Rwy'n falch iawn i ddweud mai fi yw'r arweinydd newydd ar gyfer rhaglen Academi Amaeth Cyswllt Ffermio. Mae hwn yn gynllun arweinyddiaeth unigryw ac arbennig iawn sy’n dod â 12 ffermwr o sectorau gwahanol ledled Cymru ynghyd i gwblhau dwy sesiwn breswyl yn y DU ac un daith astudio ryngwladol.
Fy nghynllun ar gyfer y rhaglen yw herio’r aelodau drwy eu gwthio allan o’u hawyrgylch cysurus a gweithio gyda nhw i ddeall eu ffermydd fel busnesau yn well. Trwy reoli'r pethau y gellir eu rheoli a meithrin gwytnwch, rwy'n gobeithio y byddant yn dod i'r amlwg fel ffermwyr cadarnhaol a phroffidiol a all fod yn llysgenhadon i'r diwydiant ac ysbrydoli eraill gyda'u cynnydd.
Bydd y sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar y ffactor sy’n sail i bob busnes ffermio a phob cam o’r gadwyn gyflenwi; sef pobl. P'un a ydych yn unig fasnachwr, yn gweithio gyda'ch teulu, neu'n cyflogi staff, mae deall pobl yn hanfodol. Rydym yn gobeithio cynnal sesiwn ar ddeall eich hun ac eraill, yn enwedig ar gyfathrebu, a fydd yn helpu’r aelodau wrth iddynt ddod i adnabod ei gilydd yn ogystal â phan fyddant yn dychwelyd i’w busnesau cartref.
Bydd y penwythnos cyntaf hefyd yn cynnwys sesiynau ar amrywiaeth mewn amaethyddiaeth gyda chyfle i gwblhau’r modiwl hyfforddiant AgDiversity newydd a sgwrs am niwroamrywiaeth ym myd amaeth. Yna byddwn yn mynd allan ar y fferm i weld enghraifft o fenter ar y cyd lwyddiannus, ac i gwrdd â'r Fferm sy’n rhan o’r gystadleuaeth Her Fferm. Bydd pob un o 12 aelod yr Academi Amaeth yn cyflwyno eu cynllun ar gyfer yr Her Fferm yn yr ail sesiwn breswyl.
Mae'r daith astudio ryngwladol yn uchafbwynt i'r rhaglen ac yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae wedi mynd ag aelodau i Ganada. Eleni rydym yn gobeithio ymweld â Japan lle bydd ffermwyr yn gweld sectorau traddodiadol y DU mewn
cyd-destun newydd yn ogystal ag ymweld â ffermydd sy'n tyfu cnydau nad ydynt yn cael eu tyfu'n gyffredin yn y DU megis te a reis. Dylai ymweld â gwlad sydd â diwylliant ac iaith wahanol a gweld yr heriau a’r cyfleoedd sy’n uno ffermwyr yn fyd-eang fod yn gyfle anhygoel. Ni allaf aros i ddechrau cynllunio'r ymweliadau hyn, a byddaf yn defnyddio fy nghysylltiadau yn Nuffield ar eu cyfer.
Bydd y sesiwn breswyl olaf yn edrych ar wytnwch busnes a gwytnwch personol. Byddaf yn defnyddio fy ngwaith fel ymgynghorydd i siarad â’r ffermwyr drwy ddefnyddio eu cyfrifon ariannol ar gyfer meincnodi eu perfformiad, ac rwy’n gobeithio gwahodd siaradwyr i drafod gwydnwch personol, maeth dynol, a dadansoddiad o’r farchnad. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymweliadau’n cwmpasu busnesau ffermio trawiadol a theithiau â’r gadwyn gyflenwi ehangach fel lladd-dy neu baciwr cynnyrch ffres. Ar y penwythnos hwn bydd y ffermwyr hefyd yn cyflwyno eu cynllun ar gyfer yr Her Fferm.
Rwy’n annog unrhyw ffermwr o Gymru i wneud cais am y rhaglen os ydynt yn barod i herio eu hunain, adeiladu meddylfryd cadarnhaol a gwydn, cael sgiliau a syniadau newydd i’w defnyddio yn eu busnesau, a gwneud ffrindiau a chysylltiadau am oes. Dylai hon fod yn gyfres wych o sesiynau ac ni allaf aros i ddechrau arni ac i gwrdd â ffermwyr newydd yr Academi Amaeth!