Gyda’r gwanwyn yn agosáu, bydd rheoli cyflwr a phorthiant mamogiaid cyfeb a buchod cyflo yn allweddol dros yr wythnosau nesaf er mwyn cael y perfformiad gorau posib dros gyfnod lloia ac ŵyna. Gwaith arall sydd ymlaen ar hyn o bryd yw ymestyn y system ddŵr er mwyn dod a mwy o gaeau i mewn i’r cylchdro pori yn ogystal â chynnal a chadw ffensys, sydd i’w weld yn ddiddiwedd! Gan obeithio am ychydig ddyddiau sych, fasa’n gwneud bywyd dipyn haws!

Bydd y buchod yn trosglwyddo o wellt a gwair i seilej 6 wythnos cyn lloia, gyda’r cyntaf i gychwyn dechrau Ebrill. Bwriad ydi i loia allan ond fel mae’r drefn wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yma ar ucheldir agored yr Hiraethog, dydi hynny ddim bob tro yn bosib! Ar ôl lloia bydd y buchod yn dechrau ar gylchdro pori i gyd fynd â thyfiant y gwanwyn.

Mae ein cyfnod lloia yn eithaf byr, tua 9-10 wythnos fel rheol. Mae hyn yn ein galluogi i reoli porfa a stoc yn fwy effeithiol, hefyd bydd y buchod yn dod yn ôl i ofyn tarw'r un adeg. Rydym yn defnyddio AI er mwyn cael geneteg/gwaed newydd i’r fuches, yna bydd teirw wedi eu magu adre yn cael eu defnyddio ar gyfer yr ail gylch.  

Mantais fwyaf y fuwch stabiliser ydi’r cyfnod lloia, anaml iawn fydda ni’n gorfod tynnu llo, mae’r llo ar ei draed mewn dim o amser ac yn sugno heb i ni orfod ymyrryd, sydd yn llai o straen i'r fuwch, y llo a ni!

Mae dipyn o newid wedi digwydd o ran y ddiadell dros y ddwy flynedd ddiwethaf yma. Roedden ni’n arfer cadw 'moga’ croes, ac yn wyna ganol mis Mawrth yn y sied a hanner arall yn ddefaid Cymraeg ac yn wyna allan. I leihau costau a llafur mae rhan helaeth o’r rhai croes wedi'u gwerthu, a llynedd am y tro cyntaf roedd popeth allan yn wyna. Er gwaethaf yr hunllef o gofio'r tywydd garw, rydym am ddyfal barhau ‘leni. Gobeithio bydd y gwrychoedd rydym wedi eu plannu’n ddiweddar yn gymorth rhag y gwynt a'r glaw yn y blynyddoedd i ddod!

Ar hyn o bryd mae’r moga sy’n cario dau ar swêj, gyda’r ffens drydan yn cael ei symud yn ddyddiol. Bydd seilej hefyd ar gael i sicrhau bod digon o brotein ac egni yn y diet. Mae’r system yma yn arbed i ni brynu dwysfwyd. Tua thair wythnos cyn wyna mae’r cylchdro pori yn dechrau, bydd hyn yn galluogi i ailsefydlu porfeydd ac annog tyfiant glaswellt yn barod i’r gwanwyn. Ar ôl set stocio dros gyfnod wyna bydd y defaid a’r ŵyn yn dechrau ar gylchdro pori.

Mae monitro perfformiad yn flaenoriaeth i ni, felly, bydd unrhyw broblem gyda geni, bwrw’r llawes goch, problemau traed ayyb yn cael ei nodi'r gwanwyn yma. Mae darganfod a chael gwared â’r moga neu fuchod llai cynhyrchiol yma wedi talu ar ei ail i ni. Ein bwriad yw parhau i fridio stoc sydd yn gywir, iach, ffrwythlon, geni’n hawdd ac yn ffynnu o laswellt a phorthiant yn unig. Gan obeithio fod y teirw, heffrod, buchod neu feheryn rydym yn gwerthu yn cadw cyflwr ym mha bynnag fferm neu system maen nhw’n mynd i.  

Mae Llion Jones, Moelogan Fawr, Conwy yn un o 90 o Fentoriaid sydd yn cynnig hyd at 15 awr o fentora i’r rheini sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Am fwy o wybodaeth ar ein Mentoriaid, a’u harbenigedd mewn ystod eang o bynciau o fewn amaeth a garddwriaeth, ewch i wefan Cyswllt Ffermio 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Glaswellt cynnar tymor 2021
8 Chwefror 2021 Ysgrifennwyd gan Chris Duller, Ymgynghorydd
Materion rheoli gyda lefelau lleithder isel yn y pridd a dim rhagolygon o law
27 Mai 2020 Chris Duller, Arbenigwr Priddoedd a Glaswelltir Fel
Blog – Plannu tatws â Puffin Produce
01 Mai 2020 Mae’r gwaith plannu tatws yn mynd rhagddo ers tro yn