30 Ionawr 2025
Mae sgil-effaith newid cadarnhaol yn cael ei phrofi ar ffermydd a busnesau amaethyddol eraill ledled Cymru diolch i raglen Fentora Cyswllt Ffermio.
Mae ffermwyr fel Dai Evershed, a gafodd fudd o arweiniad ac arbenigedd ffrind a chydweithiwr pan ddychwelodd i fusnes ffermio ei deulu yng Ngheredigion yn 2022, yn "talu’r cymorth ymlaen" fel mentor.
I'w fentoreion, gan gynnwys y ffermwr defaid o Bowys, Aled Haynes, mae'r berthynas fentora wedi rhoi’r wybodaeth a'r hyder sydd arnynt eu hangen i symud ymlaen gydag agweddau newydd ar eu busnesau eu hunain.
Profiad Dai o ddefnyddio technoleg synwyryddion clyfar yn Wallog, y daliad 194 hectar ger Clarach y mae'n ffermio gyda'i dad, Jack, a ddaeth â'r ddau ddyn at ei gilydd.
Mae Dai yn defnyddio technoleg LoRaWAN i fonitro'r cyflenwad dŵr a'r defnydd ohono ar draws y fferm, ac i ganfod ac atal gollyngiadau cyn gynted â phosibl, a thrwy hynny, ddiogelu'r cyflenwad dŵr ffynnon cyfyngedig ar gyfer ei fferm.
Gyda chymorth gan Cyswllt Ffermio fel prosiect 'Ein Ffermydd', mae lefelau dŵr mewn cronfeydd gwahanol yn cael eu monitro ochr yn ochr â chyfraddau llif dŵr, ac mae’r wybodaeth honno’n cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ynghylch pryd mae angen pwmpio.
Roedd Aled yn awyddus i ddefnyddio'r dechnoleg hon i helpu i ddiogelu ei gyflenwad dŵr ei hun ar fferm Trefnant Isaf, y Trallwng, a gwnaeth gais i Cyswllt Ffermio i gael ei fentora gan Dai.
Roedd wedi mynd i un o ddiwrnodau agored Cyswllt Ffermio yn Wallog yn 2024, lle'r oedd wedi dysgu am brosiect Dai.
Cafodd y ddau ddyn gyfarfod cychwynnol ar fferm Trefnant Isaf ac ers hynny, maent wedi dilyn hynny gydag ail ymweliad safle, yn ogystal â galwadau fideo a ffôn.
"Mae fferm Aled yn debyg i fy un i,'' meddai Dai. "Pan wnes i ymweld, cawson ni daith gerdded o gwmpas a thrafod beth oedd angen ei wneud.''
Ond pwysleisiodd Dai nad ymgynghorydd yw mentor; mae'r rôl yn un sydd â'r bwriad o helpu mentaiod i ddod o hyd i atebion eu hunain, er mai trwy "ddatblygu syniadau ar y cyd” yw hynny.
"Mae'n ymwneud ag annog y sawl sy'n cael ei fentora i ganolbwyntio ar beth yw eu nodau a beth ellir ei gyflawni,'' eglura Dai.
"Fe wnaeth Aled ystyried fy mhrofiad personol serch hynny ac edrych ar beth oedd yn ymarferol yn ei sefyllfa ef.''
Ers hynny, mae Aled wedi buddsoddi mewn dau synhwyrydd, un sy'n monitro lefelau dŵr yn y tanc derbyn a'r llall yn monitro cyfradd llif y dŵr.
Bydd y data hwn yn ei alluogi i wybod faint o ddŵr dros ben sydd ar gael yn y gaeaf ac felly'r capasiti ychwanegol yn y system i'w gyflenwi yn ystod y misoedd sychach.
Y cam nesaf yw penderfynu faint sy'n cael ei yfed gan ei dda byw a sut i gael y dŵr hwnnw i wahanol rannau o'r fferm.
Mae Dai hefyd yn gweithio yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, a datblygwyd ei wybodaeth ei hun am dechnoleg LoRaWAN gyda chymorth ei gydweithiwr, Jason Brook.
