Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd dylai pob ffermwr fod yn gofyn y cwestiwn iddo ei hun, sut allwn ni wneud ein fferm yn fwy diogel yn 2025? Unwaith eto, roedd damweiniau gyda offer cludiant yn amlwg yn 2024 gyda beiciau cwad ar ben y rhestr. Rwy’n credu bod pawb sy’n mynd ar gefn beic cwad ar fferm yn gwybod y dylai fod yn gwisgo helmed, ond nad ydynt yn trafferthu. Rhaid i ni gofio bod helmed yn lleihau lefel yr anafiadau yn fawr, ond mai dim ond wrth i’r ddamwain ddigwydd y mae’n effeithiol. Gallu’r gyrrwr a chyflwr a gosodiadau’r beic modur sy’n bwysig wrth leihau’r nifer o ddamweiniau.

Offer eraill sydd wedi bod yn rhan o ddamweiniau yw tractorau a thrinwyr telesgopig. Rydym yn gweld eto bod y rheswm am y damweiniau yn aml yn gysylltiedig â gallu’r gweithredwr a chyflwr mecanyddol y peiriant. Un ffaith ddiddorol yn ymwneud â thrinwyr telesgopig a allai fod wedi lleihau’r damweiniau yn ymwneud â sefydlogrwydd, yw ei bod yn ofyn cyfreithiol ar ôl 2012 i drinwyr telesgopig newydd fod â dyfais cloi hydrolig wedi ei gosod. Bydd y ddyfais yn datgysylltu’r system hydrolig petai’r peiriant yn cael ei orlwytho. Fel y rhagwelwyd, roedd y ddyfais ddiogelwch hon yn amhoblogaidd iawn ymhlith ffermwyr pan gyflwynwyd hi gyntaf. Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei derbyn a chredaf ei bod wedi lleihau’r nifer o ddamweiniau yn gysylltiedig â sefydlogrwydd ar ffermydd. Bydd yn ddiddorol cadw llygad ar y nifer o ddamweiniau ymgordeddu fydd yn digwydd yn dilyn cyflwyno’r system i ddatgysylltu’r PTO, sy’n digwydd pan fydd gweithredwr y tractor yn gadael ei sedd. 

Pan fyddwn yn dechrau meddwl am ddiogelwch mewn ffermio, rhaid i ni ofyn i ni’n hunain pam bod rhai o’r digwyddiadau yma’n digwydd? Mae gennyf rai syniadau! Yn gyntaf, mae ffermwyr yn ymroddedig a phenderfynol iawn a phan fyddan nhw yn gweld gwaith sydd angen ei wneud, gwneud y gwaith fydd yr unig beth ar eu meddwl. Maen nhw’n debygol o fwrw iddi yn syth heb feddwl am ffactorau eraill a all effeithio ar eu diogelwch e.e. gweld llo sydd ychydig oriau oed sydd heb sugno. Yr unig beth ar feddwl y ffermwr fydd cael llaeth i fol y llo. Yn aml ni fydd yn ystyried beth fydd y fuwch yn ei feddwl neu ni fydd wedi gofalu bod giât dda rhwng y ffermwr a’r fuwch wrth drin y llo. 

Enghraifft arall fyddai rhywun eisiau chwalu gwrtaith ar lethr serth. Yn sydyn mae’r diwrnod sych cyntaf ers wythnosau yn cyrraedd a’r unig beth ar feddwl y ffermwr yw chwalu gwrtaith, heb ystyried yn aml - a oes amser i osod yr olwynion dwbl? Pryd wnaethon ni wirio pwysedd teiars y tractor ddiwethaf? Neu ofyn a ddylwn i fod yn gwisgo gwregys diogelwch? Yn anffodus, dyma’r sefyllfaoedd sydd yn achosi damweiniau. 

Gall damweiniau eraill ar ffermydd ddigwydd i bobl heblaw staff arferol y fferm, gallant ddigwydd i gontractwyr neu gymdogion sy’n dod i’r fferm. Yr hyn y mae’n rhaid i ffermwyr ei wybod a’i ddeall, unwaith y bydd y bobl yma yn gweithio ar fferm, gall y ffermwr neu reolwr y safle gael ei gyfrif yn gyfrifol am unrhyw ddamweiniau sy’n digwydd iddyn nhw. Mae gan ddiwydiannau eraill fel adeiladu neu goedwigaeth systemau cyfarwydd yn eu lle, lle mae contractwyr yn gorfod dangos tystiolaeth i brofi bod yr holl ffactorau iechyd a diogelwch wedi cael sylw; yr holl offer yn cyrraedd y safon a’r staff i gyd yn gymwys a phrofiadol i wneud y gwaith. Gelwir hyn fel arfer yn ‘ddatganiad dull’.

Pan fydd y dogfennau yma yn eu lle mae’n dangos bod rheolwr y safle wedi gwneud popeth sy’n ‘rhesymol o ymarferol’ i sicrhau diogelwch yr holl weithwyr ar y safle. Dros y blynyddoedd mae’r damweiniau anffodus yma wedi digwydd heb gyflawni’r gwiriadau hyn, ac mae ffermwyr wedi cael eu dal yn gyfrifol. 

Fel ffermwyr rhaid i ni ystyried iechyd a diogelwch fel rhan hanfodol o reoli fferm. Problem gyffredin iawn sydd gennym mewn ffermio yw ein bod ni i gyd yn meddwl na fydd damwain ar y fferm fyth yn digwydd i ni!

Mae Cyswllt Ffermio’n cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant yn ymwneud ag Iechyd a
Diogelwch. Mae’r rhain i gyd wedi’u hariannu hyd at 80%, gan gynnwys:

  • ATV gan gynnwys llwythi ac offer sy’n cael ei lusgo (Eistedd arno)
  • ATV Llywio Confensiynol (Eistedd i mewn) 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â 03456 000 813.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth - Blog Anna Bowen
Rwy'n falch iawn i ddweud mai fi yw'r arweinydd newydd ar gyfer
Trosolwg o gynhadledd Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain 2025
Yn dilyn cyflwyno cais i roi cyflwyniad ar waith un o brosiectau
Dal i fyny gyda Llion a Sian Jones, Moelogan Fawr cyn y Gwanwyn
Gyda’r gwanwyn yn agosáu, bydd rheoli cyflwr a phorthiant