28 Ionawr 2025
Gyda nwy angheuol anhysbys yn cael ei ollwng gan slyri sy’n gyfrifol am farwolaethau ym myd amaeth bob blwyddyn, mae Partneriaeth Diogelwch Ffermwyr Cymru (WFSP) yn codi ymwybyddiaeth o’r risgiau sy’n bodoli, hyd yn oed mewn mannau agored.
Gall hydrogen sylffid fod yr un mor angheuol y tu allan ag y mae mewn mannau cyfyng a gall ei fygdarth gwenwynig lethu ffermwyr o fewn eiliadau, yn ôl Llysgennad WFSP, Alun Elidyr.
“Nid oes y fath beth â thanc slyri diogel,'' mae'n mynnu.
Mae’n bwysicach nag erioed bod ffermwyr yn ymwybodol o risgiau’r nwyon mewn slyri sydd wedi’i storio gyda’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol newydd mewn grym, gyda chyfnodau caeedig yn gwahardd taenu slyri a thail organig yn amrywio o 1 Awst – 31 Ionawr, yn dibynnu ar y math o dir a chnwd.
Mae slyri yn cynnwys mwy nag un nwy gan gynnwys methan, amonia a charbon deuocsid ond y mwyaf peryglus yw hydrogen sylffid.
Mae dau neu dri anadliad o’r nwy hwn yn ddigon i ddrysu neu lethu unigolyn, meddai Alun.
“Mae’r nwy yma’n drymach nag aer felly mae’n eistedd metr neu ddau uwchben wyneb slyri. Gall unrhyw un sy'n rhoi ei ben yn y gofod hwnnw, yn enwedig pan fydd tanc yn corddi, ei anadlu i mewn heb sylweddoli hynny,'' eglura.
“Nid oes arogl arno felly ni fyddwch yn gallu dweud a ydych wedi dod i gysylltiad ag ef.''
Mae’r broses gorddi, pan fydd y tanc yn cael ei gymysgu i gyfuno'r solidau a'r hylif, yn arbennig o beryglus oherwydd bod y broses hon yn rhyddhau'r nwyon.
Gall da byw hefyd farw drwy fewnanadlu'r mygdarthau hyn.
Dywed Alun ei bod yn hollbwysig i ni fabwysiadu’r meddylfryd ‘stopio a meddwl yn ddiogel’ cyn dechrau tasg yn ymwneud â slyri, fel sy’n wir am unrhyw dasg fferm arall.
“Cynlluniwch eich gwaith, y cynllun hwnnw yw eich asesiad risg,'' dywed.
“Does dim rhaid ei ysgrifennu ond effaith ei ystyried yw’r broses bwysicaf yn eich diwrnod, boed yn gweithio gyda slyri, trin a thrafod da byw, dipio defaid, neu weithio ar uchder.''
Mae heriau ariannol a llafur a newidiadau i arferion fferm yn golygu bod ffermwyr yn aml yn gweithio ar eu pen eu hunain ac mae hyn yn cyflwyno ei risgiau ei hun yn y sefyllfaoedd hyn.
Cred Alun y byddai system 'cyfaill', sy'n gyffredin ymhlith coedwigwyr ac sy'n golygu bod gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain yn cysylltu â rhywun ar adegau y cytunwyd arnynt, yn fuddiol iawn i lawer o weithrediadau ffermio, gan gynnwys gwaith gyda slyri.
“Y sefyllfa ddelfrydol yw na ddylai unrhyw ffermwr fod yn gweithio ar ei ben ei hun, yn enwedig mewn sefyllfaoedd sydd â risg uchel, ond pan maen nhw, rydw i'n gwybod am achosion lle mae'r system “cyfaill” wedi achub bywydau.''
Pwysleisiodd Alun bwysigrwydd dilyn system waith diogel a thybio bod nwyon peryglus yn bresennol o amgylch slyri, ac i liniaru'r perygl.
Cynghorir ffermwyr i ddefnyddio monitor nwy slyri, a all gostio llai na £200, er bod Alun yn rhybuddio na ddylid dibynnu’n llwyr arnynt.
“Mae’n faes aneglur oherwydd gall unrhyw beth dros 200 rhan y filiwn (ppm) fod yn berygl ond efallai y bydd awel yn chwythu trwy sied gyda storfa danddaearol ac nid ydych yn teimlo’r effeithiau ond yn sydyn mae swigen o nwy yn codi ac mae’r lefel yn codi hyd at 500ppm a all gael effaith sy’n bygwth bywyd.”
Dywed y dylai ffermwyr wneud popeth posib i atal damweiniau rhag digwydd.