 Ionawr 2025

 

Gyda threialon a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn amrywio o dyfu maglys yn Aberhonddu i sefydlu blodau’r haul fel cnwd cyfatebol i india-corn, gwahoddir ffermwyr i wneud cais am y rownd nesaf o gyllid drwy’r fenter a wireddodd y prosiectau hyn.

Mae'r ffenestr ymgeisio newydd ar gyfer y Cyllid Arbrofi yn agor 27 Ionawr 2025 a bydd yn rhedeg tan 17 Chwefror.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at £5,000 i helpu i ariannu treialon ar y fferm sy'n arbrofi gyda syniadau newydd.

Yn ystod y rownd cyllid ddiwethaf, cefnogwyd ffermwyr ar gyfer nifer o brosiectau gan gynnwys rheoli plâu yn integredig ar fenter mefus casglu eich hun.

ywedodd arweinydd y prosiect, Menna Williams o Cyswllt Ffermio mai'r nod yw i ffermwyr gymharu gwahanol driniaethau neu systemau rheoli – nid ariannu offer newydd yw bwriad y prosiect, pwysleisiodd.

“Mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Cyllid Arbrofi, i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb mewn busnesau amaethyddol wrth warchod yr amgylchedd.

Mae yna lawer o newidiadau ar y gorwel i amaethyddiaeth ac mae nawr yn amser gwych i archwilio syniad a allai fod o fudd i'ch fferm gan ganiatáu i chi fynd i'r afael â phroblemau 'go iawn' neu wirio a yw syniad ymchwil yn gweithio'n ymarferol ar eich fferm.’’

Mae’r cyllid ar agor i unigolion neu grwpiau o hyd at bedwar ffermwr a/neu dyfwr yng Nghymru sydd wedi nodi problem neu gyfle lleol neu benodol.

“Gan mai ffermwyr eu hunain sy’n rhoi’r syniadau hyn ar waith, maen nhw’n wir yn angerddol amdanyn nhw, gan roi 100% o ymdrech o’r cychwyn cyntaf,” meddai Ms Williams.

Rhaid i brosiectau addas geisio gwella effeithlonrwydd cynhyrchu a phroffidioldeb wrth warchod yr amgylchedd trwy alinio â chanlyniadau rheoli tir yn gynaliadwy.

Mae canllaw ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio i helpu ffermwyr i gwmpasu eu prosiect a chwblhau’r ffurflen gais.

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a gallu cwblhau eu prosiectau erbyn mis Ionawr 2026.

“Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplu, profi a threuliau rhesymol eraill megis y rhai sy'n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect,” eglurodd Ms Williams.

Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu â chynhyrchwyr eraill yng Nghymru drwy weithio gydag aelod ymroddedig o dîm Cyswllt Ffermio i gynhyrchu adroddiad byr a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth eraill megis digwyddiadau.

Mae’r ffurflen gais ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, neu i gael y ddolen a gwybodaeth bellach cysylltwch â fctryout@mentera.cymru


Related Newyddion a Digwyddiadau

Lansio Rhaglen Newydd Cyswllt Ffermio ar 1 Ebrill i Gefnogi Ffermwyr Ledled Cymru
26 Mawrth 2026 Mae ffermwyr ledled Cymru yn cael eu hannog i
Astudiaeth yn dangos arwyddocâd tir fferm yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth adar
24 Mawrth 2026 Gallai recordiadau o adar a gasglwyd ar dir fferm
Angen Gweithredu! Mae angen i ffermwyr a busnesau ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio a symud i One Login GOV.UK
18 Mawrth 2026 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau