Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth

KEH

Beth yw Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio?

 

Mae'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth yn adnodd ar y cyd rhwng Cyswllt Ffermio ac IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ei nod yw:

  • darparu cyswllt rhwng ymchwilwyr, cynghorwyr proffesiynol a ffermwyr a choedwigwyr
  • cynyddu defnydd o ddeilliannau ymchwil mewn busnesau sy’n seiliedig ar y tir ledled Cymru
  • cynyddu ymwybyddiaeth ymchwilwyr o faterion ac ymatebion ar lawr gwlad

Sut all y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth fod o fudd i'ch busnes?

Bydd y Ganolfan yn casglu gwybodaeth o’r ymchwil byd-eang diweddaraf a fydd ar gael wedyn ar gyfer y rhaglen Cyswllt Ffermio. Bydd yr wybodaeth yn cael ei rannu trwy weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth amrywiol gan sicrhau y gellir ei weithredu'n ymarferol mewn busnesau fferm a choedwigaeth ledled Cymru.

Bydd yn cyflawni hynny mewn 3 ffordd:

  • Trwy gyfrwng erthyglau technegol sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â phwnc penodol. Bydd yr erthyglau'n cael eu cyhoeddi yn llyfrgell erthyglau technegol y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth.

    llyfrgell erthyglau technegol
  • Trwy ddarparu mewnbwn ac arweiniad technegol sy’n galluogi Rhwydwaith Arddangos Cyswllt Ffermio i ddatblygu prosiectau a fyddai’n gallu cael eu gweithredu ar ffermydd i arddangos syniadau arloesol ac arfer dda.

    Rhwydwaith Arddangos
  • Trwy ddarparu Grwpiau Gweithredol sy’n dymuno cyflwyno prosiectau ar gyfer cronfa ariannol Partneriaeth Arloesi Ewrop, gall y Ganolfan gynnal archwiliadau llenyddol er mwyn sicrhau bod prosiectau'n seiliedig ar dystiolaeth. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein canllaw Partneriaethau Arloesi Ewrop.

    Partneriaethau Arloesi Ewrop

Erthyglau Technegol

Bydd erthyglau technegol yn cael eu cynhyrchu i drafod amrywiaeth o bynciau i gefnogi'r rhaglen Cyswllt Ffermio ehangach. Anelir yr erthyglau lefel uchel yma tuag ar ffermwyr a choedwigwyr a fyddai'n awyddus i edrych ymhellach ar y meddylfryd diweddaraf, ac ar gyfer cynghorwyr a phobl broffesiynol ym myd cyfnewid gwybodaeth. Byddant yn darparu cipolwg ar yr ymchwil diweddaraf yn ymwneud â phynciau penodol.

Os oes gennych chi syniadau ynglŷn â phynciau yr hoffech weld erthyglau technegol yn cael eu cynhyrchu i'w trafod, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â Cyswllt Ffermio.