9 Hydref 2020

 

Gyda’r ansicrwydd ynghylch Brexit ac effeithiau COVID-19, mae angen annog a rhyddhau dynamiaeth ardaloedd gwledig yn awr yn fwy nag erioed.

Mae Cyswllt Ffermio yn awr yn ceisio meithrin syniadau arloesol yn ei ddigwyddiad Arloesedd ac Arallgyfeirio rhithwir o ddydd Llun 19 Hydref hyd ddydd Gwener 23 Hydref.

Mae’r rhaglen bum diwrnod yn cynnwys unigolion ac arbenigwyr allweddol yn eu meysydd fydd yn rhannu eu gwybodaeth, eu hanes a’u cyngor gyda ffermwyr sydd am arallgyfeirio neu eraill sydd â syniadau i ddatblygu busnes gwledig.

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sydd yn darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, y gall ychwanegu gweithgareddau busnes at ffermio traddodiadol fod yn bwysig i gael sicrwydd at y dyfodol o ran bywoliaeth a busnesau sydd wedi eu sefydlu yn barod.

“Bydd ein siaradwyr yn ysbrydoli a chynghori ar sut y gall cynaliadwyedd a phroffidioldeb busnes gael eu gwella trwy arloesedd a thechnoleg.”

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Sean Taylor, a wnaeth greu’r cwmni antur llwyddiannus iawn o Ogledd Cymru, Zip World.

Bydd Kelly Chandler, ymgynghorydd sy’n arbenigo mewn priodasau, yn arwain gweithdy ar sut i arallgyfeirio i greu lleoliadau priodas tra bydd y Squirrels Nest Treehouse Retreat yn rhoi cyngor ar gychwyn menter glampio.

Gellid dod ar draws arloesedd mewn garddwriaeth hefyd a bydd Grace Choto, o’r AHDB, yn trafod hyn yn ei gweithdy.

Bydd cyngor hefyd gan Geraint Hughes ar sut y gall defnyddio technoleg synwyryddion isel eu cost, hirhoedlog arwain at well rheolaeth ar ffermydd Cymru a helpu busnesau i ddod yn fwy proffidiol.

Mae themâu’r gweminarau eraill yn amrywio o fapio pridd manwl gywir i greu gwefan a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo busnes.

Am ragor o fanylion a chyngor ar sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad cliciwch yma.

Dyma restr y gweminarau, er mwyn archebu eich lle, mae’n rhaid i chi gofrestru eich diddordeb erbyn 8yb ar ddiwrnod y digwyddiad drwy ebostio: delyth.evans@menterabusnes.co.uk

20/10/2020

11:00

Tai Coed: Ein profiad o arallgyfeirio

20/10/2020

15:00

A yw arallgyfeirio i’r farchnad briodasau yn opsiwn ar gyfer eich busnes

20/10/2020

20:00

Sut lwyddodd un busnes arallgyfeirio i ddod yn enwog ar draws y byd!

21/10/2020

10:30

Arloesi ym maes Garddwriaeth (Tatws/Moron a llysiau coesynnog)

21/10/2020

14:00

Rhyngrwyd y Pethau ar ffermydd Cymru: Gwneud y broses o reoli ffermydd yn haws, yn well ac yn fwy proffidiol.

21/10/2020

20:00

Beth yw rôl technoleg “Rhyngrwyd y Pethau” mewn amaethyddiaeth?

22/10/2020

12:30

Mapio’r Pridd yn Fanwl Gywir ar fferm Pantyderi

22/10/2020

15:30

Gwerthu ar-lein

22/10/2020

20:00

Crynodeb o’r adroddiad ffermio arloesol

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o