12 Rhagfyr 2024

Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn manteisio ar ei adnoddau prin trwy ddefnyddio syniadau arfer gorau a gafwyd gan rwydwaith o gyd-ffermwyr a ddygwyd ynghyd fel grŵp trafod gan Cyswllt Ffermio.

Mae Peter Lowe, sy’n ffermio gyda’i wraig, Sue, yn Rhydwen, Crymych, yn aelod o Grŵp Trafod Bîff Sir Benfro Cyswllt Ffermio, sef grŵp sy’n cyfarfod bob mis naill ai ar y fferm neu mewn cyfarfodydd dan do dan arweiniad siaradwyr.

Ers iddo ymuno bedair blynedd yn ôl, mae wedi cyflwyno sawl newid sydd wedi gwella perfformiad y fuches a’r fferm.

Symudodd Mr a Mrs Lowe i Sir Benfro o Derby ym 1982, i fferm Rhydwen, a oedd yn ddaliad 18 erw ar y pryd. Ers hynny, maent wedi prynu 11.5 erw arall, ac yn rhentu 17 erw.

I ddechrau, roedd y fferm yn cael ei stocio â lloi heffrod Friesian gyda’r bwriad o sefydlu buches odro ond, yn sgil cyflwyno cwotâu llaeth y flwyddyn ganlynol, diystyrwyd hynny, felly aethant ati i fagu lloi bîff i’w gwerthu fel gwartheg stôr yn lle hynny.

Wrth i’r busnes esblygu, sefydlodd Mr a Mrs Lowe fuches sugno ‘Frenni’ o wartheg Henffordd pedigri ac erbyn hyn, mae ganddynt 15 o fuchod magu ar gyfartaledd ac maent yn canolbwyntio ar safonau iechyd uchel – mae’r fuches wedi’i hardystio fel Lefel Risg 1 ar gyfer clefyd Johne’s, ac mae wedi cael ei hachredu yn fuches heb BVD.

Ac yntau bob amser yn awyddus i ddysgu mwy, ymunodd Peter â Grŵp Trafod Bîff Sir Benfro Cyswllt Ffermio, ac agorodd hynny’r drws i lu o newidiadau sydd yn eu tro wedi bod o fudd i berfformiad y fuches a’r busnes.

Er bod gan rai aelodau systemau gwahanol i’w system ef, mae Peter yn dweud bod cael gwybodaeth ganddyn nhw a chan eraill y maen nhw wedi’u cyfarfod â nhw drwy’r grŵp wedi bod yn bwysig o ran helpu i lywio cyfeiriad ei fusnes ei hun ar gyfer y dyfodol, fel yr eglura: “Mae gennym ni ddigonedd o stoc, ac mae gennym wartheg mawr, ond roedd gan fferm y gwnaethon ni ymweld â hi yn ddiweddar ddwysedd stocio isel a buchod llai. Roedd yn ddiddorol gweld sut roedden nhw’n rhedeg y system honno, sut mae eraill yn gwneud pethau, ac a fydd rhai o’r syniadau hynny’n gweithio i ni.’’

Dysgodd bwysigrwydd dadansoddi silwair, gan ganiatáu i’w borthiant o'r safon uchaf gael ei ddyrannu i stoc sy'n tyfu.

Trwy dorri glaswellt yn iau, mae’n cynhyrchu silwair ar 13% o brotein crai, ac yn bwydo hwn i’w stoc ifanc, ac mae porthiant a gaiff ei dorri’n ddiweddarach sy’n fwy swmpus, ac iddo gyfartaledd o 11% o brotein crai, yn darparu porthiant gaeaf i’r buchod sych.
    
Mae lloi’n cael eu diddyfnu yn wyth i naw mis oed, gyda theirw wedi’u hysbaddu wedyn yn cael silwair wrth iddynt gael eu cadw dan do, gyda heffrod yn cael silwair a dogn cychwynnol o 2kg o ddwysfwyd, hyd at uchafswm o 3kg.

Mae teirw sydd wedi'u clustnodi fel stoc bridio yn cael dogn dyddiol o 3-6kg o ddwysfwyd ynghyd â silwair i gyrraedd targed o 600kg o ran pwysau byw cyfartalog yn 16 mis oed.

Mae pwyso’n rheolaidd, ar adeg diddyfnu a thair gwaith dros y gaeaf, yn helpu Peter a Sue i fonitro twf a pherfformiad.

Mae ychwanegu elfennau hybrin yn bwysig hefyd - yn hanesyddol, roeddent yn rhoi bolws i fuchod yn unig ac yn gwneud hynny unwaith y flwyddyn, neu’n cynnig tybiau mwynau, ond eleni, bydd buchod yn cael bolysau pan fyddant dan do ac wrth eu troi allan, a hefyd bydd lloi yn cael bolws wrth ddiddyfnu.

Trwy weithio'n agos gyda'r milfeddyg, maent wedi lleihau'r defnydd o driniaethau llyngyr trwy samplu cyfrif wyau ysgarthol (FEC).

