Ar adeg ysgrifennu, dim ond saith wythnos sydd ar ôl cyn sesiwn gyntaf yr Academi Amaeth, ac mae llawer wedi digwydd ers i mi ysgrifennu’r diweddariad diwethaf ar y rhaglen!
Yn dilyn y cyfweliadau fe wnaethom ni ddewis deuddeg aelod a chawsant eu croesawu’n swyddogol i'r Academi Amaeth mewn seremoni yn Sioe Frenhinol Cymru ddiwedd fis Gorffennaf. Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gwrdd wyneb yn wyneb a'r tro cyntaf i ni fel tîm y rhaglen gwrdd â rhai o'r aelodau, gan i ni gynnal rhai cyfweliadau ar-lein. Roedd aelodau Rhaglen yr Ifanc hefyd yn bresennol felly roedd yn gyfle gwych i bawb gwrdd â'i gilydd.
Ar ôl y cyflwyniadau symudodd yr Academi Amaeth hŷn i babell y CLA (gan drafod i gael gwared ar Nigel Farage o'n hystafell yn y broses!) lle cafodd pawb y dasg o ysgrifennu llythyr at eu hunain yn y dyfodol yn nodi’r hyn y maent yn gobeithio ei gyflawni yn y flwyddyn nesaf. Byddaf yn postio'r llythyrau hyn yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru 2026, ac ar ôl ysgrifennu, rhannodd pob aelod un o’u nodau gyda’r grŵp. Trafodwyd rhai camau y gallai pawb eu cymryd i gyflawni'r nod hwnnw, a thrwy'r rhaglen byddwn yn cadw ein gilydd yn atebol ac yn rhoi anogaeth i gyrraedd yno.
Ers y cyfweliad, rydw i wedi bod yn brysur yn llunio amserlen ar gyfer y tair sesiwn. Mae Sesiwn 1 bellach wedi'i chwblhau gyda'r lleoliad a'r holl siaradwyr ac ymweliadau wedi'u trefnu, tra bod Sesiwn 3 yn mynd rhagddo’n dda ac rwyf bron â chadarnhau ein hamserlen ar gyfer y daith i Japan (Sesiwn 2).
Dydw i ddim eisiau datgelu gormod ond dyma gipolwg ar yr hyn sydd gennym ni ar y gweill!
Sesiwn 1 (Gorllewin Cymru): Sgiliau rheoli pobl a chyfathrebu gyda Real Success, ymweliadau â dwy fenter ar y cyd; un fenter ddefaid ac un llaeth, taith o gwmpas cwmni prosesu, ymweliad â fferm cyn-aelod o’r Academi Amaeth, a chwrdd â gwesteiwr Her yr Academi 2025.
Sesiwn 2 (Japan): Fferm laeth, gwneuthurwr gelato, planhigfeydd te a reis, ac ymweliad ag un o gynhyrchwyr llysiau mwyaf Japan. Hefyd, rhai ymweliadau diwylliannol i osod y cyd-destun!
Sesiwn 3 (Canolbarth Lloegr): Yn y sesiwn hon, bydd yr aelodau’n cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer Her yr Academi, ond bydd gennym hefyd amser am sesiwn ar faterion ariannol, meddylfryd llwyddiant, ac ymweliadau â thair fferm sy'n ymdrin â da byw a thir âr, confensiynol ac organig, gwerthu oddi ar y fferm ac ar y fferm a marchnata uniongyrchol.
Rwy'n gobeithio y bydd Sesiwn 2 yn cael ei chadarnhau’n derfynol yn ystod yr wythnosau nesaf; mae trefnu ymweliadau â Japan wedi bod yn anoddach nag a ragwelais ac rwy'n ddiolchgar iawn am rai cysylltiadau Japaneaidd sydd wedi mynd gam yn ychwanegol i'n helpu ni!