"Roedd Jason yn wybodus iawn yn y defnydd o LoRaWAN ar ôl ei roi ar waith yn y cyfleusterau tyfu amgylcheddol dan reolaeth yn y brifysgol,'' meddai.
"Fe wnaeth e fy helpu yn y camau cynnar a gydag unrhyw faterion yn fwy diweddar."
Y profiad hwnnw, yn rhannol, a wnaeth annog Dai i ymgysylltu â rhaglen Fentora Cyswllt Ffermio.
"Cefais help pan oeddwn i ei angen, ac rwy'n ddiolchgar i fod yr unigolyn hwnnw sydd bellach yn gallu ei dalu’r cymorth ymlaen gyda'r hyn rydw i wedi'i ddysgu.''
Roedd yn sicr y gallai'r wybodaeth yr oedd wedi'i chael fod yn ddefnyddiol i ffermwyr eraill.
"Mae'n ardal arbenigol a allai fod yn werthfawr i ffermwyr sydd eisiau gwneud rhywbeth tebyg ac sydd angen help.
"Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn annhebygol o fod wedi dod i gysylltiad â LoRaWAN a synwyryddion, ac mae'n ddwywaith mor heriol efallai, o ran y ffaith y gall hefyd fod yn bwnc cymhleth.''
Yn sgil ei ymagwedd arloesol tuag at effeithlonrwydd dŵr, roedd Dai yn ail yng Ngwobr Arloeswr Ffermio Cyswllt Ffermio yng Ngwobrau Lantra Cymru 2024 yn ddiweddar.
Nid yn unig y mentaiod sy’n cael budd o fentora, yn ôl Dai, sydd bellach yn fentor i dri ffermwr.
“Rwyf wedi dysgu cymaint gan y ffermwyr yr wyf wedi’u mentora, mae'n bartneriaeth ddwyffordd, yn ffordd o gyfnewid syniadau.
"Mae'n ffordd wych i mi weld gwahanol systemau ffermio ac, fel rhywun sy'n gymharol newydd i ffermio, mae hynny wedi bod yn fuddiol iawn.''
Beth sy'n gwneud mentor da? Ym marn Dai, bod â gallu diderfyn i wrando ac i fod yn agored i syniadau pobl eraill, i helpu'r sawl sy'n cael ei fentora i ddatblygu eu syniadau eu hunain.
"Rydym ni yno i helpu'r bobl rydym ni'n eu mentora i dyfu ac i ddod o hyd i'r cymhelliant i symud ymlaen gyda'u syniadau,''' meddai.
Mae achlysuron hefyd pan fydd mentor yn gallu tynnu ar ei brofiadau ei hun i helpu'r rhai y maent yn gweithio gyda nhw i ddatrys problemau.
"Galwodd Aled fi pan nad oedd synhwyrydd yn gweithio, ac roedd yn swnio fel sefyllfa debyg i un roeddwn i wedi'i brofi o'r blaen, pan oedd gwlithod wedi ffeindio'i ffordd y tu mewn i'r synhwyrydd,'' esbonia Dai.
"Awgrymais ei fod yn gwirio am wlithod ac, dyna oedd y broblem, ac roedd e’n gallu ei datrys. Weithiau mae gan broblemau atebion symlach nag y gallwch chi fentro eu dychmygu!'''
I Aled, mae'r cyfle i drafod rhai o'i syniadau gyda Dai wedi bod o fudd mawr iddo ef yn bersonol a'i fusnes.
"Mae pob sefyllfa yn wahanol, felly mae cael rhywun yn dod i'r fferm, i gael golwg ar y trefniant a rhannu a thrafod syniadau gydag ef, yn werth chweil,'' meddai.
Mae amrywiaeth fawr o fentoriaid posibl gyda gwahanol feysydd arbenigedd wedi'u rhestru yn y cyfeiriadur Mentora Cyswllt Ffermio, felly mae Aled yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle ac elwa ar y cyfoeth hwnnw o wybodaeth.