“Dangosodd y samplau nad oedd unrhyw bla o lyngyr, a roddodd yr hyder i ni beidio â rhoi triniaethau llyngyr yn rheolaidd fel y byddem yn ei wneud yn y blynyddoedd blaenorol,” eglura Peter.

Maent hefyd wedi lleihau eu defnydd o wrthfiotigau – er enghraifft, trwy ddefnyddio cyffuriau lleddfu poen adeg ysbaddu yn unig, oni bai bod angen fel arall.

Trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, cawsant Gyngor Milfeddygol Arbenigol ar brofi ffrwythlondeb teirw.

Mae teirw magu yn cael eu gwerthu’n bennaf i ffermwyr llaeth ac mae gwartheg stôr yn cael eu gwerthu ym marchnad Caerfyrddin.

Mae Peter hefyd wedi defnyddio cyfleoedd sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio i ddatblygu eu sgiliau.

Gyda chyrsiau a ariannwyd 40%, mae wedi ennill Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel gan Ddefnyddio Offer Llaw (PA6), Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) a Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel gan Ddefnyddio Offer Chwistrellu Boom wedi'i osod ar Gerbyd. (PA2).

Mae'n golygu y gall ddefnyddio ei chwistrellwr wedi’i osod ar feic cwad a ‘weed wiper’ i reoli cyrs a chwyn yn Rhydwen, a chynhyrchu incwm trwy ymgymryd â chwistrellu contract hefyd.
“Mae’r ffaith bod y cyrsiau hyn wedi’u hariannu 40% yn gwneud byd o wahaniaeth; mae’n gymhelliant pendant i gwblhau’r hyfforddiant,’’ meddai.

Ac yntau’n 67 oed, mae Peter yn ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol, efallai newid o wartheg Henffordd i fridiau Cyfandirol o bosib, neu hyd yn oed yn symud allan o gynhyrchu gwartheg sugno a phrynu lloi i dyfu ymlaen yn lle hynny.

Mae arallgyfeirio i dwristiaeth wedi creu incwm ychwanegol pwysig i'r teulu.

Yn 2018, agorwyd hen ysgubor yn Rhydwen a gafodd ei throsi’n fwthyn ac iddo dair ystafell wely i’w logi, a gwelwyd cyfraddau deiliadaeth cryf ers hynny.

Er iddynt fynd i un o ddigwyddiadau trosi Cyswllt Ffermio ar ôl y trosiad, dywed Mr a Mrs Lowe ei fod wedi rhoi cyngor defnyddiol iddynt ar sut i wneud y mwyaf o’r fenter amgen honno.

“Pan fyddwch chi'n darparu llety, mae'n rhaid iddo fod o safon, ac mae'n rhaid i chi ddarparu gwasanaeth da a gofalu am y bobl sy'n dod i aros; dyna sut byddwch chi'n cael archebion dro ar ôl tro,'' meddai Peter.

“Nid yw’n wahanol i’r hyn rydym yn ei wneud gyda’r gwartheg – os cewch chi enw da am eich gwartheg, bydd pobl yn awyddus i brynu eto.’’

Y nod nesaf yw gwella glaswelltir a phori gyda’r wybodaeth a gafwyd trwy ddod yn aelodau o grwpiau trafod ac mewn digwyddiadau a gynhelir gan Cyswllt Ffermio.

Roedd ffermwr organig y buon ni’n ymweld ag ef yn ddiweddar gyda’r grŵp trafod wedi plannu cae o rêp a chêl, felly, os ydw i’n ddigon hyderus bod gen i ddigon o laswellt y flwyddyn nesaf, efallai y gwnaf rywbeth tebyg, gan ddefnyddio’r cnwd hwnnw â silwair wedi’i fyrnu i fwydo’r gwartheg sy’n cael eu cadw allan dros y gaeaf a lleihau costau porthiant a deunydd gorwedd,'' meddai Peter.

Byddai’r cnwd pori hwnnw’n cael ei ddilyn gan rygwellt sy’n tyfu’n gyflym wedi’i hau yn y gwanwyn ac, yn yr hydref, gyda gwndwn porfa parhaol.

“Mae’n rhywbeth gwahanol; does dim ots gen i roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Weithiau mae’n gweithio, weithiau nid yw’n gweithio, ond oni bai eich bod chi’n rhoi cynnig arni, fyddwch chi byth yn gwybod.’’

Mae Peter yn gwerthfawrogi’r cymorth y mae wedi’i gael drwy Cyswllt Ffermio. “Rwyf wedi dysgu cymaint drwy fynd i’r grŵp trafod – mae Rhiannon James o Cyswllt Ffermio, a Siôn Evans sy’n rhedeg y grŵp, yn gefnogol iawn.

“Rwy’n hoff iawn o’r agwedd gymdeithasol arno hefyd, sef gadael y fferm i gael sgwrs ac i rannu syniadau.’’


Related Newyddion a Digwyddiadau

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn llongyfarch ‘y gorau o’r goreuon’ ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2024
17 Ionawr 2025 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut