Bydd y podlediad hwn yn gyfle i ddeall ychydig mwy am gynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a sut y gallai’r cynllun weithredu yng nghyd-destun fferm ddefaid go iawn. Byddwn yn canolbwyntio ar y camau gweithredu cyffredinol ar gyfer meincnodi, iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch yn benodol wrth i ni ystyried y broses barhaus o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy o fewn y cynigion. Mae holl ffermwyr Cymru’n cael eu hannog i gwblhau’r arolwg SFS i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion yr SFS i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio ar lawr gwlad. Gellir dod o hyd i’r arolwg yma-
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/diweddariad-ar-y-cynllun-ffermio-cynaliadwy
Mae'r arolwg a'r ffurflen adborth yn cau ar 31 Hydref 2022.